Mae Clwb Pêl-droed Abertawe’n dweud eu bod nhw’n “drist iawn” o glywed am farwolaeth Ronnie Rees yn 79 oed.

Chwaraeodd y gŵr o Ystradgynlais yng Nghwm Tawe i’r Elyrch mewn 100 o gemau dros gyfnod o dair blynedd a hanner gyda’r clwb, ac fe enillodd e 39 o gapiau dros Gymru.

Ond dechreuodd ei yrfa gyda Coventry, gan chwarae dros 230 o weithiau a’u helpu nhw i ennill yr Ail Adran.

Treuliodd e gyfnodau gyda West Brom a Nottingham Forest hefyd, cyn dychwelyd adref yn 1972 am ffi oedd yn record ar y pryd.

Ar ôl gadael yr Elyrch, bu’n chwarae i Hwlffordd.

“Mae meddyliau pawb yn y clwb gyda ffrindiau a theulu Ronnie ar yr adeg drist hon,” meddai llefarydd ar ran y clwb.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd wedi mynegi eu cydymdeimlad, a dywed Clwb Pêl-droed Coventry y bydd “colled fawr” ar ôl “seren y 60au”.

Dywed Dave Phillips, cyn-chwaraewr Cymru, Nottingham Forest a Coventry, ei fod yn “drist” o glywed am ei farwolaeth.