Mae Clwb Criced Morgannwg yn dweud ei bod hi wedi bod yn anodd sicrhau parhad criced sirol ar gae San Helen yn Abertawe yn y tymor hir oherwydd “trefniadau perchnogaeth a rhanddeiliaid” y cae glan môr.
Does dim sicrwydd hirdymor ynghylch perchnogaeth o’r cae, yn ôl y Pennaeth Gweithrediadau a Phrif Weithredwr dros dro Dan Cherry, a dydy Cyngor Abertawe ddim wedi rhoi sicrwydd i Forgannwg y bydd modd defnyddio’r cae yn y tymor hir chwaith.
Cymhlethdod arall yw fod gan San Helen nifer o randdeiliaid – Cyngor Abertawe, Clwb Rygbi Abertawe a Chlwb Criced Abertawe – a dydy’r Cyngor na’r clwb rygbi ddim wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y cae.
Dydy Morgannwg ddim wedi chwarae ar gae San Helen ers cyn Covid, ond roedd yr ysgrifen ar y mur lawer cynt na hynny mewn gwirionedd, ac fe fu teimlad ers tro ei bod hi’n unfed awr ar ddeg ar ddyfodol y gêm broffesiynol yn y ddinas.
Mae tynged San Helen fel pe bai wedi’i gadarnhau bellach, wrth i Forgannwg gydnabod wrth golwg360 na fydd modd iddyn nhw ddychwelyd yno yn sgil dirywiad sylweddol yn safon y cyfleusterau dros y blynyddoedd diwethaf fel nad ydyn nhw bellach yn cyrraedd y safon sy’n ofynnol.
Ond gyda chlwb cefnogwyr Orielwyr San Helen yn brwydro i gadw criced sirol yn y de-orllewin ers degawdau bellach, mae’r cadeirydd John Williams yn cyhuddo’r Cyngor o esgeuluso treftadaeth chwaraeon Abertawe, ac Edward Bevan, gohebydd criced BBC Cymru yn dweud bod y Cyngor yn blaenoriaethu’r cyfleusterau ac adnoddau anghywir ar draul San Helen.
Diffyg buddsoddiad
Mae Cyngor Abertawe’n dadlau bod Morgannwg yn defnyddio San Helen yn llai rheolaidd o lawer ers iddyn nhw brynu Gerddi Sophia a’i throi’n stadiwm ryngwladol yn 2007-08.
Dydyn nhw ddim wedi chwarae ar y cae sy’n gartref i Glwb Criced Abertawe o gwbl ers 2019 o ganlyniad i Covid-19.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, daeth hi’n orfodol i bob cae dosbarth cyntaf fodloni cyfres o ofynion Bwrdd Criced Cymru a Lloegr er mwyn gallu cynnal gemau sirol.
Cafodd arolwg o San Helen ei gynnal gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr yn 2018 a 2019, gan edrych ar y cae a’r cyfleusterau i gyd, a chafodd nifer o heriau eu nodi.
Erbyn hyn, dydy’r llain na’r cae ehangach ddim yn ddigon da, ac mae Morgannwg yn dweud y byddai angen cryn fuddsoddiad cyn y bydden nhw’n cyrraedd y safon angenrheidiol ar gyfer criced dosbarth cyntaf.
Mae buddsoddi’n hanfodol er mwyn bodloni gofynion Bwrdd Criced Cymru a Lloegr hefyd – ond beth yw’r gofynion, a pha heriau mae Morgannwg yn eu hwynebu wrth geisio bodloni’r safonau hynny?
Y cae a’r llain
Er mwyn gwella safon y cae, byddai’n rhaid ailosod tair llain ar gost sylweddol, a dydy’r cae ddim bellach yn ddigon hir ar ochr y môr i gynnal gemau undydd, yn ôl adborth sydd wedi’i roi i Forgannwg.
Mae pryderon diogelwch pellach ynghylch yr heol a’r llwybrau cerdded y tu allan i’r cae, gyda 35 o ergydion chwech yn y gêm 50 pelawd rhwng Morgannwg a Chaint yn 2017, a sawl pêl yn glanio’n beryglus y tu allan i’r cae.
Mae cryn ddifrod i’r cae hefyd, ar ôl i ranbarth rygbi’r Gweilch fod yn ymarfer arno yn ystod cyfnod Covid-19, a byddai angen cryn fuddsoddiad er mwyn bodloni safonau criced dosbarth cyntaf.
Beth am gyfleusterau’r chwaraewyr, swyddogion a’r wasg?
