Mae dyn sy’n bwriadu dringo tri chopa uchaf gwledydd Prydain, a rhedeg 450 milltir rhyngddyn nhw mewn naw diwrnod ar gyfer ymchwil Alzheimer, wedi derbyn cefnogaeth gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae miloedd o bobol yn ymgymryd â her y tri chopa bob blwyddyn, sydd fel arfer yn golygu cerdded i fyny ac i lawr mynyddoedd uchaf Cymru (yr Wyddfa), yr Alban (Ben Nevis) a Lloegr (Scafell Pike), gan yrru rhyngddyn nhw.

Fodd bynnag, er mwyn codi arian ar gyfer Alzheimers Research UK, nid yn unig y bydd Will Dean yn dringo pob copa, ond fe fydd yn mynd un cam ymhellach gan redeg rhyngddyn nhw.

Mae cwblhau’r daith 450 milltir yn gyfystyr â rhedeg bron i ddau farathon bob dydd.

‘Diolchgar’

Er mwyn cynorthwyo’r ymdrech i godi arian, mae academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi rhoi mynediad i offer arbenigol a chyfleusterau profi i Will Dean i’w gefnogi wrth baratoi at yr her.

“Dwi’n ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth yma yn Aberystwyth,” meddai wrth ymarfer ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Dw i’n gobeithio, wrth ymgymryd â’r her hon, nid yn unig galla i godi llawer o arian at yr achos hynod bwysig hwn ond hefyd dynnu sylw at y cyflwr.

“Mae dementia yn aml yn cael ei frandio fel ‘heneiddio normal’ ond allai hyn ddim bod ymhellach o’r gwir.

“Bydd fy her yn cynnwys cymryd dros 990,000 o gamau, mae’r nifer hwn yn debyg i gyfanswm y bobol sy’n byw gyda dementia yn y Deyrnas Unedig heddiw.

“Mae 7.5% o’r bobol hynny, fel fy mam, yn byw gyda dementia o dan 65 oed.

“Fy nghenhadaeth yw codi arian hanfodol sy’n helpu i wneud byd ag iachâd ar gyfer dementia yn bosibl.

“Bydd dementia yn effeithio ar un o bob dau o bobol yn ystod eu hoes; mae hyn yn golygu fy mod i wedi cysylltu â llawer o bobol sy’n rhannu’r un amcan.

“Dw i mor ddiolchgar i bawb sy’n cyfrannu a dw i’n gobeithio siarad â llawer mwy yn ystod Her y 3 Chopa.”

‘Ysbrydoliaeth’

“Mae ymdrechion Will yn ysbrydoliaeth ac mae’n fraint gallu rhoi ychydig bach o help iddo ar hyd y ffordd,” meddai’r ffisiolegydd ymarfer corff Dr Rhys Thatcher o Brifysgol Aberystwyth.

“Rydym yn falch y gellir defnyddio ein hoffer a’n harbenigedd yma i’w helpu i godi arian at achos mor bwysig.

“Rydyn ni ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dymuno’r gorau iddo gyda’r her. ”