Mae’r awdur o Fôn, Gareth Evans-Jones, newydd gyhoeddi ei nofel ddiweddaraf, Y Cylch, sy’n sôn am wrachod yn ninas Bangor.

Nofel oruwchnaturiol yw hi, yn ôl y blyrb, sydd yn llawn ffantasi, hiwmor a ‘sawl tro yn y gynffon’. Mae hi’n dilyn hynt a helynt pedair gwrach sy’n ceisio dod o hyd i lofrudd, ac mi ddown i sylweddoli nad yw bywyd gwrach gyfoes yn un hawdd.