Bu darlithydd o Brifysgol Bangor yn cynnal cwrs byr dwyieithog ar-lein ar sut i ‘Osgoi Meddiant Diwylliannol’ (cultural appropriation).
Mae Dr Gareth Evans-Jones yn bwriadu cynnig dwy sesiwn arall – y naill yn y Gymraeg a’r llall yn Saesneg – ar y pwnc cyn y Nadolig, oherwydd ei fod yn gweld ‘yr angen i sicrhau parch’.
Bwriad y cwrs fore Llun (Hydref 30) oedd ‘cyflwyno pwysigrwydd bod yn ymwybodol o’r amrywiaeth ddiwylliannol sy’n bod yn ein cymdeithas’.
Yn ôl disgrifiad y cwrs, mae meddiant diwylliannol yn ‘agwedd broblematig’ sy’n gallu codi mewn sawl cyd-destun – o ddiwydiannau cyhoeddus a’r sector breifat i’r cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol.
Yn ei hanfod, mae meddiant diwylliannol yn ‘enghraifft o unigolyn o ddiwylliant arall yn hawlio diwylliant gwahanol a, gyda hynny, yn dangos diffyg parch tuag ato’.
Egluro meddiant diwylliannol
Mae’r cwrs yn rhan o gynllun cyrsiau byr newydd mae Prifysgol Bangor yn ei gynnig, i roi’r cyfle i bobol gael eu cyflwyno i bynciau, cyn ystyried a fydden nhw’n dymuno eu hastudio ymhellach.
“Mi ofynnwyd i mi yn yr adran Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd a fyddai diddordeb gwneud rhywbeth,” meddai Dr Gareth Evans-Jones, sy’n ddarlithydd mewn Astudiaethau Crefyddol yn y brifysgol, a hefyd yn awdur ffuglen, wrth golwg360.
Y gobaith oedd y byddai derbynwyr y cwrs yn gallu:
- egluro beth yw meddiant diwylliannol a pham ei bod yn broblem
- dangos enghreifftiau o feddiant diwylliannol yn ein cymdeithas
- mynegi dealltwriaeth o sut mae gwahanol bobol a mudiadau wedi ceisio mynd i’r afael â’r broblem
- llunio bras-gynllun gweithredu ar sut i osgoi meddiant diwylliannol.
Enghreifftiau amlwg o feddiannu diwylliannol yw duo wyneb neu ddynwared gwisg neu blethi a chlymau gwallt sy’n perthyn i ddiwylliannau eraill heb eu tadogi.
Mae crefftau cynhenid yn gallu bod yn broblematig, er enghraifft yr addurniadau edafedd crog ‘dream catchers’, sy’n ffasiynol iawn ond wedi eu cymryd oddi ar draddodiadau pobol yr Anishinaabek yn ardal y Llynnoedd Mawr yn yr Unol Daleithiau.
Ymddiddori mewn diwylliannau yn iawn – ond nid eu meddiannu
Yn ei waith academaidd a llenyddol, mae’r darlithydd yn “gyson ymwneud â gwahanol ddiwylliannau a thraddodiadau, syniadau a chredoau, a bydolygon, ac yn ymwybodol o’r angen i barchu diwylliannau gwahanol a pheidio â’u meddiannu”.
Ar gyfer ei draethawd ymchwil, astudiodd gaethwasiaeth a hawliau pobol ddu.
Bu’n gyfrifol am olygu Curiadau, blodeugerdd o waith LHDTC+ yn edrych ar amrywiaeth o ran y gymdeithas ‘gwiar’.
Mae hefyd yn rhan o gywaith Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau yn gweithio gyda dau lenor tramor – y naill o Wlad Pwyl a’r llall o’r Weriniaeth Tsiec – yn ymateb i’r thema ymfudo.
“Dw i wedi bod yn gwneud lot o ymchwil o ran profiadau mudwyr, a sut y maen nhw yn cael eu trin ar ôl cyrraedd gwlad arall, a’r syniad sut mae pobol yn ymwneud â diwylliannau,” meddai’r darlithydd wrth golwg360.
“A gweld efo hynny mai beth sydd wrth wraidd meddiant diwylliannol ydi diffyg parch go iawn.