Mae’r blwch sylwebu ac ystafell y wasg wedi’u dymchwel am resymau diogelwch erbyn hyn, mae ceginau’r clwb ynghau ers tro, a does dim sicrwydd pryd y byddan nhw’n ailagor, os o gwbl.
Does dim mynediad at gyfleusterau technoleg gwybodaeth yn y cae erbyn hyn chwaith.
Yn ychwanegol at hynny:
- mae cyfleusterau newid annigonol i’r dyfarnwyr
- mae cyfleusterau bwyta annigonol i’r chwaraewyr a’r swyddogion (bu’r ceginau ynghau ers tro)
- does dim ystafell reoli ar gyfer iechyd a diogelwch a lles staff
- does dim camerâu cylch-cyfyng
- does dim digon o doiledau ar gyfer cefnogwyr
- does dim mannau gwylio ar gyfer cefnogwyr ag anableddau
- does dim digon o fwyd a diod o safon
- mae diffyg cyfleusterau teuluol
- does dim mannau aml-ffydd tawel
- mae diffyg cyfleusterau meddygol
O ran lletygarwch, mae Clwb Rygbi Abertawe’n cynnig cyfle hirdymor i fusnesau logi ystafelloedd, ac felly byddai llai o le i groesawu gwahoddedigion ar ddiwrnodau gemau bellach.
Esgeuluso hanes a threftadaeth yn “anghredadwy”
Mae John Williams hefyd yn cyfeirio at ddiffyg buddsoddiad gan y Cyngor, ond mae e’n teimlo eu bod nhw hefyd wedi esgeuluso hanes a threftadaeth San Helen fel cae o bwys hanesyddol yng Nghymru ac ar draws y byd.
Wedi’r cyfan, yno y gwnaeth y batiwr byd-enwog Garry Sobers daro’r chwech chwech cyntaf yn hanes criced, ac yno hefyd y gwnaeth Morgannwg guro Awstralia yn 1964 a 1968, y tro cyntaf i’r un o’r siroedd guro’r Awstraliaid ar ddwy daith yn olynol.
Mae plac glas y tu allan i’r cae yn nodi’r achlysuron hanesyddol hyn, ochr yn ochr â champau tîm rygbi Abertawe dros y blynyddoedd, ac mae’r cyfan yn rhan o wead y ddinas a’r sir.
“Mae’n anghredadwy fod y Cyngor ddim wedi gofalu am dreftadaeth a’r hanes sydd yng nghae San Helen, lle mae cymaint o gemau byd-enwog wedi bod dros y degawdau,” meddai.
“Ond y peth mwyaf yw’r awydd i ddod ’nôl, hynny yw yr awydd sydd gyda Morgannwg.
“Dydyn ni ddim yn gyfrifol am ddyfodol ein hunain achos bo ni’n gorfod delio gyda’r tri gwahanol barti, sef Morgannwg, y Cyngor am y cae, a’r Clwb Rygbi i ddefnyddio’r ystafelloedd newid a lletygarwch.
“Fi ddim yn credu bod dim awydd [gan Forgannwg]. Does dim awydd wedi bod.
“Y peth yw, does dim gweledigaeth gyda’r Cyngor i gadw traddodiad criced yn Abertawe yn San Helen.”
Effaith y tymor rygbi ar griced
Ond ffactor ychwanegol y tu allan i reolaeth Morgannwg, meddai John Williams, yw fod y tymor rygbi bellach wedi cael ei ymestyn, sy’n dod â heriau i gae sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer rygbi a chriced.
“Roedden ni dan anfantais ambwyti’r rygbi hefyd, achos bod y tymor rygbi wedi mynd ymlaen i fis Mai, ac roedd mwy o ddefnydd o San Helen gyda’r merched,” meddai.
“Flynyddoedd yn ôl, roedden ni’n gallu cael San Helen ar ddiwedd Ebrill yn rhwydd, ond mae’r tymor rygbi wedi mynd yn hir.
“Mae gwaith paratoi’r cae cyn i ni chwarae criced, ac roedd eisiau o leiaf dair wythnos i baratoi ar ôl i’r rygbi bennu.
“Dyw e ddim yn gorffen tan o leiaf fis Mai, ac rwyt ti’n mynd i fis Mehefin wedyn, ac mae’r fixture list ar gyfer y criced yn newid cymaint hefyd.”
‘Taflu’r Orielwyr allan o’u cartref’
Er gwaethaf cryn waith caled yr Orielwyr, hyn a hyn mae gwirfoddolwyr selog wedi gallu ei wneud i gynnal y sefyllfa fel ag yr oedd hi, ond mae John Williams yn ymfalchïo yn eu gwaith ac yn teimlo eu bod nhw “wedi cael eu towlu allan o’u cartref”.
