Mae trefnwyr un o’r gwylnosau niferus sydd wedi’u cynnal yng Nghymru yn sgil y rhyfel rhwng Israel a Phalesteina yn gobeithio y bydd y digwyddiadau’n rhoi pwysau ar lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i weithredu.
Neithiwr (nos Fawrth, Hydref 31), cafodd gwylnos yn galw am gadoediad ei gynnal ar Sgwâr Owain Glyndŵr yn Aberystwyth.
Mae’r grwpiau sydd yn trefnu’r gwylnosau yn sefyll dros heddwch i bobol y Dwyrain Canol, gan obeithio nad yw’r Deyrnas Unedig na’r Unol Daleithiau am barhau i ariannu’r rhyfel.
Mae CND Cymru ymhlith y mudiadau sy’n galw ar Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, i alw am gadoediad.
“I fod yn onest, mae gan grwpiau gwahanol resymau gwahanol am drefnu vigils,” meddai Dylan Lewis-Rowlands, pennaeth y wasg CND Cymru, wrth golwg360.
“O beth rwy’ wedi gweld, mae’r rhan fwyaf o grwpiau jest eisiau sefyll am heddwch, jest eisiau sefyll yn erbyn beth sy’n digwydd – beth mae Hamas yn gwneud, ond beth mae Israel yn gwneud hefyd.
“Yn gyntaf, mae’r vigils yma yn codi ymwybyddiaeth.
“Wrth i ni sefyll yma yn Aberystwyth, a phobol yn sefyll yng Nghaernarfon neu hyd yn oed yng Nghaerdydd, mae’n codi ymwybyddiaeth.
“Mae hefyd yn codi pwysau ar lywodraethau yng Nghymru a hefyd yn San Steffan i wneud rhywbeth amdan y sefyllfa.
“Os mae pob grŵp yn sefyll efo’n gilydd, mae gennym y pŵer wedyn yn ein niferoedd.
“Gallwn wthio Mark Drakeford i alw am gadoediad.
“Rydym yn codi’r ffaith nad yw pobol yn y Deyrnas Gyfunol yn barod i ariannu mwy o ladd.
“Maen nhw’n barod i’w llywodraethau nhw weithio tuag at heddwch sydd yn para.”
‘Rhywbeth i boeni amdano’
Yn ôl Dylan Lewis-Rowlands, mae’r hyn sy’n digwydd yn y Dwyrain Canol yn achosi poen meddwl mawr, yn enwedig o ystyried bod y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau yn cyllido’r rhyfel.
“Mae beth sydd yn digwydd yn y Dwyrain Canol yn rhywbeth i boeni amdano yn gyntaf, oherwydd bod pobol yn cael eu lladd,” meddai.
“Yn hanesyddol, mae gan Brydain ryw fath o linc i beth sydd yn digwydd yn y Dwyrain Canol, yn enwedig pan wyt ti’n edrych ar beth sy’n digwydd ym Mhalesteina.
“Fwy na hynny, mae beth sydd yn digwydd yno yn cael effeithiau yma hefyd, os wyt ti’n edrych ar yr arfau sy’n cael eu danfon i Israel.
“Maen nhw’n cael eu creu, maen nhw’n cael eu hariannu gan lywodraethau fel y Deyrnas Gyfunol, llywodraethau fel America.
“Mae’n rhan o’r system military industrial fel ag y mae.
“Mae mwy nag un rheswm i sefyll ac i fecso am beth sy’n digwydd.
“Efo’r mwyafrif o bobol, os wyt ti’n tynnu gwleidyddiaeth allan ohono fo – wel, ti ddim yn gallu rili – ond os wyt ti’n tynnu gwleidyddiaeth allan ohono fo, dydyn nhw [ymgyrchwyr] ddim eisiau gweld pobol yn cael eu lladd, dydyn nhw ddim eisiau gweld pethau yn digwydd.
“Maen nhw jest eisiau sefyll dros heddwch.”
Cadoediad
Barn Dylan Lewis-Rowlands yw y dylai Mark Drakeford alw am gadoediad.
Daw hyn ar ôl i Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru, wneud galwad o’r fath, yn groes i’w phlaid.
Dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi ymateb i’w sylwadau hyd yn hyn, ar ôl iddi ddweud y byddai cadoediad “yn achub cannoedd os nad miloedd o fywydau diniwed”.
Bu hefyd yn galw am ryddhau gwystlon o Israel, ac i’r byd gondemnio gweithredoedd Hamas ar Hydref 7 ac ymddygiad gwrth-Semitaidd yn gyffredinol.
“Mae llawer o grwpiau eraill wedi [galw am gadoediad],” meddai.
“I fod yn deg, rwy’n meddwl y ffaith nad yw Mark wedi [galw am gadoediad] eto’n drist, ond mae dal amser iddo alw [am gadoediad].
“Mae dal amser i Mark Drakeford sefyll drosto fel, er enghraifft, mae Eluned Morgan wedi gwneud.”