Rydw i wedi bod yn meddwl am gôl-geidwaid yr wythnos yma. Wnaeth hyn i gyd ddechrau gyda sylw syml gan newyddiadurwr Almaenaidd, yn disgrifio Manuel Neuer o Bayern Munich fel ‘y gorau erioed’. Wrth gwrs, byse gan Lev Yashin, Dino Zoff, neu Gianluigi Buffon rhywbeth i’w ddweud am hynny. Ond fel bob cefnogwr pêl-droed yn clywed rhywun yn hawlio bod un chwaraewr penodol ‘y gorau erioed’, roeddwn i eisiau gweiddi: ‘Beth am fy ffefryn i?’