Mae Rhun ap Iorwerth yn galw am gadoediad yn Gaza, wrth i’r rhyfel rhwng Israel a Phalesteina waethygu.
Daw’r alwad gan arweinydd Plaid Cymru wrth i’r rhyngrwyd a gwasanaethau symudol gael eu diffodd bron yn llwyr wrth i’r cyrchoedd bomio gynyddu.
Cyflwynodd e gynnig yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf yn galw am ddadl.
Dydy Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, na Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur yn San Steffan, ddim wedi galw am gadoediad hyd yma.
Ond mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn dweud y dylid ad-alw senedd y Deyrnas Unedig er mwyn pwyso ar y Llywodraeth a’r wrthblaid i alw am gadoediad.
Ar hyn o bryd, does dim bwriad i’r senedd yn San Steffan gyfarfod eto cyn Tachwedd 7, pan fydd Araith y Brenin yn cael ei thraddodi.
‘Y sefyllfa ddyngarol yn fwyfwy despret’
Yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae’r sefyllfa ddyngarol yn mynd yn fwyfwy despret wrth i’r ymosodiadau ar Gaza waethygu.
“Rhaid i’r gymuned ryngwladol beidio â cholli golwg o’i dyletswydd foesol i gynnal cyfraith ryngwladol ac i wneud popeth posib i warchod y cannoedd o filoedd o sifiliaid diniwed sydd yn sownd yn y gwrthdaro yma,” meddai.
“Rhaid bod cadoediad ar unwaith, rhyddhau gwystlon, creu coridorau cymorth diogel, ac adfer sianeli cyfathrebu hanfodol fod yn flaenoriaeth, a dw i’n annog pob plaid yn y Deyrnas Unedig i uno y tu ôl i’r alwad hon.”
Mae Liz Saville Roberts wedi ategu sylwadau Rhun ap Iorwerth.
“Mae San Steffan yng nghanol toriad yr wythnos nesaf, sy’n golygu nad oes cyfle hyd yn oed i fynnu diweddariadau gan y Llywodraeth yn y Tŷ na thrwy gwestiynau ysgrifenedig.
“Bydd y Prif Weinidog [Rishi Sunak] ac arweinydd yr wrthblaid [Syr Keir Starmer] yn parhau i osgoi galwadau am gadoediad oni bai bod y senedd yn cael ei hadalw.”