Bydd fersiwn Gaeleg yr Alban o’r gêm Scrabble yn cael ei lansio ym mis Rhagfyr, gyda’r gobaith o roi hwb i’r iaith.

Roedd An Taigh Cèilidh (y ganolfan ddiwylliannol a chaffi cymunedol yn Stornoway) wedi gweithio gyda Tinderbox Games yn Llundain er mwyn cael fersiwn trwyddedig o’r gêm yn yr iaith.

Dr Teàrlach Wilson yw cyfarwyddwr a sylfaenydd An Taigh Cèilidh. Roedd o wedi gofyn i Tinderbox Games yn 2021 a oedd fersiwn Gaeleg yr Alban o Scrabble ar gael, ac os na, a fyddai An Taigh Cèilidh yn gallu helpu i greu fersiwn newydd.

Mae gan Dr Teàrlach Wilson ddoethuriaeth mewn Gaeleg ac mae hefyd yn siaradwr Cymraeg rhugl. Mae wedi chwarae fersiwn Gymraeg o Scrabble sawl gwaith, meddai.

Dim ond 18 llythyren sydd yn wyddor Gaeleg yr Alban – nid yw’n defnyddio’r llythrennau J, K, Q, V, W, X, Y neu Z. Fe fydd y llythrennau yma yn cael eu tynnu o’r gêm Scrabble newydd, gyda’r bwrdd a’r rheolau mewn Gaeleg yr Alban. Bydd acen hefyd i’w weld ar y llythrennau À È Ì Ò Ù.

‘Rhoi hwb i’r iaith’

Yn ôl Dr Teàrlach Wilson, mae ymchwil academaidd wedi dangos bod Scrabble yn ffordd effeithiol a hwyliog o addysgu llythrennedd mewn unrhyw iaith benodol, ac felly gall helpu i adfywio ieithoedd lleiafrifol. Y gobaith yw y bydd y gêm yn rhoi hwb i’r iaith.

“Yn wahanol i’r Gymraeg, mae llawer iawn o siaradwyr Gaeleg yn methu ysgrifennu neu ddarllen Gaeleg o achos diffyg addysg oedd ar gael cyn yr 80au. Felly, bydd Scrabble Gàidhlig yn help mawr i sawl fath o siaradwr. Ond, dyn ni i gyd yn gwybod nad tasg addysgol yn unig yw Scrabble, ond gêm hwyliog hefyd. Dyn ni wedi chwarae sawl gêm yn An Taigh Cèilidh erbyn hyn, ac mae pobol wir yn ei joio!,” meddai.

Mae tua 58,000 yn siarad Gaeleg yn yr Alban, ychwanegodd Dr Teàrlach Wilson.

“Mae 48% ohonyn nhw (tua 28,000) yn byw tu fas i’r Ucheldiroedd a’r Ynysoedd. Dim ond yn un sir mae mwy na 50% yn siarad Gaeleg, sef Na h-Eileanan an Iar (Yr Ynysoedd Gorllewinol, neu Ynysoedd Heledd Allanol). Yn rhai o siroedd yr Alban, mae llai na 1% yn siarad Gaeleg. Er hynny, mae addysg Aeleg yn tyfu yn ninasoedd y Canolbarth, fel Caeredin a Glasgow. A dylid nodi taw siaradwyr Gaeleg unodd yr Alban a chafodd Gaeleg ei siarad ymhobman yn yr Alban (ac eithio’r Ynysoedd Gogleddol, sef Erch a Shetland) ac yn Cumbria. Gellir gweld enwau Gaeleg ar draws yr Alban.”

Cafodd Scrabble ei dyfeisio yn 1948 ac mae bellach yn cael ei gwerthu mewn mwy na 120 o wledydd. Mae’r gêm ar gael mewn 28 o ieithoedd gan gynnwys y Gymraeg.

Pencampwriaeth Scrabble

Er mwyn lansio’r fersiwn newydd, bydd An Taigh Cèilidh yn cynnal Pencampwriaeth Byd Scrabble Gaeleg cyntaf erioed ar Ragfyr 2 am 2yp. Gall chwaraewyr gofrestru i gymryd rhan hyd at ganol dydd ar y diwrnod, a byddan nhw’n chwarae yn erbyn Dr Teàrlach Wilson.

“Alla’i ddim aros i chwarae,” meddai Dr Teàrlach Wilson.

“Bydd dau fwrdd yn An Taigh Cèilidh a dwy gêm yn digwydd ar y tro. Bydd yr enillwyr yn chwarae yn erbyn ei gilydd tan fydd pencampwr gyda ni. Dyn ni’n mynd i amseru pa mor hir mae’r chwaraewyr yn cymryd i wneud gair hefyd. Ond dw i ddim am i bobol deimlo ein bod ni’n rhy lym! Wedi’r cyfan, tŷ cèilidh yw An Taigh Cèilidh – lle cyfarfod i gymdeithasu a chael hwyl.”

Mae modd archebu’r fersiwn yma o Scrabble am £36 o wefan An Taigh Cèilidh – www.taighceilidh.com hyd at Ragfyr 1. Yn dilyn y lansiad ar Ragfyr 2, bydd ar gael am £39.99.