Mae pobol yn ardaloedd tlotaf Cymru’n marw mwy na chwe blynedd ynghynt na gweddill y boblogaeth, yn ôl Prif Swyddog Meddygol y wlad.
Mae Dr Frank Atherton yn rhybuddio y bydd yr argyfwng costau byw yn gwaethygu anghydraddoldebau iechyd rhwng yr aelwydydd cyfoethocaf a’r rhai tlotaf.
Yn ei adroddiad blynyddol, mae’n rhybuddio am effaith anghymesur yr argyfwng ar bobol ar incwm isel.
“Heb gamau priodol, effaith yr argyfwng costau byw fydd gwthio mwy o bobol yng Nghymru sydd jest â bod yn ymdopi i gyflwr lle maen nhw’n ei chael hi’n anodd neu mewn argyfwng, tra bod y rhai oedd fwyaf ar eu colled eisoes yn gweld eu sefyllfaoedd yn gwaethygu ymhellach,” meddai.
Mae’n rhybuddio y gallai’r argyfwng costau byw fod yr un mor niweidiol â phandemig Covid-19.
“Mae gan yr argyfwng costau byw y potensial i effeithio ar bawb yng Nghymru, ond y rhai oedd eisoes fwyaf ar eu colled yw’r rhai fydd yn cael eu bwrw galetaf,” meddai.
“Mae hyn yn debygol o gynnwys pobol ar incwm isel, pobol ddigartref, pobol sy’n byw ag anableddau, pobol hŷn, plant a’r rheiny sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.
“Felly bydd yr argyfwng costau byw yn cyflymu’r hyn oedd eisoes yn wahaniaethau cynyddol o ran iechyd rhwng yr aelwydydd ar eu hennill a’r rhai ar eu colled yng Nghymru.”
Gan alw am ymateb iechyd cyhoeddus brys i leihau effaith yr argyfwng, dywed Dr Frank Atherton fod chwyddiant cynyddol yn cael effaith ychwanegol gan fod y system gyfan yn llai abl i ymateb i angen cynyddol am wasanaethau iechyd, gofal a chymorth.
Mae’r ystadegau diweddaraf ar gyfer 2018-2020 yn dangos mai disgwyliad oes ar enedigaeth ar gyfer gwrywod oedd 74.1 blwydd oed yn y rhannau mwyaf difreintiedig o Gymru, o gymharu ag 81.6 yn y rhannau lleiaf difreintiedig.
Mae’r data’n dangos bod menywod yn byw am 78.4 o flynyddoedd ac 84.7 o flynyddoedd fel ei gilydd.
Busnes mawr
Fe wnaeth adroddiad Dr Frank Atherton, Siapio ein Hiechyd, gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau (Hydref 2), rybuddio hefyd y gall busnesau mawr danseilio iechyd y genedl.
Fe wnaeth e fynegi pryderon am y diwydiannau bwyd, alcohol a gamblo’n hyrwyddo cynnyrch afiach drwy ariannu rhaglenni addysg mewn ysgolion.
Mae mwy na 60% o boblogaeth Cymru, a bron i un ym mhob tri o blant sy’n dechrau yn yr ysgol gynradd dros eu pwysau neu’n ordew.
Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn argymell fod Llywodraeth Cymru’n ystyried rôl trethi ar halen a siwgr yn y dyfodol os yw cyflymdra’r newid sy’n cael ei arwain gan y diwydiant yn annigonol.
Mae hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i archwilio deddfwriaeth i ehangu’r ystod o ofodau di-fwg, gan ddechrau gydag ardaloedd bwyta awyr agored.
Mae’n galw am reoleiddio e-sigaréts mewn ffordd debyg.
Newid hinsawdd
Mae Dr Frank Atherton yn rhybuddio bod newid hinsawdd yn cael effaith fawr ar iechyd pobol, gan ddweud y bydd yn effeithio’n anghymesur ar y rhai mwyaf bregus yn y gymdeithas.
“Nid yn unig mae newid hinsawdd yn niweidio ein hamgylchfyd naturiol, ond mae hefyd yn cael effaith ar ein hamgylchfyd cymdeithasol a’n hiechyd personol,” meddai.
“Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi nodi mai newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i iechyd y ddynoliaeth.”
Mae ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru’n dangos cyfartaledd o 98.1 o farwolaethau bob dydd yng Nghymru yn ystod rhybuddion y Swyddfa Dywydd am wres eithriadol, o gymharu ag 84.3 o farwolaethau ar ddiwrnodau mwy addfwyn.
Mae Dr Frank Atherton hefyd wedi mynegi pryderon am wyrddgalchu – “tacteg cysylltiadau cyhoeddus sy’n cael ei defnyddio i wneud i gwmni neu gynnyrch ymddangos yn fwy amgylcheddol-gyfeillgar”.