Mae 90 o bobol ifanc Gwynedd yn gadael y sir bob mis heb ddychwelyd yno’n ddiweddarach, yn ôl y Cynghorydd Craig ab Iago.
Mae Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd yn prysur ennill momentwm fel mudiad sy’n ceisio mynd i’r afael â’r sefyllfa, ac mae’r Cyngor yn annog pobol Gwynedd sydd angen tai yn eu milltir sgwâr i gofrestru gyda Tai Teg.
Amcan y cynllun gwerth £140m yw datrys prinder tai’r sir, a sicrhau bod trigolion Gwynedd yn cael mynediad at dai fforddiadwy o safon yn eu cymunedau eu hunain.
Mae hyn yn cynnwys y nod o ddarparu dros 1,000 o dai erbyn 2027.
Yn rhan o’u datblygiadau diweddar, mae Cyngor Gwynedd wedi cymryd cam sylweddol drwy brynu 16 o dai drwy’r cynllun Prynu i Osod, sef prynu tai i’w gosod ar rent fforddiadwy i bobol leol sydd angen tai o’r fath.
Erbyn mis Hydref eleni, roedd eiddo wedi’u prynu mewn cymunedau ledled Gwynedd, gan gynnwys yn Nhywyn, Penrhyndeudraeth a Chaernarfon.
Fel rhan o gynllun Tŷ Gwynedd, mae’r Cyngor hefyd yn dweud bod caniatâd cynllunio wedi’i dderbyn i adeiladu tri thŷ newydd yn Llanberis.
Bydd y tai hyn yn dilyn egwyddorion Tŷ Gwynedd, sef bod y tai yn fforddiadwy yn gynaliadwy, yn ynni-effeithlon, yn gwella llesiant y trigolion fydd yn byw yno, a bod modd eu haddasu yn ôl yr angen.
Mae datblygiadau eraill hefyd ar y gweill ym Morfa Nefyn a Bangor, ynghyd â phryniant tir datblygu mewn mannau ar draws Gwynedd, gyda’r bwriad o adeiladu 90 o gartrefi Tŷ Gwynedd i bobol leol erbyn 2027.
Nod y cynlluniau uchelgeisiol hyn yw cynnig cartrefi fforddiadwy i bobol leol sy’n methu prynu neu rentu tŷ ar y farchnad agored, ond sy’n annhebygol o fod yn gymwys am dai cymdeithasol.
Angen am y cynllun
Yn ôl Craig ab Iago, sydd â chyfrifoldeb dros Dai ar Gyngor Gwynedd, mae galw enfawr am y cynllun yma yn yn y sir, gyda llawer o bobol yn methu fforddio prynu tŷ heb gymorth.
“Mae bron i 70% o bobol yng Ngwynedd dim ond yn gallu fforddio un tŷ yng Ngwynedd,” meddai Craig ab Iago wrth golwg360.
“Does yna ddim digon, dim byd dim mwy, nunlle yn y sector tai, ond rydym efo tai cymdeithasol.
“Rydym yn gwario £6m y flwyddyn ar ddigartrefedd, sydd eto ddim yn ddigon.
“Mae yna bobol sy’n gallu mynd i ffenest Dafydd Hardy, er enghraifft, a dewis tŷ a phrynu fo.
“Mae yna lawer o bobol o Loegr yn edrych ar Rightmove, ac wedyn prynu tŷ yng Nghymru.
“Mae yna ganran fawr iawn yn y canol sydd ddim yn cael llawer o help, sydd ddim yn gallu fforddio tŷ, sydd ddim yn gallu cael tŷ cymdeithasol.
“Rydym ar hyn o bryd yn colli 90% o bobol ifanc o Wynedd sy’n mynd a ddim yn dod nôl.
“Dydy hynny ddim yn hyfyw, cynaliadwy.
“Fyddan ni ddim yma dim mwy os ydy hynny yn parhau.
“Rydym angen gwneud rhywbeth amdano fo.
“Mae yna swyddi yng Ngwynedd.
“Mae yna lawer o swyddi yng Ngwynedd, ond efallai fod y swyddi ddim yn ennill digon i brynu tŷ.
