Dwi’n siarad efo Duw.

Dyna ydw i wedi gwneud erioed, ers i mi gofio. Mae o’n wahanol i weddïo. Ymbil ydi fy ngweddïau i, neu ddiolch, neu adrodd geiriau rhywun arall er mwyn clywed eu rhythm cyfarwydd ar fy nhafod ac yn fy mhen. Ond pan fydda i’n siarad efo Duw, dwi’n defnyddio fy llais go-iawn. Yn rhegi weithiau. Does yna ddim pwynt cuddio’r pethau hyll amdana i – mae O’n gwybod amdanyn nhw’n barod.