“Ni wedi rhoi £22,000 yn y blynyddoedd diwethaf cyn Covid, ac yn rhoi’r siec yn ystod noson wobrwyo ond ymhellach na hynna, ni oedd yn paratoi’r cae cymaint oedden ni’n gallu – gydag elastoplast!” meddai.
“Gan bo ni’n defnyddio aelodau gwirfoddol o’r Orielwyr, roedden ni jyst yn gwneud e, yn glanhau ac yn twtio ystafell y wasg ac ati, ac yn trio gwneud y “minimum amount of preparation” yn glanhau Fred’s Bar [bar y cefnogwyr] ac yn y blaen.
“Roedden ni’n gwneud popeth, ac wedi rhoi lot o arian am y gorchuddion cae.
“Ond ar ddiwedd y dydd, does dim arian yn unman y dyddiau yma.
“Mae’n ofnadw o druenus.
“Mae’n teimlo fel bo nhw wedi towlu’r Balconiers ma’s. Thrown out of our own home! Mae’n ofnadw.”
‘Blaenoriaethau anghywir’
Mae gan Edward Bevan atgofion plentyn a sylwebydd o fynd i wylio criced yn San Helen – nifer ohonyn nhw â’i ffrind pennaf a chyd-sylwebydd, y diweddar Don Shepherd.
Mae’n cofio trên y Mwmbwls yn pasio San Helen, a’r gyrrwr yn stopio er mwyn i’r teithwyr gael gwylio pelawd wrth fynd heibio, cyn symud ymlaen ar eu taith.
Ond mae’n dweud bod y Cyngor wedi blaenoriaethu’r cyfleusterau anghywir yn y ddinas dros y blynyddoedd.
“Maen nhw’n newid yr heolydd ac yn y blaen bob dwy flynedd, yn hytrach na chanolbwyntio ar San Helen,” meddai wrth golwg360.
“Dylai fod nawr ryw fath o ymdrech i gael y maes ’nôl. Dyw e ddim yn mynd i gostio lot.”
Mae’n wfftio’r awgrym fod Covid wedi cael effaith ar amseru’r penderfyniad i roi’r gorau i chwarae criced dosbarth cyntaf yn San Helen.
“Sai’n credu bod Covid wedi cael effaith o gwbl. Beth am lefydd eraill?” meddai, gan gyfeirio at achos Scarborough yn Swydd Efrog fel un o’r caeau allanol sydd wedi parhau i gynnal gemau er gwaethaf cyfnod y pandemig.
“Pe bai’r Cownsil a Morgannwg wedi rhoi £25,000 mewn, dyna i gyd oedd eisiau gwneud fynna oedd diweddaru swyddfeydd i Forgannwg fynd lawr i weithio, gwella’r toiledau efallai, gwneud yn siwr bod y chwaraewyr yn cael bwyd, cawodydd…
“Fyddai hwnna ddim yn costio lot o arian.”
Effaith bellgyrhaeddol
Yn ôl Edward Bevan, mae’r sefyllfa’n debygol o gael effaith ar griced yn ehangach yn y gorllewin.
“Ble mae’r bobol o Sir Benfro? Sdim lot o gyfle gyda nhw nawr i weld criced,” meddai.
Mae prinder datblygu chwaraewyr o’r gorllewin i chwarae i Forgannwg yn destun pryder i ohebydd criced BBC Cymru hefyd.
Gydag Andrew Salter, y troellwr o Sir Benfro, wedi ymddeol a nifer o chwaraewyr eraill o’r gorllewin wedi’u rhyddhau o’u cytundebau, does neb ymhlith y garfan yn hanu o’r gorllewin erbyn hyn.
“Wy’n methu credu, dim un aelod o staff [o’r gorllewin],” meddai.
“Yn ’69 a ’97 [pan enillodd Morgannwg y Bencampwriaeth], roedd rhyw bump. Hanner y tîm yn dod o’r gorllewin! Beth sydd wedi digwydd?
“Mae lot nawr yn dod o Sain Ffagan a Monmouth School, ac mae hwnna’n becso fi.
“Mae’n rhaid i bobol ddihuno nawr ym Morgannwg, a’r Cownsil hefyd, yn colli lle fel yna.
“Mae pobol dros y wlad yn gofyn, ‘Pam dych chi ddim yn chwarae yn San Helen? Ry’n ni’n dwlu dod lawr’.
“Mae B&Bs i gyd lawr yr heol, mae hi mor hawdd cerdded lawr yn y bore, parcio yn iawn lawr ar y Rec. Digon o le.
“Wy’n grac amdano fe, a dweud y gwir.
