Mae cŵn Bully XL Americanaidd wedi cael eu hychwanegu at y rhestr o gŵn sydd wedi eu gwahardd yn swyddogol yng Nghymru a Lloegr gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae hyn yn golygu y bydd yn anghyfreithlon i fod yn berchen ar Bully XL Americanaidd o Chwefror 1, oni bai bod gan berchnogion ffurflen sy’n eu heithrio.
Mae’n dilyn cyfres o ymosodiadau yn ymwneud â’r brîd, gan gynnwys ymosodiad ar fachgen deg oed yng Nghaerffili. Bu farw Jack Lis yn dilyn ymosodiad arno gan gi Bully XL Americanaidd.
Bydd canllawiau llym mewn grym ar gyfer perchnogion presennol.
O fis Ionawr, bydd angen sicrhau bod ceg y cŵn wedi cael eu ffrwyno a’u bod nhw ar dennyn mewn mannau cyhoeddus.
O ddiwedd y flwyddyn (Rhagfyr 31), fe fydd yn anghyfreithlon i werthu, caniatáu i gi Bully XL Americanaidd grwydro, bridio neu roi ci Bully XL Americanaidd i rywun arall, meddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Os ydy’r ci yn iau na blwydd oed ar Ionawr 31, rhaid iddo gael ei ysbaddu erbyn Rhagfyr 31 y flwyddyn nesaf.
Os yw’r ci yn hŷn na blwydd oed ar Ionawr 31, bydd yn rhaid iddo gael ei ysbaddu erbyn Mehefin 30.