Mae claf wedi dioddef dallineb parhaol yn sgil “gwasanaeth fasgwlaidd annigonol” yn y gogledd, yn ôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Fe wnaeth Mr L gwyno bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi methu nodi, ymchwilio na thrin rhwystr i’w bibelli gwaed yn ei wddf yn brydlon a phriodol rhwng Ionawr a Medi 2018.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad eu bod nhw wedi methu cyfleoedd i ystyried a gafodd o strôc pan aeth i’r Adran Achosion Brys yn 2018.
Pe bai wedi cael sgan priodol ar y pryd, mae’n debygol y byddai wedi cael cynnig llawdriniaeth ar frys.
Bu yn yr ysbyty eto ym mis Mawrth, a doedd dim ymchwiliad priodol eto, a chafodd y sgan yn y pen draw ym mis Medi 2018.
Yn ôl ymchwiliad yr Ombwdsmon, bu oedi cyn ei drin hefyd a digwyddodd hyn er bod Mr L wedi dioddef strôc fach dros dro yn ystod y sgan, ac yn yr wythnosau wedyn.
Dangosodd y sgan ym mis Medi niwed i’r llygad a cholli golwg oherwydd gostyngiad yn llif y gwaed, oedd yn galw am lawdriniaeth frys.
Cafodd lawdriniaeth yn y diwedd ar Dachwedd 8, ond cafodd ei adael yn ddall a bydd angen triniaeth arno am weddill ei oes i reoli’i boen, ei lid a’r pwysau cynyddol oherwydd y niwed i’r llygad.
‘Methiant llwyr’
Mae Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, wedi argymell fod y Bwrdd Iechyd yn ymddiheuro ac yn talu £4,750 i Mr L.
Ynghyd â hynny, maen nhw am i’r Bwrdd Iechyd atgoffa’r holl staff perthnasol am arwyddion clinigol y mathau o strôc gafodd Mr L, a sicrhau bod yr ymgynghorydd fu’n ei drin yn myfyrio ar sut y gall wella ei waith yn y dyfodol.
“O ganlyniad i’r cyfleoedd a gollwyd dro ar ôl tro i nodi a thrin ei gyflwr fasgwlaidd, dioddefodd Mr L sawl strôc, anghysur parhaus, a golwg aneglur,” meddai Michelle Morris.
“Er gwaethaf natur anghildroadwy’r cyflwr a oedd yn effeithio ar ei olwg, roedd yn ymddangos nad oedd unrhyw ymdeimlad o frys i gynnig triniaeth.
“Mae’r cyfleoedd hyn a gollwyd yn gyfystyr â methiannau sylweddol yn y gwasanaeth – gwnaethant achosi anghyfiawnder sylweddol a pharhaus i Mr L gan ei fod yn parhau i brofi symptomau gwanychol.
“Yn amlwg, bu methiant llwyr i ddilyn y canllawiau perthnasol a pholisi’r Bwrdd Iechyd ei hun.”
“Yn ogystal, ni allaf beidio â chael fy synnu gan y ffaith ei fod wedi cymryd tan fis Chwefror 2023 i’r Bwrdd Iechyd gydnabod unrhyw fethiannau, er bod Mr L wedi cwyno am y tro cyntaf wrtho ym mis Mehefin 2019 – a hynny dim ond ar ôl adolygu drafft o’r cyngor proffesiynol a fu’n sail i’n hymchwiliad.
“Rydym wedi cyhoeddi yn ddiweddar adroddiad strategol ‘Rhoi Diwedd ar yr Un Hen Gân Feunyddiol 2’ sy’n pwysleisio ein bod yn parhau i weld y mathau hyn o fethiannau ar draws Byrddau Iechyd yng Nghymru.
“Roeddem wedi nodi methiannau tebyg mewn achos blaenorol y gwnaethom ymchwilio iddo yn erbyn y Bwrdd Iechyd.
“Ers yr ymchwiliad hwnnw, cyhoeddwyd dau adroddiad a oedd yn hynod feirniadol o ofal a thriniaeth fasgwlaidd yn y Bwrdd Iechyd. Fodd bynnag, rwy’n ymwybodol bod adolygiad diweddar o’r gwasanaethau hyn gan Arolygiaeth Iechyd Cymru wedi tynnu sylw at welliannau nodedig.
“Mae hyn yn rhoi gobaith i ni y gellir osgoi digwyddiadau fel yr achos hwn yn y dyfodol.”
Cafodd gwasanaethau fasgwlaidd bwrdd iechyd y gogledd eu had-drefnu fis Ebrill 2019, gan symud llawdriniaethau cymhleth o Ysbyty Gwynedd ym Mangor ac Ysbyty Maelor yn Wrecsam i Ysbyty Glan Clwyd.
Ers hynny, mae cleifion a gweithwyr wedi codi pryderon am y gwasanaeth yng Nglan Clwyd; fodd bynnag, mae’r achos hwn yn perthyn i’r cyfnod cyn i’r gwasanaeth gael ei ganoli a dydy’r ysbyty unigol ddim wedi’i enwi.