“Mae Morgannwg yn dweud bo nhw’n gwneud rhywbeth, ond roedden nhw’n dweud hwnna dair blynedd yn ôl.”
Beth mae Morgannwg yn ei ddweud?
Yn ôl Dan Cherry, Pennaeth Gweithrediadau a Phrif Weithredwr dros dro Clwb Criced Morgannwg, mae’r clwb yn “siomedig” nad oes modd cynnal criced dosbarth cyntaf yn San Helen erbyn hyn, “yn enwedig o gofio ein traddodiad a hanes y cae, a chefnogaeth hirdymor Orielwyr San Helen”.
“Yn anffodus, mae dirywiad parhaus y cyfleusterau, diffyg sicrwydd o ran dyfodol hirdymor y cae, a dim cynllun buddsoddi wrth symud ymlaen yn golygu nad yw’r cae yn gallu ateb gofynion cynyddol criced proffesiynol, gan gynnwys iechyd a diogelwch yr holl ddefnyddwyr,” meddai wrth golwg360.
Ond mae’n dweud bod y clwb wedi ymrwymo ers tro i sefydlu canolfan ragoriaeth yn y de-orllewin, fel bod modd datblygu cricedwyr gwrywaidd a benywaidd y dyfodol.
“Rydyn ni’n parhau’n weithgar wrth ymgysylltu â phartneriaid posib, gan gynnwys Cyngor Abertawe a Phrifysgol Abertawe,” meddai.
“Fodd bynnag, fyddai trefniadau perchnogaeth a rhanddeiliaid San Helen ddim yn ei gwneud hi’n hawdd i fuddsoddwyr posib ar y safle, ac o ganlyniad, mae angen hefyd i ni allu ystyried opsiynau eraill os ydyn ni am ddatblygu chwaraewyr a’r gêm yng ngorllewin Cymru.”
Ymateb Cyngor Abertawe
Os yw John Williams, Edward Bevan a Chlwb Criced Morgannwg yn beio’r Cyngor, beth sydd gan yr awdurdod lleol i’w ddweud am y sefyllfa, felly?
“Dydy’r lleoliad ddim bellach yn cael ei ddefnyddio fel cyfleuster criced dosbarth cyntaf parhaol o ganlyniad i benderfyniad Clwb Criced Morgannwg i adleoli i Gaerdydd,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Abertawe wrth golwg360.
“Yn ogystal, gyda chostau ac ymarferoldeb defnyddio’r cae ar gyfer yr wyl griced pum niwrnod flynyddol yn mynd yn fwy heriol, mae hyn wedi golygu nad yw Clwb Criced Morgannwg wedi defnyddio’r lleoliad ers 2019.
“Fodd bynnag, carem weld criced dosbarth cyntaf yn dychwelyd i Abertawe, a byddem yn croesawu mewnbwn gan y clwb wrth i’r cynlluniau ar gyfer gwell cyfleusterau chwaraeon ar gyfer y ddinas fynd rhagddynt.
“Yn y cyfamser, rydym yn parhau i gydweithio’n agos â Phrifysgol Abertawe a phartneriaid eraill i archwilio’r cyfleoedd i ddatblygu Parc Chwaraeon Bae Abertawe ymhellach, y gall San Helen fod yn rhan ohono.”
Cafodd Parc Chwaraeon Bae Abertawe ei sefydlu yn 2020, pan ddaeth Prifysgol Abertawe, Cyngor Abertawe, Chwaraeon Abertawe a Phwll Nofio Cenedlaethol Cymru ynghyd.
Y partneriaid hyn fu’n gyfrifol am lywodraethu’r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol a Phwll Nofio Cenedlaethol Cymru yn Abertawe ar y cyd.
Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n annog pobol i gymryd rhan mewn chwaraeon – boed yn ddechreuwyr pur neu’n athletwyr elit, gyda’r nod o gadw’n heini ac iach, hybu ffitrwydd ac iechyd, a datblygu sgiliau.
Ymhlith y cyfleusterau ar gyfer campau unigol a thimau sydd gan y Parc Chwaraeon mae pyllau nofio 25m a 50m, trac athletau, caeau chwarae, campfa a neuadd chwaraeon.
“Mae hyn yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i ddatblygu a chynnal cyfleusterau er lles cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol ar draws ystod o gampau ar lefel gymunedol a pherfformiad,” meddai’r llefarydd wedyn.
“Mae’r ymarfer marchnata wedi’i gwblhau ac yn cael ei asesu.
“Does dim penderfyniadau wedi cael eu gwneud, a byddai unrhyw gynigion yn destun unrhyw ymgynghoriad angenrheidiol.”