Mae economi’r dyfodol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn “gwbl ddibynnol” ar greu swyddi gwell o fewn byd natur, yn ôl cyd-gadeirydd Gwasanaeth Natur i Gymru.
Nod y mudiad ydy gweithredu i adfer natur drwy greu swyddi a sicrhau bod gan weithlu’r dyfodol sgiliau gwyrdd.
Maen nhw’n rhagweld, o gael cefnogaeth, y gallan nhw greu 7,000 o swyddi gwyrdd yng Nghymru dros gyfnod o ddeng mlynedd.
Hyd yn hyn, mae 180 o bobol ac amrywiaeth o sefydliadau – o gyrff fel y Parciau Cenedlaethol i elusennau llai fel RSPB Cymru – wedi cyd-ddylunio’r cynllun.
Gobaith Gwasanaeth Natur Cymru yw darparu llwyfan ar gyfer darparu’r wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau sydd eu hangen ar gyfer economi sy’n seiliedig ar natur, drwy roi cyfleoedd hyfforddiant, prentisiaeth, cyflogaeth a gwirfoddoli i bobol o bob oed.
“Mae yna economi ar gyfer y dyfodol sy’n ymwneud â mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur sy’n gwbl ddibynnol ar swyddi gwell o fewn byd natur,” meddai Sue Pritchard, cyd-gadeirydd Partneriaeth Gwasanaeth Natur i Gymru a Phrif Weithredwr y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad, wrth golwg360.
“Os nad ydyn ni’n dechrau troi ein sylw at hynny’n fuan, rydyn ni’n mynd i fod ymhellach ar ei hôl hi nag ydyn ni’n barod.”
‘Swyddi sydd eu hangen ar frys’
Ychydig iawn o sôn sydd am greu swyddi gwyrdd mewn natur, meddai Sue Pritchard, gan ddweud fod swyddi gwyrdd o fewn trafnidiaeth, ynni a seilwaith yn derbyn mwy o’r sylw.
“Y weledigaeth fawr ydy ei fod e’n creu symudiad ar gyfer cynyddu nifer y swyddi o fewn byd natur, swyddi sydd eu hangen ar frys.
“Y peth cyntaf mae Gwasanaeth Natur i Gymru’n ei wneud ydy creu strwythur a symudiad i adnabod, hyrwyddo a gwerthfawrogi’r swyddi gwyrdd rydyn ni angen i adfer natur a gweld rheiny fel rhan allweddol o economi hyblyg, wydn a llwyddiannus yn y tymor hir.
“Yn ymarferol, mae’n dechrau gweithio gyda chyflogwyr, busnesau a sefydliadau cymunedol i adnabod y swyddi hynny er mwyn darparu hyfforddiant, hybu’r math hwnnw o waith gyda phobol ifanc mewn ysgolion, helpu i ddatblygu’r cwricwlwm sy’n dangos be allai’r swyddi hynny fod a chreu llwybrau hyfforddiant a datblygu sgiliau ar gyfer cael y swyddi hynny.
“Mynd â hynny reit drwy’r llwybr hyfforddiant a swyddi o fewn addysg.
“Mae yna awydd eang i greu symudiad ar gyfer swyddi gwyrdd o fewn natur, ac mae yna ongl ymarferol sef adeiladu’r farchnad ar gyfer y swyddi hynny.”
‘Adfer natur’
Mae’r Gwasanaeth wedi bod yn gweithio â phartneriaid ers ychydig flynyddoedd, a chaiff y broses ei threfnu gan Ymchwiliad Cymru o’r Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad, gyda chefnogaeth Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, dan adain y Tasglu Adferiad Gwyrdd.
Er bod y prosiect wedi cael rywfaint o gyllid gan Lywodraeth Cymru, a’u bod nhw’n gefnogol, mae rhan nesa’r prosiect yn cynnwys chwilio am gyllid elusennol neu gan y sector breifat.
“Os yw Llywodraeth Cymru am fuddsoddi yn hyn, ac rydyn ni’n meddwl y gwnawn nhw – maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn – rydyn ni eisiau iddyn nhw fuddsoddi yn y swyddi,” meddai Sue Pritchard.
Ynghyd â chydweithio â llywodraethau, maen nhw’n awyddus i’r Gwasanaeth weithio gydag amryw o sefydliadau eraill megis rhai o’r sector breifat, ffermwyr, a’r diwydiant dŵr.
“Creu partneriaeth gref rhwng yr holl gyrff sy’n ddibynnol ar adfer byd natur a gweithio gyda natur, a dod â’r buddsoddiad hwnnw ynghyd ar gyfer gwneud y gwaith sydd ei angen ydy’r nod.
“Rydyn ni’n byw mewn argyfwng hinsawdd a natur, a’r her i ni fel cenedl, a chenhedloedd dros y byd, ydy ail-ddylunio ein heconomi i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd a dechrau gweithio drwy’r hyn sydd ei angen i fod yn fwy gwydn a mwy hyblyg
“Mae swyddi gwyrdd wrth wraidd hynny, mae adfer natur wrth wraidd hynny – adfer natur ynddo’i hun, a’r rôl hanfodol sydd gan fyd natur o ran gwydnwch yr hinsawdd hefyd.”
Rhan o hynny fyddai creu swyddi fyddai’n datblygu datrysiadau sy’n seiliedig ar natur i fynd i’r afael â materion fel risgiau llifogydd neu wella safon pridd fel ei fod yn gweithredu fel storfa garbon effeithiol, meddai.
Maen nhw hefyd yn galw ar Aelodau o’r Senedd i ddysgu mwy am y Gwasanaeth Natur i Gymru a chefnogi’r datblygiad.