Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi croesawu deddf tryloywder newydd sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i ddangos pwy sydd wedi creu hysbysebion gwleidyddol ar gyfer pleidleiswyr.
Daw’r ddeddf newydd i rym heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 1), ac fe ddaw ar ôl i ymchwil y Comisiwn ddangos nad yw 60% o bobol yn meddwl bod gwybodaeth sydd ar gael am wleidyddiaeth ar-lein yn ddibynadwy.
Yn sgil y ddeddf, bydd angen argraffnod ar y rhan fwyaf o ddeunydd ymgyrchu digidol, er mwyn dangos pwy sydd wedi talu amdano a’i gynhyrchu.
Bydd hyn yn helpu pleidleiswyr i wybod pwy sydd y tu ôl i hysbysebion maen nhw’n eu gweld ar-lein, a phwy sy’n talu i ddylanwadu ar eu pleidlais.
Er ei bod eisoes yn ofynnol i bleidiau, ymgyrchwyr ac ymgeiswyr ychwanegu argraffnodau at ddeunydd ymgyrchu print, megis taflenni, mae’r Comisiwn Etholiadol wedi bod yn galw am ymestyn y gofyniad hwn i ddeunydd digidol ers 2003.
Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi canllawiau i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr i’w helpu i ddilyn y gyfraith.
‘Manteision yn cael eu cysgodi gan bryderon’
“Mae ymgyrchu yn hanfodol i system ddemocrataidd iach a gall ymgyrchu digidol fod yn bŵer dros ddaioni ac annog deialog wleidyddol,” meddai Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol y Comisiwn Etholiadol.
“Ond gwyddom fod manteision ymgysylltu a thrafod ar-lein yn cael eu cysgodi gan bryderon ynghylch tryloywder hysbysebion gwleidyddol i lawer o bleidleiswyr.
“Ar ôl yr etholiad cyffredinol diwethaf, dangosodd ein hymchwil nad oedd 60% o bobol yn meddwl bod gwybodaeth sydd ar gael am wleidyddiaeth ar-lein yn ddibynadwy.
“Gydag etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal yn y pymtheg mis nesaf, bydd y gofyniad argraffnod digidol newydd yn helpu i roi mwy o wybodaeth i bleidleiswyr ynghylch pwy sy’n ceisio eu cyrraedd ar-lein.
“Er y bydd hyn yn mynd peth o’r ffordd tuag at gynyddu hyder y cyhoedd mewn ymgyrchu, mae’r dirwedd ddigidol wedi esblygu’n gyflym ers i ni ddechrau galw am y gyfraith hon 20 mlynedd yn ôl.
“Mae angen diwygiadau ehangach arnom i’r deddfau cyllid gwleidyddol i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer democratiaeth fodern.”
Ymgyrch hir
Mae’r Comisiwn wedi argymell ers peth amser bod Llywodraeth a Senedd y Deyrnas Unedig yn cyflwyno deddfau i wella’r rheolaethau ar roddion a benthyciadau.
Yn dilyn etholiad cyffredinol 2015, argymhellodd hefyd y dylid diwygio categorïau gwariant i ddarparu gwybodaeth fwy defnyddiol am yr hyn mae pleidiau ac ymgyrchwyr yn gwario arian arno, gan gynnwys ar hysbysebu digidol.
Rhoddodd y Senedd ei gydsyniad yn 2022 i’r darpariaethau hyn fod yn berthnasol i etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.
Cyflwynodd Senedd yr Alban eu rheolau argraffnod digidol eu hunain yn 2020, sy’n berthnasol i ddeunydd ar gyfer etholiadau Senedd yr Alban ac etholiadau cynghorau’r Alban.
Yn yr un modd â’r gyfraith ar gyfer deunydd ymgyrchu print, mae’r Comisiwn Etholiadol yn gyfrifol am orfodi’r cyfreithiau argraffnod digidol ar gyfer pleidiau ac ymgyrchwyr, tra bod heddluoedd ar draws y Deyrnas Unedig yn gyfrifol am orfodi’r rheolau ar gyfer ymgeiswyr.
Ystyr deunydd ymgyrchu digidol yw unrhyw gynnwys ymgyrchu sy’n electronig (ar-lein ac all-lein).
Gallai’r cynnwys fod ar ffurf testun, sain neu weledol.
Mae’n cynnwys postiadau cyfryngau cymdeithasol, hysbysebion ar-lein, gwefannau, negeseuon ar apiau fel WhatsApp, Signal neu Telegram, a hysbysfyrddau electronig.
Dydy e ddim yn cynnwys galwadau ffôn, negeseuon SMS, grwpiau negeseuon preifat rhwng ffrindiau, ac e-byst gan bleidiau at eu haelodau.
Fydd dim angen argraffnod ar bob deunydd digidol.
O dan y ddeddfwriaeth, mae gwahaniaethau rhwng talu am ddeunydd neu beidio, sydd hefyd yn cael ei alw’n ddeunydd organig.
Canllawiau ar gyfer argraffnod
Mae’r Comisiwn wedi datblygu canllawiau statudol sy’n amlinellu’r profion mae angen i ymgyrchwyr eu hystyried i benderfynu a oes angen argraffnod ar eu deunydd.
Os cafodd arian ei dalu i gyhoeddi hysbyseb o ddeunydd gwleidyddol, rhaid iddo gael argraffnod.
Mae angen i ddeunydd rhad ac am ddim gynnwys argraffnod os caiff ei gyhoeddi gan, neu ar ran grwpiau penodol, gan gynnwys pleidiau gwleidyddol cofrestredig, ymgyrchwyr nad ydyn nhw’n bleidiau, ymgeiswyr, neu ymgyrchwyr refferendwm.
Does dim angen argraffnod ar ddeunydd ar wefan neu ap sydd â phrif ddiben newyddiaduraeth, oni bai bod y deunydd yn hysbyseb.
Pwy yw’r Comisiwn Etholiadol?
Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig.
Diben eu gwaith yw hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
- alluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg
- canolbwyntio ar anghenion etholwyr
- mynd i’r afael ag amgylchedd sy’n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol
- cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder
- sicrhau cydymffurfiaeth
- mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio eu harbenigedd i wneud newidiadau i ddemocratiaeth ac eirioli drostyn nhw, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd