Bydd plac porffor yn cael ei ddadorchuddio yn Aberystwyth heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 3) i anrhydeddu’r cennad heddwch Annie Hughes Griffiths.

Arweiniodd hi ddirprwyaeth i’r Unol Daleithiau yn 1924 i gyflwyno deiseb heddwch wedi’i llofnodi gan bron i 400,000 o fenywod Cymru.

Caiff y plac er cof am Annie Hughes Griffiths (1872-1942), fu’n astudio yn Aberystwyth yn yr 1890au, ei osod ar wal ei hen gartref ym Maes Lowri, lle mae ei ŵyr dal yn byw.

Hi yw’r bedwaredd ddynes ar ddeg i’w hanrhydeddu gan fudiad Placiau Porffor Cymru, gafodd ei sefydlu er mwyn gwella’r gydnabyddiaeth i fenywod eithriadol Cymru.

Caiff ei ddadorchuddio am 1yp gan aelodau’r teulu, a bydd Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, ymhlith y siaradwyr.

‘Ymgorffori ysbryd Placiau Porffor Cymru’

Yn ôl Sue Essex, cadeirydd Placiau Porffor Cymru, mae Annie Hughes Griffiths “wir yn ymgorffori ysbryd” y cynllun.

“Mae’r ffaith ei bod hi’n gallu arwain ar brosiect a oedd yn cyffwrdd llawer iawn o fenywod ledled Cymru a’u hysbrydoli i arwyddo deiseb o blaid heddwch yn arbennig iawn, ond yn fwy felly mewn oes heb y math o gyfathrebu sydd gennym ni heddiw.

“Ac roedd mynd ymlaen wedyn a’i chyflwyno i Arlywydd yr Unol Daleithiau a theithio ar draws y wlad yn gamp anhygoel.

“Rydw i mor falch y gallwn ni nodi hyn gyda Phlac Porffor.”

Yn ôl Jane Hutt, roedd Annie Hughes Griffiths yn “arloeswraig ym mudiad heddwch y menywod yng Nghymru”.

“Mae’n iawn ei bod yn cael ei chofio am ei hymdrechion rhyfeddol gyda phlac porffor,” meddai.

“Rwy’n falch iawn bod ei hetifeddiaeth bellach yn cael ei chydnabod ac mae’r ddeiseb a gafodd ei harwain ganddi hi wedi’i dychwelyd i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.”

Mae seremoni’r Plac Porffor yn rhan o raglen Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth.

‘Hawlio Heddwch’ yw thema’r ŵyl eleni, wedi’i hysbrydoli gan ganmlwyddiant Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24.

Lansio cyfrol ddwyieithog

Yn dilyn y seremoni, bydd cyfrol ddwyieithog yn cael ei lansio yn y Llyfrgell Genedlaethol, lle mae’r ddeiseb bellach yn cael ei harddangos.

Wedi’i golygu gan yr Athro Mererid Hopwood a Dr Jenny Mathers o Brifysgol Aberystwyth, mae Yr Apêl / The Appeal (Y Lolfa) yn cloriannu arwyddocâd yr ymgyrch heddwch, a sut aeth Annie Hughes Griffiths a thîm o drefnwyr ati i gasglu llofnodion 390,296 o fenywod o bob cefndir a phob cwr o Gymru.

“Wrth i ni lansio cyfrol yn adrodd hanes rhyfeddol Deiseb Heddwch Menywod Cymru, mae’n arbennig o addas ein bod yn dadorchuddio Plac Porffor i anrhydeddu ymdrechion Annie a’r miloedd o fenywod eraill a ddaeth ynghyd ganrif yn ôl i wneud apêl mor uchelgeisiol am heddwch byd-eang,” meddai’r Athro Mererid Hopwood.

Mae tocynnau ar gyfer Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth – ‘Hawlio Heddwch’ yn rhad ac am ddim, ac mae croeso i bawb.

 

‘Neges a gwerthoedd Annie Cwrt Mawr yn dal yn berthnasol heddiw’

Lowri Larsen

“Mae’n sefyllfa erchyll ar hyn o bryd, ond mae yna rywbeth yn apêl menywod Cymry sydd yn rhoi gobaith i ni”