Mae arweinwyr Sbaen a Chatalwnia wedi dod i gytundeb ynghylch amnest ar gyfer yr ymgyrchwyr oedd ynghlwm wrth refferendwm annibyniaeth 2017.

Daw hyn yn dilyn cyfarfod rhwng Pedro Sánchez, Prif Weinidog Sbaen, a Pere Aragonès, Arlywydd Catalwnia.

Byddai’r ddeddf sy’n cael ei chynnig hefyd yn rhoi pardwn i aelodau Tsunami Democràtic, grŵp o ymgyrchwyr anhysbys sydd o blaid annibyniaeth ac sydd am weld Sbaen yn trafod trwy ddulliau di-drais.

Dyma’r grŵp sy’n cael ei gofio’n bennaf am y blocâd ym maes awyr El Prat yn Barcelona.

Cafodd arweinwyr yr ymgyrch tros annibyniaeth eu dedfrydu gan y Goruchaf Lys i garchar am naw i 13 o flynyddoedd yn sgil eu rhan yn yr helynt, wrth i Sbaen ystyried y refferendwm yn un anghyfansoddiadol.

Dywed y ddau arweinydd eu bod nhw wedi cytuno ar “fanylion olaf” y gyfraith amnest, a’u bod nhw’n “fodlon â’u hegwyddorion o ran y gyfraith”.

Y bil a’r ddeddf

Bydd yn rhaid i’r bil gael ei gyflwyno i’r Gyngres, ac mae disgwyl i hynny ddigwydd cyn pleidlais i ddewis ymgeisydd y Sosialwyr i fod yn Brif Weinidog Sbaen.

Y gobaith yw y bydd y ddeddf yn cael ei llofnodi gan y Sosialwyr, Sumar, Esquerra a Junts per Catalunya, ynghyd â phleidiau Bildu a PNB yng Ngwlad y Basg, a Bloc Cenedlaetholwyr Galisia.

Mae’r manylion bellach yn nwylo timau sy’n trafod a negodi’r union gynnwys, ond mae’r ddogfen yn cynnwys materion gwleidyddol ac economaidd fydd yn cael eu trafod dros y pedair blynedd nesaf.

Gallai’r siambr gyfarfod ar Dachwedd 7 ac 8 i gynnal trafodaeth ehangach, ac mae disgwyl i  Pedro Sánchez gael ei gadarnhau’n brif weinidog ganol yr wythnos nesaf.

Achos Carles Puigdemont

Bydd y datblygiad diweddaraf yn cael effaith ar achos Carles Puigdemont, cyn-arweinydd Catalwnia fu’n byw’n alltud yng Ngwlad Belg ers 2017.

Bu Puigdemont yn cyfarfod â Santos Cerdán, ysgrifennydd y Sosialwyr, yn Senedd Ewrop ym Mrwsel ddechrau’r wythnos, lle buon nhw’n trafod yr amnest hefyd.

Mae lle i gredu bod y pleidiau’n cytuno ar 95% o gynnwys y cytundeb, ac nad yw’r 5% dydyn nhw ddim yn cytuno arno’n ddigon i’r cytundeb gael ei roi o’r neilltu gan y naill ochr na’r llall.

Ond mae Plaid y Bobol yn cyhuddo’r Sosialwyr o lofnodi dogfen sy’n “ildio urddas” holl drigolion Sbaen, ac maen nhw’n cyhuddo Pedro Sánchez o fod yn “anonest” ac o gyfaddawdu’n ormodol ag ymgyrchwyr tros annibyniaeth fel y bydd trigolion Sbaen yn “talu’r pris”.