Mae Cabinet Cyngor Sir Ceredigion yn ystyried opsiynau cynaliadwy ar gyfer dyfodol addysg Chweched Dosbarth y sir, gan gynnwys cau pob Chweched Dosbarth a’u cyfuno i sefydlu canolfan newydd.

Ond mae’r newidiadau yma yn gofidio disgyblion Chweched Dosbarth y sir.

Mae golwg360 wedi bod yn sgwrsio â rhai o ddisgyblion ysgolion Bro Teifi a Bro Pedr i glywed eu barn am argymhelliad Cabinet Cyngor Sir Ceredigion.

Dywed un disgybl ei bod yn gofidio y “bydd iechyd meddwl rhai disgyblion yn dirywio”.

Opsiynau

Opsiwn 2 a 4 yw’r rhai sy’n cael eu hargymhell ar gyfer ystyriaeth bellach gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.

Byddai Opsiwn 2 yn golygu adeiladu ar y sefyllfa bresennol yng Ngheredigion, a byddai darpariaeth ôl-16 yn parhau ar safleoedd Penweddig, Penglais, Aberteifi, Bro Pedr, Dyffryn Teifi ac Aberaeron.

Fe fyddai’r opsiwn hwnnw’n golygu creu Bwrdd Strategol i reoli cyllideb ôl-16 yr awdurdodau, a sicrhau trefniadau addas ar gyfer cyd-gynllunio’r cwricwlwm rhwng y chwe ysgol.

Mae’r adolygiad o ddarpariaeth ôl-16 y sir yn nodi y byddai’r Bwrdd yn gyfrifol am fonitro ansawdd y ddarpariaeth a gwneud argymhellion i’r Cyngor, a allai gynnwys addasu nifer y safleoedd dros amser.

Mae Opsiwn 4 arall yn “cynnig newid mwy pellgyrhaeddol”, medd yr adolygiad.

Byddai’n golygu cau’r ddarpariaeth ôl-16 bresennol, a sefydlu Canolfan Ragoriaeth ar un neu fwy o safleoedd.

Wrth ystyried yr anfanteision, mae’r adroddiad yn nodi y byddai’n ansefydlogi’r drefn bresennol ac y gallai greu gwrthwynebiad lleol “sylweddol”.

Mae’n nodi hefyd y gallai staff ac undebau weld yr opsiwn fel un fyddai’n bygwth diogelwch swyddi a morâl, a allai greu ansicrwydd sylweddol mewn ysgolion.

Fodd bynnag, un o’i fanteision, yn ôl yr adolygiad, yw y byddai’n “caniatáu blaenoriaethu anghenion y dysgwyr ar draws y sir wrth wneud penderfyniadau ar y cynnig iddynt”.

Roedd dau opsiwn arall hefyd yn cael eu crybwyll yn yr adolygiad – un i barhau â’r sefyllfa bresennol ac un fyddai’n golygu cau un neu fwy chweched dosbarth a chadw eraill.

Ymateb Cyngor Sir Ceredigion

“Cytunwyd yng nghyfarfod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu ar 28 Medi, i argymell i’r Cabinet bod Astudiaeth Ddichonolrwydd yn cael ei gynnal, er mwyn rhoi ystyriaeth fanwl i fanteision ac anfanteision Opsiwn 2 ag Opsiwn 4 yng nghyd-destun y chwech egwyddor,” meddai llefarydd y Cyngor ynghylch a ydyn nhw wedi ystyried iechyd meddwl y disgyblion.

“Bydd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion yn trafod yr adroddiad a’r adolygiad o ddarpariaeth ôl-16 yng Ngheredigion, gan gynnwys argymhelliad y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, yn eu cyfarfod ar Dachwedd 7.”

Ystyried argymhelliad i gau pob chweched dosbarth yng Ngheredigion

Cadi Dafydd

Mae un o bwyllgorau’r Cyngor wedi argymell rhoi ystyriaeth fanwl i fanteision ac anfanteision dau opsiwn i addasu neu ddatblygu’r ddarpariaeth ôl-16