Mae 14 o gynghorau sir Cymru wedi mabwysiadu canllawiau’r RSPCA ar gyfer tân gwyllt ar Noson Guto Ffowc eleni.
Fe fu’r elusen anifeiliaid yn cydweithio ag awdurdodau lleol ers rhai blynyddoedd i’w hannog nhw i gyflwyno mesurau arbennig i wella ymwybyddiaeth o beryglon tân gwyllt i anifeiliaid, a’u helpu nhw i fod yn barod ar gyfer yr achlysur.
Mae cynghorwyr wedi bod yn cyflwyno cynigion gerbron eu cynghorau, tra bod rhai cynghorau wedi addasu eu rheolau a’u rheoliadau er mwyn cynnig mwy o gefnogaeth i bobol fregus, anifeiliaid, da byw a bywyd gwyllt.
Y cynghorau sir yng Nghymru sydd wedi dilyn cyngor yr RSPCA yw Abertawe, Caerfyrddin, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd, Conwy, Dinbych, y Fflint, Gwynedd, Penfro, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Wrecsam ac Ynys Môn.
Mae nifer o gynghorau eraill wedi lawrlwytho canllawiau’r elusen er mwyn cefnogi eu gwaith yn eu hardaloedd nhw.
Ymhlith y camau fydd yn cael eu cymryd mae ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, sicrhau bod pob sioe tân gwyllt ar dir y cyngor yn cael eu hysbysebu mewn da bryd ymlaen llaw i helpu trigolion lleol i baratoi, a hyrwyddo tân gwyllt llai swnllyd i fusnesau lleol.
‘Camau rhagweithiol’
“Mae’n beth positif iawn fod cynifer o awdurdodau lleol wedi cymryd camau rhagweithiol i helpu i warchod anifeiliaid yn ystod tymor tân gwyllt – ac rydym yn gobeithio y bydd y mesurau hyn yn lleihau’r straen a gofid mae nifer o anifeiliaid yn ei brofi adeg yma’r flwyddyn,” meddai Lee Gingell, rheolwr materion cyhoeddus llywodraeth leol yr RSPCA.
“Rydym wedi cydweithio â chynghorau ledled Cymru a Lloegr ar gyfres o bolisïau sydd â’r nod o helpu perchnogion anifeiliaid i deimlo’n barod, a sicrhau bod ein cymunedau’n cynllunio ymlaen llaw ac yn ystyried y peryglon i anifeiliaid.
“O ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth i annog busnesau i werthu tân gwyllt llai swnllyd, a hysbysebu sioeau ymlaen llaw, mae llawer o waith gwych yn cael ei wneud ar lefel awdurdodau lleol cyn Noson Guto Ffowc eleni, ac mae nifer o gynghorau wedi ein helpu ni drwy annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd camau pellach hefyd.
“Mae’n ein hatgoffa ni mewn ffordd wych o’r hyn y gallwn ni ei gyflawni gyda’n gilydd ar gyfer lles anifeiliaid.”
Addasu rheoliadau
Mae’r RSPCA hefyd yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i addasu rheoliadau tân gwyllt er mwyn cynnig mwy o warchodaeth i anifeiliaid anwes, bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm.
Maen nhw am weld cyfyngu gwerthiant a defnydd o dân gwyllt i un wythnos o gwmpas adeg Noson Guto Ffowc a dyddiadau traddodiadol eraill, gan gynnwys Diwali, y Flwyddyn Newydd Tsieinïaidd, Nos Calan a Dydd Calan.
Mae’r elusen hefyd yn galw am gefnogaeth i barthau rheoli tân gwyllt, atal sioeau ger cynefinoedd ceffylau, mannau bywyd gwyllt sensitif, ffermydd, sŵau a chanolfannau anifeiliaid.
Mae nifer o gynghorau wedi ysgrifennu at Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn cefnogi galwadau’r RSPCA ac yn galw am uchafswm o 90dB ar gyfer tân gwyllt mewn sioeau preifat.
Daw hyn wrth i ymchwil gan yr elusen ddangos bod:
- 76% o oedolion yn y Deyrnas Unedig yn credu y dylid cyfyngu ar faint o amser y gall tân gwyllt gael eu tanio
- 69% yn cytuno y dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyfyngu ar werthiant tân gwyllt
- 73% yn credu y dylid cyflwyno parthau rheoli tân gwyllt
- 68% eisiau gostwng y terfyn sŵn ar gyfer tân gwyllt o 120dB i 90dB
Gall pobol gefnogi ymgyrch yr RSPCA ar-lein a/neu drwy anfon neges at eu haelodau seneddol, medd yr elusen.