Mae disgwyl glaw trwm a gwyntoedd mewn rhannau o Gymru wrth i’r wlad ddisgwyl i Storm Ciarán daro fory a dydd Iau (Tachwedd 1 a 2).

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wynt yn y de a’r canolbarth, ac am law ar gyfer rhannau helaeth o’r wlad dros y deuddydd nesaf.

Erbyn hyn, mae’r rhybudd ar gyfer glaw yn y de yn berthnasol i Flaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Fynwy, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Bro Morgannwg a Thorfaen.

Bydd y rhybudd hwnnw gan y Swyddfa Dywydd yn dod i rym brynhawn fory am 6yh, ac yn para tan ddiwedd dydd Iau.

Fe fydd rhybudd melyn am law yn dod i rym yn y gogledd drwy’r dydd ddydd Iau hefyd.

Gallai rhwng 40mm a 60mm o law ddisgyn mewn rhai llefydd, yn ôl y rhagolygon, ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd llifogydd yn Ninbych-y-pysgod.

Mae deg rhybudd ‘byddwch yn barod’ arall am lifogydd mewn grym ganddyn nhw yn y de-orllewin hefyd.

Ynghyd â’r rhybudd am law, bydd rhybudd melyn am wynt mewn grym nes 6 brynhawn dydd Iau.

Gall rhannau o Sir Benfro ddisgwyl gwyntoedd cryfach, a bydd rhybudd oren am wynt mewn grym mewn ambell ran o’r sir rhwng 3 fore dydd Iau a 1yp.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gallai Storm Ciarán achosi difrod i adeiladau, ynghyd ag amharu ar deithio a chyflenwadau trydan.