Mae adroddiadau bod Sosialwyr Sbaen a phlaid Esquerra yng Nghatalwnia wedi dod i gytundeb i drosglwyddo rheolaeth o rwydwaith trenau cymudwyr i ddwylo Catalwnia.
Fe fu ceisio rheolaeth o rwydwaith Rodalies yn ymgyrch hir gan y pleidiau sydd o blaid annibyniaeth i Gatalwnia, ac roedd yn un o ofynion Esquerra yn y trafodaethau i gefnogi ailethol Pedro Sánchez yn Brif Weinidog Sbaen.
Mae Sbaen a Chatalwnia wedi dod i gytundeb “cynhwysfawr”, gan gynnwys y cledrau, trenau ac adnoddau, yn ôl Esquerra.
Mae’r mater hwn, a’r amnest ar gyfer ymgyrch annibyniaeth 2017, yn golygu bod Esquerra bellach wedi cymeradwyo ymgeisyddiaeth y prif weinidog dros dro i gael y swydd yn barhaol.
Bydd yn rhaid i’r cytundeb gael cymeradwyaeth mewn ymgynghoriad mewnol ar-lein ddydd Gwener (Tachwedd 3).
Mae disgwyl i’r rheolaeth ddigwydd mewn sawl cam.
Mae angen cefnogaeth nifer o bleidiau gwleidyddol ar y Sosialwyr i sicrhau grym, ac yn eu plith mae Esquerra a Junts per Catalunya, plaid arall sydd o blaid annibyniaeth.
Daw hyn ar ôl i Carles Puigdemont, cyn-arweinydd Catalwnia, gyfarfod â chynrychiolwyr o’r Sosialwyr ym Mrwsel ddechrau’r wythnos.
Bu’n rhaid iddo adael Sbaen ar ôl refferendwm 2017, ac mae bellach yn byw’n alltud yng Ngwlad Belg er ei fod yn dal i fod yn wleidydd yn enw Junts per Catalunya.
Rodalies
Fe fu cryn oedi ar wasanaethau Rodalies, sy’n cael eu rhedeg gan Renfe, ers blynyddoedd.
Y llynedd, roedd o leiaf un digwyddiad difrifol mewn o leiaf un lle ar y rhwydwaith ar bedwar ym mhob pum niwrnod, yn ôl adroddiad gan wasanaeth newyddion El Periodico.
Fe fu anghytuno rhwng Catalwnia a Sbaen ynghylch rheolaeth o Rodalies ers tro.
Ar y cyfan, Catalwnia sy’n gyfrifol am amserlenni, amlder gwasanaethau, ffioedd teithio a gwybodaeth i ddefnyddwyr, tra bod cwmnïau Renfe ac Adif dan reolaeth Sbaen yn gyfrifol am drafnidiaeth i deithwyr a rheoli, cynnal a chadw’r isadeiledd.