Mae Cyngor Sir Ceredigion yn dweud eu bod nhw am “sicrhau proses ddi-dor wrth gyfnewid perchnogaeth” a “chyn lleied o darfu â phosibl ar bobol” sy’n byw yng nghartref gofal Hafan y Waun yn Aberystwyth.

Gall teuluoedd a phreswylwyr Cartref Gofal Hafan y Waun fod yn dawel eu meddwl y bydd gwasanaethau o ansawdd uchel yn parhau, meddai’r Cyngor.

Roedd Cartref Gofal Hafan y Waun yn arfer cael ei reoli gan Methodist Homes (MHA), cyn iddyn nhw benderfynu roi’r gorau i redeg y cartref yn gynharach eleni.

Cymeradwyodd Aelodau Cabinet Ceredigion y penderfyniad i drosglwyddo’r cartref gofal i berchnogaeth y Cyngor, er mwyn sicrhau parhad o weithrediadau’r cartref ar gyfer preswylwyr a staff fel ei gilydd.

Mae’r trosglwyddiad bellach wedi digwydd.

Adeilad o ansawdd uchel

Mae Hafan y Waun yn adeilad modern cwbl weithredol gafodd ei adeiladu yn 2007, ac mae’n cwrdd â gofynion Arolygiaeth Gofal Cymru mewn perthynas â’r cyfleusterau sydd ar gael.

Mae yno 90 o ystafelloedd gwely en-suite, a phedair adain sy’n gallu bod yn hunangynhwysol, yn ogystal â gardd fawr sy’n ‘Deall Dementia’.

Mae’r trosglwyddiad perchnogaeth yng cefnogi Amcanion Llesiant Cyngor Sir Ceredigion i greu cymunedau iach a gofalgar, ac mae’n ffurfio rhan o raglen Llesiant Gydol Oes y Cyngor.

Cydweithio

Yn ôl y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Gwasanaethau Llesiant, Gofal a Chymorth Gydol Oes, mae cryn gydweithio wedi bod rhwng MHA a’r awdurdod i gael y cartref yn un o gartrefi’r awdurdod.

Mae’r cartref yn gofalu am bobol â dementia, ac maen nhw wedi gallu parhau i gynnal gofal heb darfu ar bobol drwy gydol y broses, medden nhw.

“Rydym wrth ein bodd bod Cartref Gofal Hafan y Waun bellach yn un o Gartrefi Gofal yr Awdurdod,” meddai’r Cynghorydd Alun Williams.

“Diolchwn i MHA am eu cydweithrediad gwych, gan sicrhau proses ddi-dor wrth gyfnewid perchnogaeth gan sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar breswylwyr, teuluoedd, staff a’r gymuned ehangach.

“Edrychwn ymlaen at gynnal y gwasanaethau pwysig a gynigir yng Nghartref Gofal Hafan y Waun – sef prif gyfleuster dementia y sir gyda lle i 90 o welyau.

“Roedd sicrhau dyfodol y cartref hwn yn flaenoriaeth allweddol i ni yng Ngheredigion er mwyn sicrhau y gall yr adnodd gwerthfawr barhau ar gyfer ein sir a’n cymunedau.”

‘Dyfodol cadarnhaol’

Yn ôl Sam Monaghan, Prif Weithredwr MHA, mae’r cartref yn edrych ymlaen at “ddyfodol cadarnhaol”.

“Rydym wrth ein bodd i allu sicrhau dyfodol cadarnhaol ar gyfer cartref gofal Hafan y Waun, er mwyn galluogi i’r ddarpariaeth gofal o safon dda i barhau ar gyfer pobol hŷn yn lleol,” meddai.

“Hoffai MHA estyn ein diolch a’n dymuniadau gorau i breswylwyr, teuluoedd a chyd-weithwyr y cartref gofal.”