Mae’r berthynas rhwng niwclear sifil a milwrol “yn gwbl ddigamsyniol”, yn ôl Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd sydd wedi ysgrifennu llyfr am y pwnc.

Ynghyd ag edrych ar y cysylltiad rhwng y ddau, mae Going Nuclear yn trafod sawl dadl ynghylch y sector, gan gynnwys y ddadl amgylcheddol.

Mae Mabon ap Gwynfor, sydd hefyd yn gadeirydd CND Cymru, yn disgrifio’i hun fel “sgeptig” pan ddaw hi at dechnoleg niwclear, ac yn egluro nad ydy ei ymchwil i’r maes wedi ei argyhoeddi o fanteision niwclear.

“Dw i ddim yn gaeedig fy meddwl o bell ffordd, dw i’n barod i drafod ac ystyried unrhyw wybodaeth a ffeithiau newydd bob tro maen nhw’n dod i’r fei felly sgeptig ydw i,” meddai’r Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, sydd wedi bod yn ymgyrchydd gwrth-niwclear ar hyd ei oes, wrth golwg360.

“Ond fel mae hi’n sefyll, dydw i ddim wedi cael fy argyhoeddi ei fod o’n beth iach na pheth da i’w ddefnyddio, felly dw i’n wrthwynebus iddo.”

‘Cloriannu’r wybodaeth’

Wrth fynd ati i ymchwilio ar gyfer y llyfr, siaradodd Mabon ap Gwynfor ag arbenigwyr ar ddwy ochr y ddadl.

Pan gafodd ei ethol i’r Senedd yn 2021, roedd sôn am gael atomfa newydd yn Nhrawsfynydd, sydd yn rhan o etholaeth Mabon ap Gwynfor.

“Fel rhan o’r broses o ddeall mwy am yr hyn oedd yn cael ei argymell yn Nhrawsfynydd, ddaru fi fynd ati a chysylltu efo arbenigwyr byd-eang, arbenigwyr yn Awstralia, Japan, Ffrainc, Canada, yr Unol Daleithiau, Lloegr,” meddai wrth golwg360.

“Arbenigwyr niwclear, arbenigwyr amgylcheddol, pobol oedd yn perthyn i gymunedau lle mae cloddio wraniwm yn digwydd, yn Ontario yng Nghanada er enghraifft. Siarad efo llu o bobol oedd yn arbenigo yn eu maes ar y ddwy ochr.

“Dw i hefyd wedi cael sgyrsiau efo Rolls-Royce, yr Awdurdod Datgomisiynu, a llwyth o gyrff eraill er mwyn tynnu ynghyd y wybodaeth ar y ddwy ochr a phwyso a mesur a chloriannu’r wybodaeth.

“Casgliad y gwaith ydy’r llyfr yma i bob pwrpas.”

Dadleuon amgylcheddol

Yn ôl y cwmni sy’n gyfrifol am ddatblygu safle hen atomfa Trawsfynydd, gallai’r safle fod yn addas at gyfer datblygu prosiectau niwclear bychain.

Fe wnaeth cam cyntaf gwaith datblygu Cwmni Egino gadarnhau hyfywedd y safle ar gyfer Adweithyddion Modiwlaidd Bychan (SMRs) cyn yr haf.

Mae rhai, gan gynnwys Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn dadlau bod ynni niwclear yn rhan o’r ymgais i fynd i’r afael â newid hinsawdd gydag ynni adnewyddadwy, ond mae Mabon ap Gwynfor yn dadlau yn erbyn eu budd amgylcheddol.

“[Mae’r llyfr yn edrych ar] sut nad ydy niwclear yn mynd i chwarae unrhyw ran mewn taclo newid hinsawdd, ac yna mae’n edrych hefyd ar y genhedlaeth newydd yma o SMRs) a sut ei bod hi’n mynd i fod o leiaf ugain mlynedd yn rhagor cyn ein bod ni’n gweld unrhyw beth fel yna’n digwydd,” meddai.

“Yn y cyfamser, mae technoleg aeddfed adnewyddadwy, fel solar, gwynt, tonnau a llanw a thrai, â chapasiti cynhyrchu mwy na digon o drydan nid yn unig i Gymru, ond i allforio i lefydd eraill.

“Mae’n edrych ar sawl elfen o’r sector, yn edrych ar y dadleuon sydd o blaid niwclear ac yna’n ffeindio gwrthddadl iddyn nhw.”

Cysylltiad â niwclear milwrol

“Dw i’n edrych ar y sector niwclear a’r berthynas rhwng niwclear sifil a niwclear milwrol yn un elfen ohono,” meddai wedyn.

“Mae’r berthynas rhwng y ddau beth yn gwbl ddigamsyniol.

“Rydyn ni’n gwybod yn hanesyddol bod Atomfa Calder Hall [yng Nghumbria], sef yr atomfa ynni gyntaf yn y byd mewn gwirionedd wedi cael ei defnyddio i gynhyrchu plwtoniwm yn ystod blynyddoedd cyntaf yr atomfa, nid ynni.

“Rydyn ni’n gwybod hefyd bod atomfa Trawsfynydd wedi cynhyrchu tunelli o arfau grade plwtoniwm, felly rydyn ni’n gwybod yn hanesyddol bod ein hatomfeydd ni mewn gwirionedd yn ffatrïoedd plwtoniwm yn gyntaf ac mai sgil-gynnyrch bron fysa ynni o hynny.

“Erbyn hyn, mae’r berthynas yna wedi newid ryw ychydig, oherwydd mae yna fwy na digon o blwtoniwm ar gael ar gyfer arfau ac mae yna gytundebau mewn lle efo’r Cenhedloedd Unedig nad ydy gwledydd yn mynd i gynyddu eu stockpiles.

“Ond mae’r berthynas yna’n dal i fodoli oherwydd, er mwyn cynnal y stockpiles o arfau niwclear, mae’n rhaid cael y sgiliau, mae’n rhaid cael pobol alluog iawn, iawn efo lefel uchel o sgiliau er mwyn cynnal a chadw nid yn unig yr arfau ond y llongau a’r llongau tanfor niwclear.

“A dyna pam ein bod ni’n gweld y gwthio yma gan y wladwriaeth i gael cenhedlaeth newydd o niwclear – er mwyn cael y sgiliau yna i gynnal a chadw’r elfen filwrol.”

Bydd Going Nuclear ar gael mewn rhai siopau lleol yn fuan, ac ar wefan Going Nuclear.