Mae cais Clwb Pêl-droed Wrecsam i agor eisteddle newydd y Kop i’w gapasiti llawn pan fydd yn cael ei adeiladu, wedi cael ei wrthod gan y Cyngor.
Mae hysbysiad penderfyniad wedi cael ei roi gan Gyngor Wrecsam o ran cais y clwb i addasu’r amodau cynllunio, sydd ar hyn o bryd yn cyfynu’r eisteddle arfaethedig o 5,500 o seddi i 4,900 yn unig.
Ar ôl cael caniatâd cynllunio flwyddyn yn ôl i ddymchwel yr hen deras ac adeiladu’r Kop newydd, fe geisiodd y clwb sydd dan berchnogaeth y deuawd Hollywoodaidd Ryan Reynolds a Rob McElhenney ganiatâd i ddileu’r amod gafodd ei osod pan gafodd y caniatâd ei roi.
Effaith llygredd
Cafodd yr amod sy’n cyfyngu’r defnydd o’r eisteddle i 4,900 ei roi ar waith hyd nes bod effaith llygredd afonydd posib wedi cael ei mesur yn fanwl gywir.
Pan gafodd caniatâd ei roi ar gyfer yr eisteddle, cafodd prif swyddog cynllunio’r Cyngor bwerau wedi’u dirprwyo i ymdrin â’r amodau gafodd eu rhoi ar ddatblygu’r Kop, gan gynnwys trafodaethau parhaus â Chyfoeth Naturiol Cymru ar fater ffosffadau.
Cododd hyn o dargedau Cyfoeth Naturiol Cymru gafodd eu cyhoeddi ychydig flynyddoedd yn ôl er mwyn lleihau lefelau ffosffadau afonydd mewn ardaloedd cadwraeth arbennig ledled Cymru.
Roedd hyn yn dilyn pryderon am gynnydd mewn ffosffadau, sy’n gallu achosi llygredd dŵr, yn afonydd y wlad.
Ychydig fisoedd yn ôl, cafodd Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff Five Fords yn Wrecsam drwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru i’w galluogi nhw i fynd i’r afael â ffosffadau, ac roedd hyn yn sail i gais y clwb i ddileu’r amod yn cyfyngu’r capasiti.
‘Amserol’ dileu’r amod
“Mae’n glir fod defnyddio eisteddle’r Kop i’w gapasiti llawn wedi’i gefnogi, yn amodol ar fynd i’r afael â’r materion sydd wedi’u codi gan Dŵr Cymru,” meddai llythyr sy’n cefnogi’r cais gan Portia Banwell o Savills ar ran y clwb.
“Mae’n amserol dileu’r amod hwn gan fod Cyfleuster Trin Dŵr Gwastraff Five Fords (WWTF) wedi cael trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
“Mae hyn yn golygu bod yna gapsiti ar hyn o bryd gyda’r WWTF.
“Mae hyn yn golygu y bydd Eisteddle’r Kop ar ei newydd wedd ar y Cae Ras yn gallu dal y 5,500 o wylwyr y cafodd ei ddylunio ar eu cyfer a’i gymeradwyo.
“Mae cydnabyddiaeth fod tystiolaeth i gefnogi capasiti o 4,900 yn Eisteddle’r Kop, felly roedd y cyfyngiadau ond yn berthnasol i’r cynnydd net o 600.
“Byddai hyn ond yn berthnasol ar ddiwrnodau digwyddiadau, ac yn amlwg ond yn berthnasol i ran o’r diwrnodau hynny (h.y. amser byr ymlaen llaw, yn ystod ac yn fuan ar ôl digwyddiad).
“Mae Eisteddle’r Kop hefyd wedi’i neilltuo ar gyfer cefnogwyr ‘cartref’, a chyfran helaeth o’r rheiny yn dod o’r ardal leol (ac felly eisoes yn y dalgylch).
“O dan yr amgylchiadau hynny, mae’n amlwg fod yr effaith wirioneddol yn eithriadol o isel, a chafodd y cyfyngiad ei gyflwyno’n bennaf fel dull embargo llawn yn hytrach na phryderon gafodd eu nodi o ran Eisteddle’r Kop fel y cyfryw.
“Ond o ystyried y newidiadau i roi caniatâd a dileu’r amod o gyfyngiad, mae galluogi capasiti llawn yn amserol.”
Gwrthod serch hynny
Ond mae hysbysiad penderfyniad sydd wedi’i roi ar adran gynllunio gwefan y Cyngor yn dangos bod y cais i addasu’r amod wedi cael ei wrthod mewn penderfyniad wedi’i ddirprwyo sydd wedi cael ei awdurdodi gan y prif swyddog cynllunio David Fitzsimon.
Tra bod y clwb wedi awgrymu na fydd yr addasiad yn newid ryw lawer, mae’r Cyngor yn ei ystyried yn newid sylweddol – sy’n awgrymu bod yr awdurdod yn ceisio rhagor o dystiolaeth fanwl o blaid dileu’r amod, neu gais pellach sy’n adlewyrchu cynllun sydd wedi’i addasu.
Mae’r hysbysiad penderfyniad yn rhoi’r rheswm canlynol dros wrthod, gan nodi bod “y Cyngor trwy hyn yn cadarnhau eu bod yn ystyried yr addasiadau, fel sy’n cael eu disgrifio yn y cais, fel rhai sylweddol”.
“Mae eich cais ar gyfer addasiad ansylweddol i’r caniatâd cynllunio sy’n cael ei grybwyll uchod yn cael ei wrthod.
“Caiff yr ymgeisydd wybod nad oes hawl i apelio yn erbyn gwrthodiad y Cyngor i dderbyn yr addasiad ansylweddol hwn.
“Caiff yr ymgeisydd ei gynghori i gysylltu â’r Cyngor i drafod opsiynau a gweithdrefnau eraill i wneud y newidiadau gofynnol i’r caniatâd cynllunio presennol.
“Caiff yr ymgeisydd ei gynghori i gysylltu â phennaeth lles cymunedol a datblygu’r Cyngor cyn paratoi’r cynlluniau manwl.”
Mae’r Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol wedi cysylltu â Chyngor Wrecsam am ragor o fanylion ynghylch pam y cafodd y cais ei wrthod.
Y disgwyl yw y bydd eisteddle newydd y Kop yn barod ar gyfer tymor 2024-25.