Gall ffermwyr fod yn optimistaidd ar gyfer y dyfodol ac o ran yr hyn y gall y sector ei gynnig i bobol a chymunedau.
Dyna neges Aled Jones, Llywydd NFU Cymru, wrth agor cynhadledd y mudiad yn Llandrindod heddiw (dydd Iau, Tachwedd 2).
Bydd yn dweud mai ffermwyr Cymru sy’n gwybod sut orau i gyflwyno bwyd iachus, maethlon a chynaliadwy, ochr yn ochr â mynd i’r afael â heriau newid hinsawdd, dim ond bod ganddyn nhw’r gefnogaeth ac amodau priodol i wneud hynny.
Daw ei neges er gwaetha’r heriau mae’r sector yn eu hwynebu dros fisoedd y gaeaf sydd i ddod.
Bydd pwyslais arbennig yn y gynhadledd eleni ar y cyswllt rhwng amaeth a’r amgylchedd, ac ymdrechion y diwydiant ym maes newid hinsawdd.
Ymhlith y gwesteion yn y gynhadledd eleni mae Dr Michelle Cain, Cymrawd Arweinwyr y Dyfodol UKRI ac Uwchddarlithydd mewn Dadansoddi Data Amgylcheddol ym Mhrifysgol Cranfield.
Bydd cyfle yn ystod y gynhadledd hefyd i anrhydeddu trydydd enillydd Gwobr Amaeth Cynaliadwy NFU Cymru/Wynnstay.
Newid hinsawdd
Bydd Aled Jones yn dweud wrth y gynhadledd fod newid hinsawdd yn dal i fod yn flaenllaw ym meddyliau ffermwyr.
Bydd yn dweud bod hinsawdd a thopograffi Cymru’n golygu y gall Cymru arwain yn y byd o ran cynhyrchu bwyd sy’n dda i’r hinsawdd, bwydo’r boblogaeth sy’n tyfu, a gwireddu uchelgeisiau o ran newid hinsawdd.
Bydd yn dweud mai “newid hinsawdd yw her ein hoes”, a bod NFU Cymru’n cydnabod rôl amaeth yn hynny.
“Yn wir, roedden ni’n un o’r sefydliadau ffermio cyntaf yn y byd i osod y nod uchelgeisiol o gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydro sero net ar gyfer amaeth erbyn 2040.
“Ar yr un pryd â lleihau ein heffaith ar yr hinsawdd, ddylen ni ddim lleihau ein capasiti i fwydo cwsmeriaid â bwyd Cymreig fforddiadwy o safon uchel.
“Yn eu hadroddiad cynnydd diweddar ar gyfer Cymru, fe wnaeth Pwyllgor Newid Hinsawdd y Deyrnas Unedig nodi bod y cynnydd hwnnw tuag at ddatgarboneiddio wedi bod yn rhy araf mewn meysydd datganoledig.”
Bydd e hefyd yn cyfeirio at gynigion NFU Cymru gerbron Llywodraeth Cymru fis Mawrth y llynedd ar gyfer Fframwaith Ffermio Carbon Isel cyn symud tuag at y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
“Mae’n siomedig fod y cynigion hyn wedi dod i stop o fewn y Llywodraeth ers hynny.
“Mae momentwm a hyder ffermwyr mewn gweithredu amgylcheddol yn cael ei chwalu gyda dod â Glastir i ben ym mis Rhagfyr, a bod nifer o’n ffermwyr yn wynebu ymyl y dibyn o ran cyllido y gwnaethon ni rybuddio y byddai’n digwydd pe na bai’r cytundebau hyn yn cael eu hymestyn.”
Cefnogaeth yn sgil dod â Glastir i ben
Bydd Aled Jones yn ategu’r alwad y gwnaeth e mewn llythyr at y Llywodraeth fis diwethaf am gefnogaeth i’r sawl sy’n cael eu heffeithio gan ddod â Glastir i ben.
Bydd e hefyd yn dweud wrth y gynhadledd pa mor bwysig yw cynnal y Cynllun Tâl Sylfaenol yn 2024 “er mwyn cynnal sefydlogrwydd a sicrwydd ar adeg o’r fath ansicrwydd fel y gall ffermwyr barhau i wneud yr hyn rydyn ni’n ei wneud orau, sef darparu’r cwsmer â bwyd diogel a fforddiadwy o safon uchel”.
Bydd yn dweud y bydd y mudiad yn craffu ar drothwy’r etholiad cyffredinol ar addewidion y pleidiau gwleidyddol ar gyfer cyllido amaeth, gan ddweud bod angen ymrwymiad amlflwyddyn i gyllideb sy’n sicrhau bod modd gwireddu uchelgeisiau o ran bwyd, newid hinsawdd a’r amgylchedd.
Bydd yn dweud hefyd fod rhaid meddwl am ffermwyr y dyfodol a’r hyn y mae modd ei wneud nawr i’w helpu nhw i lwyddo, gan sicrhau ar yr un pryd fod cwsmeriaid o Gymru, y Deyrnas Unedig a’r byd yn ehangach yn dewis prynu bwyd o Gymru.
“Bydd y deuddeg mis nesaf yn gweld penderfyniadau tyngedfennol yn cael eu gwneud ar y tirlun polisi yng Nghymru fydd yn penderfynu ac yn diffinio’r tirlun ffermio ar gyfer ein cenhedlaeth ni a’r sawl sy’n dilyn yn ôl ein traed ni.
“Mae hi mor bwysig ein bod ni’n cael hyn yn iawn.
“Mae gennym oll ran i’w chwarae wrth helpu i siapio ffermio Cymru wrth i ni barhau i symud tuag at ein huchelgais o fod yn arweinwyr byd wrth gynhyrchu bwyd hinsawdd-gyfeillgar, cefnogi amghylchfyd ffermio iach a llewyrchus tra ein bod ni hefyd yn gonglfaen lles economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ein cymunedau yng nghefn gwlad.”