“Mae hi’n iawn i bobol ymddiddori mewn diwylliannau eraill, yn bendant… cyn belled â bod rhywun yn fodlon gwneud yr ymdrech i ymchwilio i’r diwylliant arall, ymgysylltu â phobol o’r diwylliant arall, a siarad efo nhw.”
Esiamplau “drwg” – fel Little Britain ac Adele
Roedd y cwrs yn “sgwrs ddwy ffordd”, gyda’r darlithydd yn rhannu’r derbynwyr yn grwpiau ac yn rhoi tasgau iddyn nhw.
“Mi wnes i gael pawb i feddwl beth mae diwylliant yn ei olygu, pam ei bod hi’n bwysig dangos parch,” meddai Dr Gareth Evans-Jones.
“Mi wnaethon ni gyfeirio at rai arferion drwg yn yr ugain mlynedd diwethaf, er enghraifft (y gyfres deledu) Little Britain – y ffaith bod honno wedi cael ei darlledu mor ddiweddar â hynny.
“Mae yna le i ymwneud â diwylliant eraill ond gwerthfawrogiad diwylliannol ydi hynny, nid meddiant diwylliannol.”
Bu’n dangos enghreifftiau ar y cwrs o ‘feddiant diwylliannol’ gan enwogion, fel y gantores enwog Adele yn rhannu llun ar ei chyfrif Instagram ohoni’i hun mewn bicini ag arno faner Jamaica, a’i gwallt mewn cnotiau Bantu.
“Roeddwn i’n gofyn wedyn pam bod hynna’n broblematig,” meddai Gareth Evans-Jones.
“Mi fuodd yna feirniadaeth ar hynny.
“Roedd ei hymateb hi yr un fath â hogan fach wedi cael copsan yn dwyn da-da, yn ei droi o’n ysgafn.
“Doedd yna ddim edifeirwch yn ei datganiad hi.”
Enghraifft amlwg iawn o feddiant diwylliannol yw duo wynebau, neu blackface, gafodd ei boblogeiddio yn y music halls yn Llundain yn Oes Fictoria, ac am ddegawdau gan y rhaglen adloniant The Black and White Minstrels Show.
Mae’r hiliaeth yn dal yn bodoli ar ffurf duo wyneb digidol (digital blackface) heddiw ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Mae o’n rhywbeth sydd yn perthyn i’r gorffennol, ond mae yna enghreifftiau ohono’n digwydd o hyd,” meddai Dr Gareth Evans-Jones.
Ysgrifennu “er lles” diwylliannau a chymunedau eraill
Bu hefyd yn trafod y syniad o awduron yn ysgrifennu am ddiwylliant gwahanol, gan awgrymu bod hynny’n iawn “cyn belled â bod yna ddim gwneud hwyl am ben y diwylliant arall – bod yna barchu”, meddai.
Un enghraifft “dda iawn” yn y Gymraeg o ran datblygu gwaith creadigol er lles diwylliannau neu gymunedau amrywiol oedd cyfres o nofelau Y Pump gan wasg Y Lolfa.
Roedd pum awdur wedi cydweithio gydag awduron newydd o gymunedau a grwpiau amrywiol yng Nghymru ar nofelau gwreiddiol.
Y Pump enillodd Wobr Plant a Phobol Ifanc, a Gwobr Barn y Bobol golwg360 Llyfr y Flwyddyn 2022.
“Roedd y cydweithrediad yna rhwng pum awdur mwy profiadol efo pump awdur newydd yn rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau’r sgrifennwyr newydd, a gofalu bod eu profiadau nhw yn cael mynegiant,” meddai Dr Gareth Evans-Jones.
“Mae yna le i fynd efo hynny ymhellach.”
Yn 2021, fe gynhaliodd weithdy awr o hyd ar ran Cyngor Llyfrau Cymru ar sut i osgoi meddiant diwylliannol mewn llyfrau.
Mae’r awdur newydd gyhoeddi ei lyfr diweddaraf, Y Cylch – nofel am gylch o wrachod ym Mangor sy’n ceisio dod o hyd i lofrudd.
- Darllenwch ragor yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon…