Mae’r “casgliadau amhrisiadwy” fydd i’w gweld yn ystod diwrnod agored Amgueddfa Brambell ym Mangor ddydd Sadwrn (Tachwedd 4) “yn adrodd stori Cymru, ac yn adnodd gwerthfawr ar gyfer archwilio a dysgu am ein hunaniaeth leol a chenedlaethol”, yn ôl Cyngor Gwynedd.
Bydd Amgueddfa Hanes Natur Brambell ym Mhrifysgol Bangor ar agor rhwng 11yb a 3yp, gyda nifer o sbesiminau arbennig ac unigryw i’w gweld yno.
Yn eu plith mae sgerbydau llawn, penglogau, tacsidermi, cyrn ceirw a sbesiminau sydd wedi’u cadw mewn hylifau.
Dydy’r amgueddfa ddim fel arfer ar agor i’r cyhoedd.
Bydd cyfle yn ystod y diwrnod agored i ofyn cwestiynau i’r myfyrwyr fydd ar gael, a bydd cornel gweithgareddau i blant o bob oedran hefyd.
Mae Prifysgol Bangor yn ymuno ag amgueddfeydd ar draws y wlad ar gyfer Gŵyl Amgueddfeydd Cymru (Hydref 28 i Dachwedd 5) – digwyddiad blynyddol Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru, y corff strategol ar gyfer gweithwyr proffesiynol amgueddfeydd ac orielau celf yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae’r Ffederasiwn yn cynrychioli dros gant o amgueddfeydd unigryw Cymru, a gyda’i gilydd mae’r casgliadau amhrisiadwy hyn yn adrodd stori Cymru, ac yn adnodd gwerthfawr ar gyfer archwilio a dysgu am ein hunaniaeth leol a chenedlaethol.
Achredu’r amgueddfa
Y bwriad yw gwella mynediad i gasgliadau’r brifysgol, ac mae hyn yn rhan o’r gwaith sy’n cael ei wneud mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Storiel.
Yn ôl Helen Gwerfyl, Curadur Casgliadau Amgueddfa Storiel a Phrifysgol Bangor, mae nifer o sbesyminau gwahanol o Gymru ac o dros y môr yn yr amgueddfa.
“Ymddengys bod y casgliadau wedi datblygu oherwydd i lawer o unigolion gasglu sbesimenau ac yna eu rhoi i’r Brifysgol a rhoddwyd nifer gan academyddion fel yr Athro Brambell,” meddai wrth golwg360.
“Rhoddwyd dipyn gan deulu’r Faenol, ac roedd hefyd yn arferiad cyfnewid sbesimenau hefo amgueddfeydd eraill.
“Casglwyd y rhan fwyaf o’r sbesimenau yn ystod blynyddoedd cynnar yr amgueddfa.”
Rhai o uchafbwyntiau’r amgueddfa
Mae eitemau’r amgueddfa’n cynnwys sbesiminau prin neu ar fin diflannu’n llwyr:
- Cas o adar o Seland Newydd gan gynnwys y kakapo wedi cael ei roi gan H.R. Davies ym 1922 – roedd wedi dod â’r casgliad adref yn 1885. Darlun a wnaed o ffotograff o’r Teras Pinc yn Seland Newydd sydd yn gefndir i’r cas – cafodd y teras ei ddinistrio gan losgfynydd yn ddiweddarach.
- Cath wyllt gafodd ei saethu yn yr Alban a’i rhoi i’r amgueddfa gan David Davies, Barwn Davies 1af ac ŵyr David Davies, Llandinam. Mae modd gweld y gath mewn llun yn 1926.
- Oen dau ben o Fethesda
- Ysgithr morfil uncorn – dant llygad chwith y morfil
- Cyrn elc o Iwerddon gafodd eu darganfod mewn mawnog yn Iwerddon, er nad yw’r lleoliad yn hysbys. Cawson nhw eu rhoi i’r amgueddfa gan Goleg y Drindod, Dulyn yn 1961
- Crwban y Galapagos
- Cythraul Tasmania
- Sgerbwd peithon
- Eliffant o ymweliad syrcas deithiol â Bangor. Bu farw’r eliffant yn dilyn salwch.
