Mae’r Gymraes Aimee Rees wedi ennill gwobr Chwaraewraig Llawr Gwlad y Flwyddyn The Sunday Times, am ei gwaith ym maes criced i fenywod a merched yng Nghymru.

Mae’n cael ei hadnabod fel un o’r bobol amlycaf yn ei maes, a hithau’n un o’r hoelion wyth yng Nghymru.

Mae’n cael ei hadnabod am ei gwaith dros gyfnod o ddegawdau yn cryfhau enw da criced i ferched yn y wlad, a hithau’n gyn-chwaraewraig gyda thîm Cymru a bellach yn is-hyfforddwr gyda’r Tân Cymreig yng nghystadleuaeth y Can Pelen.

Enillodd hi’r wobr drwy bleidlais gyhoeddus.

‘Menywod anhygoel’

“Doeddwn i ddim yn meddwl ar unrhyw adeg y byddwn i’n ennill, gan fod yr enwebeion eraill yn fenywod anhygoel,” meddai Aimee Rees.

“Diolch i’r rheiny wnaeth fy enwebu a phleidleisio drosof fi.

“Dw i’n teimlo’n eithriadol o lwcus o gel gweithio gyda menywod ifanc ysbrydoledig bob dydd yng Nghymru, mewn camp dw i’n ei charu.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl ar unrhyw adeg y byddwn i’n ennill, gan fod y menywod eraill gafodd eu henwebu’n anhygoel ac wedi cyflawni cymaint yn eu campau.

“Ni fu adeg well i fod yn gricedwraig yng Nghymru, mae’r gêm yn symud yn gyflym ac mae’n destun cyffro gweld merched ifainc yn cael y cyfle i ddilyn gyrfa fel cricedwraig broffesiynol os ydyn nhw’n dymuno, neu’n chwarae’r gêm gyda’u ffrindiau yn y llwybrau a’r clybiau sy’n ffynnu.”

Mae Times Sport wedi ei llongyfarch hi ar ei buddugoliaeth, gan ddweud ei bod hi “wedi trawsnewid criced yng Nghymru i fenywod a merched gyda’i gwaith caled a’i hymrwymiad, gan redeg y gamp bron iawn ar ei phen ei hun”.