Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud bod ymgynghoriad presennol Llafur a Phlaid Cymru ar reoli rhent yn “gamgymeriad”.
Daeth cyhoeddiad yr wythnos ddiwethaf (Hydref 27) fod Llywodraeth Cymru am osod cap o 6.7% ar y cynnydd mewn rhent o fis Ebrill 2024.
Daw sylwadau Andrew RT Davies wrth iddo fe dynnu sylw at ddatganiad Cyngor Dinas Caeredin o argyfwng tai, wedi i’r ffigwr ar gyfer digartrefedd ym mhrifddinas yr Alban godi i bron i 5,000 o aelwydydd y noson.
Mae’r elusen digartrefedd Shelter yn galw ar awdurdodau lleol i weithredu er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.
Cafodd rhent ei rewi ledled yr Alban fis Medi y llynedd, a chafodd cap o 3% ei osod ar godiadau rhent yno.
Er y mesurau, mae digartrefedd wedi parhau i ddod yn fater cynyddol amlwg yng Nghaeredin.
‘Gwaethygu’r broblem’
Mae Andrew RT Davies yn honni y byddai gosod capiau ar gostau rhentu yn gwaethygu’r broblem yn hytrach na’i ddatrys.
“Fel y gwelsom yng Nghaeredin y bore yma ac yn Iwerddon y flwyddyn ddiwethaf, bydd rheoliadau rhent yn gwaethygu’r argyfwng tai Llafur yng Nghymru,” meddai.
“Mae’r dystiolaeth yn glir mai prin y mae Llywodraeth Cymru yn adeiladu hanner nifer y cartrefi sydd eu hangen, ac eisoes wedi cyflwyno deddfwriaeth sy’n arwain at tswnami o landlordiaid yn gadael y sector rhentu preifat.
“Mae angen i Lafur gyflawni blaenoriaethau’r bobol a chael gafael ar nifer y tai gwag yng Nghymru.
“Fyddan nhw ddim yn datrys yr argyfwng tai drwy gopïo gwaith cartref yr SNP.”
‘Cadarnhaol’
Mae Tai Pawb wedi croesawu dulliau Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, gan ddweud bod y camau maen nhw’n eu cymryd i ddileu digartrefedd yn rhai “cadarnhaol”.
Mae gan Lywodraeth Cymru darged i adeiladu 20,000 o dai carbon isel yn y sector cyhoeddus erbyn diwedd y tymor hwn yn y Senedd.
Er eu bod yn disgyn yn brin o’u targed ar hyn o bryd, maen nhw wedi cymryd camau megis diwygio’r rheoliadau carbon ar gyfer tai cymdeithasol am y tro cyntaf ers ugain mlynedd.
Maen nhw hefyd wrthi’n cynnal ymgynghoriad ar reoliadau rent ers mis Mehefin eleni.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.