Mae Plaid Cymru’n galw am gynnwys Tariff Cymdeithasol Ynni yn rhan o raglen bolisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn mynd i’r afael â thlodi tanwydd.

Fe ddylai gael ei gynnwys yn Araith y Brenin ar ddydd Mawrth (Tachwedd 7), yn ôl Ben Lake, llefarydd y Blaid ar y Trysorlys.

Daw hyn wrth i filiynau o bobol wynebu tlodi tanwydd y gaeaf hwn.

Yn ôl Ben Lake, mae’r drefn bresennol o roi cymorth i bobol ar fudd-daliadau prawf moddion yn unig yn “colli miloedd o bobol sy’n byw mewn tlodi tanwydd”.

Y tariff

Nod y tariff sy’n cael ei gynnig yw mynd i’r afael â chostau ynni cynyddol, a nifer gynyddol y bobol sy’n ei chael hi’n anodd talu eu biliau.

Mae prisiau ynni ryw £700 yn uwch nag yr oedden nhw pan ddechreuodd yr argyfwng ynni ddwy flynedd yn ôl.

Mae disgwyl i’r lefel barhau’n gyson yn y dyfodol agos, wrth i’r niferoedd uchaf erioed o bobol geisio cymorth gyda’u dyledion ynni.

Yn ôl Plaid Cymru, gallai tariff cymdeithasol gynnig gwarchodaeth o ran prisiau drwy ostwng cyfraddau unedau, tâl sefydlog neu drwy gynnig ad-daliaau ar filiau sy’n cael ei gyfrifo gan ddefnyddio fformiwla sy’n cyfrifo’r defnydd o ynni ac incwm yr aelwyd.

Mae tariff tebyg eisoes ar waith mewn gwledydd megis Gwlad Belg, ac mae’r rheiny’n cynnig prisiau is i aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd talu eu biliau.

‘Arloesol’

Mae Ben Lake hefyd yn dadlau y gallai tariff helpu i ostwng chwyddiant drwy ostwng cost biliau ynni, ac y byddai’r arian sy’n cael ei arbed yn llifo i mewn i’r economi leol.

“Wrth i’r gaeaf ddechrau brathu, mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn arloesol wrth ddarganfod ffyrdd o warchod y rhai mwyaf bregus rhag baich hallt costau ynni anfforddiadwy,” meddai.

“Rhaid i Araith y Brenin gynnwys system decach ar gyfer cefnogaeth biliau ynni wedi’i thargedu ar ffurf tariff cymdeithasol.

“Ar adeg pan fod costau ynni cynyddol yn gwaethygu o ganlyniad i effaith chwyddiant uchel, mae nifer o aelwydydd yn darganfod fod eu hincwm mae modd ei ddefnyddio wedi crebachu.

“Hyd yn oed pe bai prisiau ynni’n gweld gostyngiad dros dro, bydd nifer o aelwydydd yn dal i ymgiprys â dyledion ynni sylweddol.

“Dydy’r system bresennol o gefnogaeth gyda biliau ynni ddim yn cyfateb i raddfa’r broblem.

“Dydy cefnogaeth y Llywodraeth, sydd ond yn canolbwyntio ar y rhai sy’n derbyn budd-daliadau trwy brawf moddion ddim yn cynnwys y 6.3m o aelwydydd yn y Deyrnas Unedig sydd mewn tlodi tanwydd, sydd wedi cynyddu o 4.5m dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Ar y llaw arall, byddai tariff cymdeithasol ynni yn cynnig gwarchodaeth ar brisiau i bob aelwyd sy’n wynebu anawsterau â’u biliau ynni.

“Drwy ostwng cyfraddau unedig, tâl sefydlu, neu drwy ddarparu ad-daliadau ar filiau, gallai tariff cymdeithasol gynnig sicrwydd hirdymor a rhyddhad mawr ei angen i’r rhai sy’n wynebu biliau sydd dros 50% yn uwch na’r lefelau cyn yr argyfwng.

“Ers amser hir, mae’r Llywodraeth yn addo ymgynghoriad ar dariff cymdeithasol.

“Mae Plaid Cymru’n annog y Prif Weinidog [Rishi Sunak] i gynnwys cynigion ar gyfer tariff cymdeithasol yn Araith y Brenin, fel y gall pobol fod rywfaint yn hyderus y gallan nhw aros yn gynnes y gaeaf hwn.”