Er ei fod yn croesawu’r amnest ar gyfer arweinwyr annibyniaeth Catalwnia fel “buddugoliaeth fawr”, dywed yr arweinydd Pere Aragonès mai dim ond refferendwm all ddatrys y sefyllfa.

Fe fu’n siarad yn fuan ar ôl i Sbaen a Chatalwnia ddod i gytundeb i gefnogi ymgeisyddiaeth Pedro Sánchez i fod yn Brif Weinidog parhaol Sbaen.

Dywed Aragonès fod yr amnest “i bawb dan ormes yn ddiwahân”.

Roedd yr amnest yn un o’r amodau gynigiodd plaid Esquerra Republicana er mwyn rhoi eu cefnogaeth i Sánchez.

Ond dydy hynny “ddim yn ddigon” i arweinydd Catalwnia, sydd bellach yn galw am refferendwm annibyniaeth.

“Byddwn ni’n amddiffyn hawl Catalwnia i’w thrigolion benderfynu’n rhydd ar ein dyfodol,” meddai.

Yn ôl arbenigwyr, bwriad amnest yw bod yn arf wleidyddol i adfer heddwch cymdeithasol, yn enwedig pan fo gwladwriaeth fawr ynghanol anghydfod, pan fo achos o frad neu wrthryfel yn erbyn gwladwriaeth.

Ond dydy amnest yn unig ddim yn ddatrysiad hirdymor, yn ôl rhai.