Mae arolwg gan Opinium ar ran Cynnes y Gaeaf hwn yn dangos bod 47% o bobol yng Nghymru’n gofidio am yr oerfel dros y gaeaf sydd i ddod.

Ledled y Deyrnas Unedig, mae 56% o bobol o aelwydydd lle mae rhywun bregus yn byw, a 63% o aelwydydd lle mae rhywun â chyflwr iechyd hirdymor neu anabledd yn byw, yn poeni am y sefyllfa hefyd.

Mae 38% o bobol o aelwydd â phlentyn dan bump oed, dynes feichiog, rhywun dros 65 oed neu rywun â chyflwr iechyd hirdymor, yn credu na fyddan nhw’n gallu fforddio gwres y gaeaf hwn.

Mae 62% eisiau rhoi’r gwres ymlaen eisoes, ond yn poeni am y gost.

Bydd 76% o bobol mewn aelwydydd â phlant ifanc yn cymryd camau mawr i gadw’n gynnes, gyda 23% yn dweud y byddan nhw’n mynd i’r gwely’n gynnar.

Mae 88% o bobol lle mae dynes feichiog ar yr aelwyd yn cymryd camau i arbed costau, wrth i 35% o fenywod beichiog neu eu partneriaid ddweud y byddan nhw’n treulio mwy o amser mewn adeiladau sydd wedi’u gwresogi, gan gynnwys llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol neu ofod cynnes arall.

Argyfwng

Mae disgwyl i’r argyfwng biliau ynni fod mor ddifrifol nes bod ystod eang o fudiadau iechyd, tlodi, tai a’r amgylchedd ac academyddion wedi ysgrifennu at Jeremy Hunt, Canghellor San Steffan, i ofyn am gyflwyno Tariff Ynni ar frys.

Byddai’r tariff yn defnyddio mecanwaith y Gwarant Prisiau Ynni i gyflwyno costau sefydlog ar gyfer unedau a thâl sefydlog lefel is ar gyfer grwpiau bregus, gydag ymgyrchwyr yn awgrymu ei gosod ar yr un lefel â gaeaf 2020-21.

Byddai hyn yn gweld gostyngiad o £87 o gymharu â’r lefel bresennol, sy’n golygu arbediad o ryw 46%.

“Realiti’r gaeaf hwn yw y byddwn ni, heb gefnogaeth, yn genedl sy’n ceisio lloches mewn gofodau cynnes, yn llechu mewn un ystafell yn ein cartrefi neu wedi’n lapio dan do fel y dyn Michelin,” meddai Simon Francis, cydlynydd y Cynghrair Rhoi Terfyn ar Dlodi, sy’n rhan o’r ymgyrch i gyflwyno’r tariff.

“Ddylai hyn ddim bod yn dderbyniol yn y gymdeithas gyfoes.

“Bydd methiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i atal yr argyfwng cartrefi oer hwn yn arwain at bwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, argyfwng iechyd meddwl, a marwolaethau ychwanegol dros y gaeaf sydd wedi’i achosi gan fyw mewn cartrefi oer a llaith.

“Mae’r Tariff Ynni Brys yn ymyrraeth benodol, wedi’i thargedu, cyfyng o ran amser ac ymarferol bosib y gall y Canghellor ei gwneud er mwyn anfon cymorth uniongyrchol at aelwydydd sy’n wynebu’r perygl mwyaf o fyw mewn cartrefi oer a llaith.

“Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gyfarfod ag elusennau a’r diwydiant i gadarnhau manylion y cynnig.

“Wedyn, gallan nhw fanteisio ar y cyfle ddaw yn y Datganiad Hydref i anfon neges glir i’r cyhoedd fod gweinidogion yn deall eu dioddefaint a’u bod nhw’n barod i’w helpu nhw i aros yn gynnes y gaeaf hwn.”

Cefnogaeth bron yn unfrydol

Mae pôl piniwn yn awgrymu bod 83% o’r cyhoedd sydd â barn yn cefnogi’r mesur.

Mae’r gefnogaeth yn uchel ymhlith pob grŵp demograffig ac ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Ymhlith y rhai fydd yn gorfod torri’n ôl ar hanfodion er mwyn fforddio’u biliau ynni neu’r rhai sy’n methu eu fforddio, byddai’r cynlluniau ar gyfer Tariff Ynni Brys yn rhoi digon o gefnogaeth ariannol iddyn nhw allu osgoi effeithiau gwaethaf argyfwng y gaeaf.

“Dw i wedi bod yn ymweld â chanolfannau cymunedol ledled de Cymru yn fy rôl, a dw i ddim wedi synnu o gwbl gan yr ymchwil oedd wedi canfod fod bron i hanner pobol Cymru’n poeni am fod yn oer y gaeaf hwn, gan eu bod nhw eisoes yn ei chael hi’n anodd o ganlyniad i gostau ynni uchel, a diffyg cartrefi sydd wedi’u hinsiwleiddio wrth i ni siarad,” meddai Bethan Sayed, cydlynydd ymgyrch Cynnes y Gaeaf Hwn yng Nghymru.

“Dywedodd un ddynes yn Sgiwen wrtha i ei bod hi’n cael un pryd bwyd y dydd ac yn aros mewn un ystafell er mwyn cadw’n gynnes.

“Dywedodd un arall, sydd yn gweithio i sefydliad cymunedol yn cefnogi’r rhai mewn angen, fod ei chartref yn llawn lleithder ac na fydd ei landlord yn gwneud dim am y peth, a’i fod yn effeithio ar ei hiechyd hi.

“Mae hyn yn annerbyniol.

“Byddai tariff brys yn gwneud costau unedau’n sefydlog ac yn rhoi tâl sefydlog ar lefel is i grwpiau bregus.

“Byddai hyn yn mynd yn bell wrth helpu pobol y gaeaf hwn, yn arwain at ddiwygiadau ehangach sy’n hollol angenrheidiol, fel gorfodi’r cwmnïau ynni i wneud mwy i gefnogi cwsmeriaid, gwahardd mesuryddion rhagdalu, a chefnogi ein galwadau am dariff cymdeithasol.”

Datganiad Hydref y Canghellor

Mae pwysau ar y Canghellor i fanteisio ar ei Ddatganiad Hydref i fynd i’r afael â’r lefelau uchaf erioed o ddyled ynni, drwy gyflwyno cynllun Cymorth i Ad-dalu, fyddai’n ychwanegiad at y gefnogaeth ar gyfer tariffau er mwyn atal lefelau dyled rhag codi’n uwch eto.

Yn ôl yr ymchwil, does fawr o wahaniaeth rhwng pobol sy’n gweithio a phobol sy’n ddiwaith o ran gallu fforddio talu biliau, gyda 27% o bobol nad ydyn nhw’n derbyn budd-daliadau’n dweud y byddan nhw’n ei chael hi’n anodd gwresogi eu cartrefi.

Mae’r ffigwr yn codi i 50% ymhlith pobol sy’n derbyn budd-daliadau.

Mae ymgyrchwyr yn galw am gynyddu pensiynau a budd-daliadau yn unol â chwyddiant, a dileu mesurau sy’n cosbi pobol, er enghraifft y cap o ddau blentyn ar gyfer budd-daliadau.