Mae Uno’r Undeb yn galw am ymyrraeth ar unwaith gan Lywodraeth San Steffan i geisio achub diwydiant dur y Deyrnas Unedig.
Daw hyn yn sgil y newyddion fod ymgynghoriad ar y gweill i’r posibilrwydd o hyd at 3,000 o ddiswyddiadau yn y diwydiant dur, y rhan fwyaf ohonyn nhw ar safle Tata Steel ym Mhort Talbot.
Ac mae’n dod er gwaethaf addewid o fuddsoddiad gwerth £500m i helpu Tata i symud oddi wrth ffwrneisi chwyth traddodiadol tuag at ffwrnais arc trydan.
Mae’r undeb yn gwrthwynebu diswyddiadau torfol, meddai’r Ysgrifennydd Cyffredinol Sharon Graham, sy’n dweud bod strategaeth llywodraethau olynol wedi methu a bod angen gwneud mwy i helpu’r gymuned ddur.
“Mae Uno’r Undeb yn condemnio ystyriaeth Tata o ddiswyddiadau torfol,” meddai.
“Nid ydym yn derbyn yr angen am yr un toriad swydd.
“Mae strategaeth y llywodraethau olynol wedi methu.
“Ni ddylai trethdalwyr fod yn talu’r bil am fuddsoddiad newydd, oni bai bod hynny’n gysylltiedig â gwarantau swydd rwymol.
“Unig bwrpas Tata yw gwasanaethu ei gyfranddalwyr, nid cymunedau dur y Deyrnas Unedig.
“Dim ond trwy i’r llywodraeth gymryd rhan yn y cwmni, y bydd y dewisiadau cywir yn cael eu gwneud ar gyfer economi’r Deyrnas Unedig.
“Mae diwydiant dur y Deyrnas Unedig ar groesffordd, ac mae dewis gwleidyddol clir.
“Mae angen i wleidyddion benderfynu nawr ar ochr pwy maen nhw.
“Byddai cynllun Uno’r Undeb ar gyfer dur yn gweld y Deyrnas Unedig unwaith eto yn arwain y byd ym maes dur, gan ddyblu cynhyrchiant, diogelu cyflogaeth a chreu miloedd o swyddi newydd.
“Mae angen i’r llywodraeth a’r blaid Lafur nawr fynd yn llawer pellach a chefnogi Cynllun y Gweithwyr ar gyfer Dur.
“Mae Unite yn ymrwymo adnoddau sylweddol yn ein brwydr i achub ein diwydiant dur.”
Cynllun gweithwyr
Mae Uno’r Undeb wedi sefydlu Cynllun Gweithwyr ar gyfer Dur, sy’n nodi pedwar amcan allweddol ar gyfer dyfodol diwydiant dur y Deyrnas Unedig:
- newid rheolau caffael i adael i gontractau cyhoeddus y Deyrnas Unedig ddefnyddio 100% o ddur y Deyrnas Unedig, gan greu miloedd o swyddi
- buddsoddiad cyhoeddus ar gyfer Cynllun Pontio Gweithwyr Dur heb golli swyddi. Trosglwyddiad cyfiawn – wrth ddyblu’r gallu i ailadeiladu’r diwydiant a thyfu swyddi. Y buddsoddiad sydd ei angen yw £1bn y flwyddyn dros ddeuddeg mlynedd a bydd yn talu amdano’i hun gyda mwy o refeniw.
- mynd i’r afael â phrisiau ynni. Dod â chapiau prisiau trydan i mewn a pherchnogaeth gyhoeddus ar y grid i wneud ein dur hyd yn oed yn fwy cystadleuol.
- Dim mwy o arian am ddim. Rhaid i fuddsoddiad cyhoeddus ar gyfer dur ddod â gwarantau swyddi cadarn.