Bu Caerdydd yn brifddinas i ni’r Cymry ers 1955. Mae’r newidiadau sydd wedi digwydd yno ers hynny’n ysgubol a phellgyrhaeddol.

Ond nid yw’r pethau hyn yn digwydd heb ymdrech. Rhaid eu gyrru – a brwydro amdanynt – ac, wrth gwrs, cyngor y ddinas yw’r prif gorff sy’n gwneud hyn. 

Ac ar hyn o bryd, Cardi 38 oed sydd wrth y llyw, un sy’n credu ein bod “angen prifddinas world-class, er mwyn cryfhau hunaniaeth Cymru”.