Mae menter gymunedol yn y gogledd yn lansio cynllun heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 1), i werthu cyfranddaliadau mewn harbwr a marina.
Gobaith Menter Felinheli yw codi £300,000 yn ystod mis Tachwedd, gyda phob cyfran yn werth £100.
Yn ôl y fenter, mae’n darged “uchelgeisiol ond realistig” gyda chyngor gan arbenigwyr a mentrau cymunedol eraill.
Y cynllun yn ennill cefnogaeth y cyngor
Mae’r fenter eisoes wedi cyflwyno ei chynnig ariannol am y safle i’r derbynwyr, ar ôl i’r cwmni oedd yn berchen ar y safle fynd yn fethdalwr yn gynharach eleni.
All Menter Felinheli ddim datgelu’r pris maen nhw wedi ei gynnig, ond maen nhw’n dweud eu bod nhw’n obeithiol y gall cyfuniad o grantiau a chefnogaeth ariannol leol roi’r safle yn nwylo’r gymuned am y tro cyntaf.
Mewn cyfarfod cyhoeddus diweddar, daeth tua 50 o drigolion y Felinheli ynghyd i glywed mwy am y cynlluniau ac i ddangos eu cefnogaeth.
Mae’r Fenter hefyd wedi derbyn cefnogaeth gan Gyngor Sir Gwynedd, Siân Gwenllian a Hywel Williams, Aelod o’r Senedd ac Aelod Seneddol Arfon.
‘Cyfle rhy dda i’w golli’
“Ydi, mae o’n lot o bres – ond dw i ddim yn amau am eiliad nad allwn ni gyrraedd y targed,” meddai Tudur Owen, y digrifwr a chyflwynydd sy’n un o’r rhai sy’n arwain y cynnig.
“Mae nifer o fentrau eraill wedi llwyddo a does yna ddim rheswm pam nad all pobol yr ardal yma lwyddo hefyd.
“Fe fydd angen mwy na hynny wrth gwrs, ac rydan ni wedi cyflwyno un cais am grant sylweddol yn barod hefo un arall yn y broses o’i gwblhau.”
Dywed Gwyn Roberts, un arall sydd y tu ôl i Fenter Felinheli, y byddai prynu’r marina ar ran pobol leol yn helpu’r pentref cyfan drwy ddefnyddio’r elw o’r marina i gefnogi prosiectau a mentrau lleol eraill gan ddod â budd ariannol a chymdeithasol i’r ardal.
“Ychydig iawn o’r elw gafodd ei greu gan y marina dros y degawdau sydd wedi aros yn yr ardal,” meddai.
“Os gwnawn ni lwyddo yn ein cais, fe fydd hynny’n newid dros nos.
“Pobol a busnesau lleol fyddai’n elwa wedyn – fe fydd y pres yn aros yma, er lles pawb yn y pentref.
“Mae hwn yn gyfle rhy dda i’w golli.”
‘Mae gwerthu’r shârs yma yn hollbwysig’
Mae’r fenter yn apelio ar unrhyw un sydd â diddordeb eu cefnogi – yn lleol neu o’r tu hwnt i’r ardal – i brynu cyfranddaliadau.
“Mae gwerthu cyfranddaliadau yn rhan hanfodol o’r prosiect – ni fydd pryniant yn digwydd os nad ydi’r rhan holl bwysig yma’n llwyddo,” meddai Alun Meirion, un arall o arweinwyr y fenter.
“Felly rydan ni’n apelio’n daer ar bobol i brynu.
“S’dim ots os ydych chi’n byw yn Y Felinheli neu du hwnt, mae gwerthu’r shârs yma yn hollbwysig.
“Mae yna lawer iawn o bobl wedi gadael y pentref dros y blynyddoedd hefyd, ac os ydych chi’n adnabod rhywun yn y sefyllfa yna, cysylltwch hefo nhw, esboniwch be sy’n digwydd, a rhowch gyfle iddyn nhw gefnogi’r fenter.”
Bydd modd prynu cyfranddaliadau drwy’r wefan menterfelinheli.cymru