Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd sy’n cynrychioli cymoedd y de yn croesawu’r gynhadledd mae ei blaid yn ei chynnal yno.
Yn ôl Peredur Owen Griffiths, mae’r digwyddiad fydd yn cael ei gynnal yn Theatr Soar, Merthyr Tudful ar Dachwedd 18 yn gyfle i aelodau’r blaid, gweithredwyr a chynghorwyr ddod ynghyd i drafod problemau a datrysiadau posib.
Ymhlith y rhai fydd yn bresennol mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, ac fe fyddan nhw’n cynhyrchu syniadau polisi i’w gweithredu yn y blynyddoedd i ddod.
“Cadw mewn cysylltiad a siarad” â phobol
“Y ffordd orau o gynrychioli ein cymunedau a’r bobl sy’n byw ynddynt yw cadw mewn cysylltiad a siarad â nhw,” meddai Peredur Owen Griffiths, sy’n cynrychioli Dwyrain De Cymru yn y Senedd.
“Dyna pam rwy’n cynnal cymhorthfeydd stryd yn rheolaidd ar draws fy rhanbarth.
“Os ydw i am gynrychioli pobol hyd eithaf fy ngallu, mae angen i mi gadw mewn cysylltiad â phobol.
“Mae Plaid Cymru wastad wedi bod yn blaid sydd wedi’i gwreiddio yn y cymunedau mae’n eu cynrychioli ac mae Cynhadledd y Cymoedd yn ddiweddarach y mis hwn yn estyniad o’r athroniaeth honno.
“Bydd y gynhadledd yn dod â phobol o bob lefel o’r blaid at ei gilydd fel y gallwn drafod y materion a’r problemau a welwn mewn yn ein trefi a’n pentrefi.
“Gobeithio y gallwn gynnig atebion posibl o ganlyniad.
“Rwy’n gobeithio y bydd yr ymarfer hwn yn llywio gwaith grŵp y Senedd ac yn darparu syniadau ar gyfer maniffestos dros y blynyddoedd nesaf.
“Mae hefyd yn anfon neges glir bod Plaid Cymru yn gwrando ar y cymoedd a’n bod ni’n deall.”