Mae cyfres o ddiwrnodau agored wedi’u trefnu i bobol dros 50 oed ar Ynys Môn, lle bydd cyfle i roi cynnig ar y gêm pêl picl, sy’n ennill tir ar yr ynys erbyn hyn.

Yn ôl y rhai sy’n ei chwarae, mae pêl picl yn dda i’r corff a’r meddwl, ac mae’n addas i bobol o bob oed.

Roedd y digwyddiad cychwynnol ar yr ynys yn boblogaidd ymhlith trigolion.

Mae Kath Knowles, cadeirydd Clwb Pêl Picl Môn sy’n 72 oed ac yn dod o Swydd Gaerhirfryn yn wreiddiol ond bellach yn byw ar yr ynys, wedi bod yn chwarae ac yn sefydlu clybiau pêl picl ers 2018.

“Mae pêl picl yn gêm hawdd ei dysgu sy’n addas i bob oed, rhwng 10 a 90,” meddai wrth golwg360.

“Roeddwn i’n chwarae gyda dyn 80 oed yr wythnos ddiwethaf yn Bolton, lle roeddwn i’n mynychu pencampwriaeth genedlaethol Lloegr.

“Des i â’r gêm i Ynys Môn yn 2018, ac ers hynny rydyn ni wedi ei datblygu ar draws yr ynys.

“Mae gennym ni sawl sesiwn i siwtio pob gallu.

“Roedd sesiwn yn cael ei rhedeg yng Nghaergybi ar gyfer pobol anabl gydag un o fy nghyd-chwaraewyr, ond oherwydd cyfyngiadau amser mae hynny wedi stopio.

“Yn yr English Nationals, lle rwy’ newydd fod, roedden nhw’n darparu ar gyfer yr anabl yno.

“Mae’n anodd iawn pan ydych wedi ymddeol; nid oes gennych amser, ond rwy’ newydd ymroi i’r gamp.

“Rydym yn helpu gyda phlant ysgol.

“Mae un o fy nghyd-chwaraewyr yn gweithio i Gyngor Sir Ynys Môn yn yr adran hamdden, ac mae’n helpu mewn sesiwn yn yr ysgol yn Llangefni.”

Gwreiddiau’r gêm

Cafodd y gêm ei chreu gan deulu yn yr Unol Daleithiau yn 1965, a chafodd ei henwi ar ôl eu ci.

Yn ôl pob tebyg, roedd y teulu ar ynys Bainbridge yn nhalaith Washington pan gafodd y gêm ei dyfeisio ganddyn nhw.

“Fe wnaethon nhw greu cwrt a dechrau chwarae,” meddai Kath Knowles.

“Roedd ganddyn nhw gi o’r enw Pickle, a phob tro roedd y bêl yn mynd allan o’r ffiniau, byddai Pickle yn mynd ar ôl y bêl.

“Ychydig iawn o sgiliau chwaraeon raced ydych chi eu hangen.

“Mae hi fel chwarae tenis bwrdd ar gwrt badminton.”


Y rheolau

Mae nifer fawr o reolau i bêl picl, ond mae Kath Knowles wedi eu symleiddio i golwg360.

Caiff y bêl ei serfio dan y fraich (underarm) o ochr dde’r cwrt, ac mae’n rhaid iddi deithio’n groeslin (diagonally) ar draws y cwrt.

Rhaid i’r tîm sy’n amddiffyn adael i’r bêl fownsio cyn ei dychwelyd, a rhaid iddi fownsio ben draw’r cwrt cyn cyrraedd y tîm sy’n serfio drachefn. Dim ond y trydydd tro mae hawl dychwelyd y bêl cyn iddi fownsio.

Mae’r system sgorio yn dilyn hen ddull badminton, yn ôl Kath Knowles.

Dim ond y tîm serfio sy’n gallu sgorio pwyntiau – un pwynt os nad yw’r tîm sy’n amddiffyn yn gallu dychwelyd y bêl, yn taro’r bêl allan o’r cwrt neu ddim yn gadael i’r bêl fownsio neu’n cael eu taro gan y bêl.

Am y cyntaf i gyrraedd 11 o bwyntiau yw hi, ond mae’n rhaid bod o leiaf ddau bwynt ar y blaen cyn y gall y gêm ddod i ben.

Y tîm oedd wedi ennill y pwynt blaenorol sy’n serfio bob tro, ond o ochr arall y cwrt.

O golli pwynt, y chwaraewr arall ar y tîm sy’n serfio nesaf o ochr draw’r cwrt ond os na fydd pwynt yn cael ei sgorio eto, mae’r tîm arall yn cael serfio nesaf.

“Y rheolau, mewn termau syml, yw ei fod yn underarm i ddechrau’r gêm,” meddai.

“Dyna’r hen sgorio badminton.

“Os yw’r serfiwr cyntaf yn colli pwynt, mae’n mynd i’r ail serfiwr.

“Allwch chi ddim sgorio pwynt os nad chi sy’n serfio.

“Mae wedi’i sgorio hyd at 11, a’r unig reol sy’n bwysig heb fynd i mewn i lyfr rheolau enfawr yw’r llinell wasanaeth mewn badminton; mewn termau pêl-fasged, rydym yn ei alw’n kitchen.

“Yn sicr, yn y Deyrnas Unedig a’r rhan fwyaf o leoedd, mae’n cael ei alw yn kitchen.

“Mae’r llinell wasanaeth saith troedfedd o’r rhwyd ganolog.

“O’r fan honno, mae’n union fel chwarae unrhyw gamp arall.

“Rydych chi’n ei gadw o fewn y ffiniau, ac mae maint y cwrt yr un maint â chwrt badminton i’r llinellau allanol.

“Rydych chi’n dal i sgorio cymaint o bwyntiau ag y gallwch chi.”