“Roedd gan yr Athro White, Curadur yr Amgueddfa ddiddordeb byw mewn datblygu amgueddfa sŵolegol, ac achubodd ar y cyfle i sicrhau eitem sylweddol i ddatblygu’r casgliad,” meddai Helen Gwerfyl.
“Gadawyd corff yr eliffant i bydru ym mharc y Coleg tan oedd ei esgyrn yn lân ac yn sych.”
Achredu’r amgueddfa
Mae Prifysgol Bangor yn gweithio tuag at achredu amgueddfaol, sef y safon genedlaethol ar gyfer amgueddfeydd.
Yn ôl Helen Gwerfyl, byddai cael yr achrediad yn dangos safon y casgliadau, yn denu mwy at y casgliad, ac yn golygu mwy o gyllid hefyd.
“Mae gan y Brifysgol gasgliadau gwych gan gynnwys celf, serameg, offerynnau celf yn ogystal â’r casgliadau hanes natur,” meddai.
“Mae cyrraedd y safon yma yn golygu bod y brifysgol yn gallu dangos i’r cyhoedd eu bod yn rheoli eu casgliadau’n iawn, yn ymgysylltu ag ymwelwyr, ac yn cael eu llywodraethu’n briodol.
“Bydd hyn yn gwella mynediad i’r casgliadau fel bod pawb yn gallu eu mwynhau, yn denu mwy o roddion i ddatblygu’r casgliadau, ac yn galluogi’r brifysgol i ymgeisio am arian grant i wella a datblygu eu casgliadau yn y dyfodol.”
Hanes yr amgueddfa
Pam fod yr amgueddfa hon mor bwysig, felly?
“Dechreuodd y casgliad pan sefydlwyd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor yn 1884,” meddai Helen Gwerfyl wedyn.
“Sefydlwyd yr amgueddfa fel datblygiad naturiol ar gyfer anghenion addysgiadol y brifysgol, ac roedd yn tanlinellu rhan y brifysgol yn y gymuned fel addysgwyr a hyrwyddwyr gweithgareddau diwylliannol.
“Yn wreiddiol, roedd yr amgueddfa yn cynnwys sawl casgliad gwahanol gan gynnwys sŵoleg, daeareg a chemeg yn ogystal ag archaeoleg a hynafiaethau Cymreig (yr archaeoleg a hynafiaethau bellach yn Storiel).
“Mae’r Pwyllgor Amgueddfeydd yn cael ei gofnodi yng nghofnodion Senedd y Brifysgol yn 1891.
“Dr White oedd yr Is-gadeirydd cyntaf, a’r Athro Dobbie yr ysgrifennydd cyntaf.
“Yn 1894, argraffwyd hysbyslen yn nodi bod gan yr amgueddfa sawl sbesimen o ffosiliau, mwynau, cerrig, sŵoleg, a rhai creiriau o ddiddordeb hanesyddol, ac mae’n gofyn am ragor o eitemau.
“Lleolwyd yr Amgueddfa yn adeilad cyntaf y Coleg, yng Ngwesty’r Penrhyn Arms.
“Pan agorodd Prif Adeilad y Celfyddydau yn 1911, symudwyd rhan o’r Amgueddfa i lawr gwaelod y Llyfrgell heddiw, gyda’r casgliad sŵoleg yn aros yng Ngwesty’r Penrhyn Arms.
“Datblygodd yr Amgueddfa, ac yn 1922 aildrefnwyd a phenderfynwyd rhannu’r amgueddfa gydag un ar gyfer yr Hynafiaethau ac un arall ar gyfer y ddaeareg a sŵoleg, hefo’r Athro White yn aros yn guradur yr amgueddfa sŵoleg.
“Yn 1926, symudwyd y casgliad sŵoleg i Adeilad y Memorial.
“Symudodd y casgliad i’w leoliad presennol yn Adeilad y Brambell yn 1968, a datblygwyd y gofod presennol yn arbennig fel Amgueddfa ar gais yr Athro Brambell.”