“Rydym angen trio gwneud bob dim gallwn wneud yn y canol i gadw pobol ni yma, pobol ifanc ni yma, oherwydd os maen nhw’n mynd does dim dyfodol i ni.
“Os ydych yn cofrestru efo Tai Teg, rydych yn gallu cael fyny at 50% o shared equity.
“Os mae morgais yn £100,000 rydym yn prynu £50,000 ohono fo, felly mae dy forgais yn £50,000.
“Bysa chdi’n gallu fforddio prynu tai yng Ngwynedd.
“Rydym yn cadw canran ohono fo.
“Pan mae’n dod i werthu’r tŷ, mae gennym charge ar y tŷ – rhwng 50% a 30% sy’n helpu chi allan, ac rydym yn gweld tai fel cartrefi, nid fel investment opportunities.
“Rydym yma i helpu pawb sy’n gweld ein tai ni fel cartrefi, rhywle i fyw, rhywle i fagu plant, rhywle i gychwyn bywyd.”
Yn ôl Craig ab Iago, mae angen y cynllun yma oherwydd y sefyllfa dai “ddychrynllyd” yng Ngwynedd, sy’n cael effaith ar sawl lefel.
“Mae wedi digwydd dros ddeng mlynedd,” meddai.
“Mae’n dal i barhau.
“Mae beth sy’n digwydd demographically rŵan yng Ngwynedd yn ddychrynllyd.
“Beth rydym yn sôn am ydy, dim pobol ifanc ond rydym efo’r ganran uchaf ym Mhrydain o bobol hŷn.
“Pwy sy’n mynd i barhau i siarad Cymraeg? Pwy sy’n mynd i ddatblygu ein ffordd o fyw? Pwy sy’n mynd i ddatblygu ein hunaniaeth?
“Ydyn ni eisiau pentrefi gwag? Ydyn ni eisiau pentrefi a threfi bywiog?
“Byswn i’n dweud bod pawb yng Ngwynedd yn cytuno ein bod ni eisiau ffordd o fyw ni, hunaniaeth ni, bywydau ni a chymunedau ni i ffynnu.
“Heb dai, does dim ffasiwn beth â chymunedau.
“Heb dai, does dim ffasiwn beth ag addysg.
“Heb dai, does dim ffasiwn beth â gofal ac economi.
“Rydym angen tai, a dim jest tai ond cartrefi.
“Rydym angen pobol yn byw yn y tai yna drwy’r flwyddyn.
“Dydyn ni ddim angen tai gwag.
“Rydym efo’r ganran fwyaf o dai gwag ym Mhrydain, rydym efo’r niferoedd mwyaf o dai gwag ym Mhrydain.
“Rydym angen stopio hynny oherwydd, yn fy marn i, mae’n anfoesol a dydy o ddim yn gynaliadwy.
“Dyna pam rydym angen tai fforddiadwy, oherwydd ein bod ni’n coelio bod ein plant yn haeddu dyfodol, dyfodol lle gallan nhw fyw yn y lle yna cawson nhw eu magu os ydyn nhw eisiau.”
Gwaith ehangach
Yn ôl Craig ab Iago, mae llawer mwy i’r cynllun yma na’r grant yn unig.
“Basically, rydych yn gallu defnyddio Tai Teg os ydych angen help efo tai.
“Rydych yn mynd i Tai Teg a gweld lle mae tai fforddiadwy ar werth yng Ngwynedd.
“Mae’n dda oherwydd mae’n helpu pobol i fyw yn eu cymunedau.
“Rydym angen bob math o bob dim rŵan.
“Mae Tai Teg jest yn un elfen o beth rydym yn ceisio gwneud, ond ti’n gallu teipio ‘Tai Teg’ i mewn a mynd i wefan a gweld beth mae Tai Teg yn cynnig.”
Manylion pellach
Y cam cyntaf i bobol sydd am gofrestru am dŷ yw datgan diddordeb gyda Tai Teg, sef y corff sy’n gweinyddu cynlluniau tai fforddiadwy ar gyfer Cyngor Gwynedd, er mwyn:
- gwneud ceisiadau am dai fforddiadwy unwaith y byddan nhw ar gael
- helpu i gynllunio datblygiadau’r Cyngor i’r dyfodol, gan y bydd yn dangos yn lle mae’r galw am dai fforddiadwy