Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd coch am lifogydd yn Sir Benfro.

Rhybudd coch yw’r mwyaf difrifol, lle mae perygl i fywydau.

Mae’r rhybudd mewn grym yn ardal safle carafanau Kiln Park ar ffordd B4318 ac ambell heol fach gerllaw.

Maen nhw’n dweud bod “perygl sylweddol i fywydau” yno, ynghyd ag anghyfleustra yn y gymuned adeg y llanw uchel nesaf.

Mae’r rhai fu’n aros yn y parc gwyliau wedi cael cais i adael, ond maen nhw’n cael eu rhybuddio y gall fod rhai heolydd ynghau wrth i Gyfoeth Naturiol Cymru rybuddio am y posibilrwydd o’r lefelau uchaf erioed yn yr afon.