Mae Warren Gatland, prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi cyhoeddi’r tîm i herio’r Barbariaid yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Tachwedd 4, 2.30yp).

Hon fydd gêm olaf Leigh Halfpenny yn y crys coch, wrth iddo fe ennill cap rhif 101, a gemau olaf Justin Tipuric ac Alun Wyn Jones ar y llwyfan rhyngwladol hefyd.

Y blaenasgellwr Jac Morgan fydd yn arwain y tîm, gyda Dan Lydiate ben draw’r sgrym, a’r wythwr Aaron Wainwright yn cwblhau’r rheng ôl.

Y tri yn y rheng flaen yw Corey Domachowski, Lloyd Fairbrother a Dewi Lake, gyda Keiron Assiratti a Leon Brown allan ag anafiadau.

Ben Carter ac Adam Beard fydd yn chwarae yn yr ail reng.

Ymhlith yr olwyr, yr haneri fydd y mewnwr Tomos Williams a’r maswr Sam Costelow, gyda Johnny Williams a George North yn y canol.

Yn cwblhau’r olwyr mae’r esgyll Rio Dyer a Tom Rogers.

Ymhlith yr eilyddion mae Elliot Dee, Nicky Smith, Harri O’Connor, Teddy Williams, Taine Plumtree, Kieran Hardy, Cai Evans a Mason Grady.