Mae’r Senedd wedi clywed bod rhaid gwneud mwy i fynd i’r afael ag Islamoffobia yng Nghymru, gyda chynnydd sylweddol mewn troseddau casineb ar sail crefydd.

Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos cynnydd o 9% mewn troseddau casineb ar sail crefydd yn 2022-23 – 9,387 o droseddau i gyd, sef y ffigwr uchaf ers dechrau cofnodion yn 2012.

Mewn digwyddiad i lansio mis ymwybyddiaeth Islamoffobia ar gyfer mis Tachwedd, clywodd y Senedd straeon pwerus am y rhagfarn mae nifer o Fwslimiaid yn ei hwynebu bob dydd.

Dywedodd Nelly Adam wrth Aelodau’r Senedd fod coffi wedi cael ei daflu ati, ei bod hi wedi cael ei galw’n “frawychwr”, a’i bod hi wedi bod yn dyst i hijab ei chwaer yn cael ei dynnu.

Dywed yr ymgyrchydd ei bod hi hefyd wedi wynebu rhagfarn yn yr ysgol ac yn ystod cyfweliadau swydd.

Bu Aisha Davies o Sgiwen yn dathlu deunaw mlynedd yn ddiweddar ers iddi droi at Islam, ac mae hi’n dweud ei bod hi wedi wynebu Islamoffobia oddi mewn i’w theulu ei hun.

Cafodd hi ei chicio allan o’i chartref rywdro ar Noswyl Nadolig, a hynny’n dilyn ffrae fawr ag aelod o’r teulu oedd wedi disgrifio’i ffydd fel “crefydd milain”.

Wrth gael ei holi am yr hyn mae hi eisiau i bobol ei wybod am Islam, pwysleisiodd ei fod yn grefydd heddychlon.

Dywed Ali Ahmed, cynghorydd Llafur yn Cathays fu’n byw yng Nghaerdydd ers 45 mlynedd, ei fod e wedi cael ei sarhau ar strydoedd y ddinas yn dilyn y bleidlais ar Brexit.

Yn y cyfamser, mae Mohammad Alhadj Ali, cadeirydd Cymdeithas Syria Cymru, yn cofio sut y bu iddo helpu ceisiwr lloches ifanc yr oedd eu cyd-ddisgyblion wedi dweud wrthyn nhw am “fynd yn ôl i dy wlad dy hun”.

‘Dieithrio’

“I ieuenctid sy’n Fwslimiaid, gall Islamoffobia arwain at deimlad o ddieithrio ac erydu eu hunaniaeth,” meddai Ali Abdi, prif gydlynydd y Fforwm Ieuenctid Lleiafrifoedd Ethnig Cenedlaethol.

“Mae’n chwistrellu ofn a diffyg ymddiriedaeth i mewn i’w bywydau bob dydd, gan eu hachosi nhw i gwestiynu eu lle mewn cymdeithas ddylai fod yn gynhwysol a chroesawgar.

“Nid yn unig mae cylch gwenwynig gwahaniaethu yn effeithio ar eu lles seicolegol, ond hefyd mae’n rhwystr i’w cyfranogiad llawn mewn gwahanol gylchoedd bywyd, gan darfu ar gynnydd addysgol, cymdeithasol a phroffesiynol.”

Nod Mis Ymwybyddiaeth Islamoffobia, sydd yn ei unfed flwyddyn ar ddeg, yw tynnu sylw at gyfraniad positif Mwslimiaid, megis y £31bn maen nhw’n ei ychwanegu at economi’r Deyrnas Unedig bob blwyddyn.

Fe wnaeth Ali Abdi grybwyll esiampl bositif Hanna Mohamed, Mwslim Gymreig o dras Somali, sy’n aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.

Fe wnaeth e hefyd ganmol Ibby Osman, sydd hefyd o dras Somali ac sy’n gweithredu fel ymgynghorydd i’r Comisiynydd Plant a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

Fe wnaeth Sioned Williams, noddwr y digwyddiad ddydd Mawrth (Hydref 31), am ddatganoli pwerau dros gyfiawnder er mwyn mynd i’r afael â throseddau casineb.

“Os ydyn ni’n goddef anghyfiawnder yn erbyn ein trigolion Mwslimaidd, yna rydyn ni’n goddef anghyfiawnder i bawb – nid dyna’r Gymru rydyn ni’n credu ynddi na’i heisiau,” meddai Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru.

“Rhaid i ni gydweithio er mwyn meithrin Cymru oddefgar a chyfiawn i bawb, sy’n gwerthfawrogi, yn parchu ac yn adlewyrchu’n bositif bob agwedd ar amrywiaeth.”