Mae “angen rhai gwelliannau” yn uned famolaeth Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, yn ôl adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Daw hyn ar ôl iddyn nhw gynnal arolygiad dirybudd fis Awst eleni.
Mae rheolwyr a staff yr Uned Famolaeth, sy’n rhan o Dîm Gwasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi croesawu’r adroddiad yn ei gyfanrwydd.
Mae’r Tîm Gwasanaethau wedi cael cydnabyddiaeth drwy wobrau cenedlaethol am eu hymrwymiad i wella darpariaeth gwasanaeth a diwylliant yn barhaus.
Yr arolygiad
Roedd yr arolygiad yn canolbwyntio ar ofal cynenedigol, esgor ac ôl-enedigol.
Dywed yr adroddiad arolygu eu bod nhw wedi arsylwi “tîm ymroddedig o staff, oedd yn ymroddedig i ddarparu gofal o safon uchel i famau beichiog a mamau newydd, a’u teuluoedd”.
Roedd staff ar bob lefel “yn gweithio’n dda fel tîm” i ddarparu profiad cadarnhaol, oedd wedi’i unigoli ac yn canolbwyntio ar anghenion y menywod a’r bobol sy’n geni roedden nhw wedi darparu gofal ar eu cyfer nhw.
Ond ymhlith y gwelliannau mae’r angen i wella cyfraddau hyfforddiant gorfodol ac adolygu adnoddau’r uned, medd yr adroddiad.
‘Cynlluniau ar waith’
“Rydym yn falch bod llawer o’r canlyniadau a arsylwyd ac a nodwyd gan Arolygwyr AGIC yn gadarnhaol,” meddai Kathryn Greaves, Pennaeth Bydwreigiaeth y bwrdd iechyd ar ran yr uned yn Ysbyty Bronglais.
“Rydym hefyd yn cydnabod y meysydd yr oedd angen eu gwella, ac mae gennym gynlluniau ar waith eisoes i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r adroddiad.
“Fel tîm, rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ag AGIC i ddatblygu ein cynllun gwella, a fydd yn canolbwyntio ar ddarparu tystiolaeth o’r hyfforddiant a gynhaliwyd ac adolygiad o adnoddau sydd wedi’u rhoi ar waith i gefnogi argymhellion yr adroddiad.
“Mae’r Tîm Gwasanaethau Mamolaeth o fewn y bwrdd iechyd wedi ymrwymo i ddarparu safonau gofal rhagorol i’n teuluoedd a’n cymunedau.
“Rwy’n falch iawn bod gwaith y tîm yn Ysbyty Bronglais wedi’i gydnabod mor gyhoeddus.”