Mae pwyllgor wedi clywed y gallai cynghorwyr dderbyn taliadau wrth i bleidleiswyr bleidleisio yn eu herbyn nhw yn y dyfodol.

O dan y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig, gallai cynghorwyr yng Nghymru sy’n colli eu seddi dderbyn taliad ailsefydlu.

Ymgais yw’r polisi i ddileu rhwystrau, megis ar gyfer pobol â chyfrifoldebau gofalu, ac i hwyluso’r symudiad ar gyfer y rheiny sy’n rhoi’r gorau i’w gyrfaoedd i sefyll mewn etholiadau.

Mae trefniadau tebyg eisoes yn eu lle ar gyfer aelodau’r Senedd a Senedd y Deyrnas Unedig.

Ar ôl etholiad 2021, derbyniodd deg cyn-Aelod o’r Senedd daliadau yn amrywio o £14,000 i £40,000 ac fe gostiodd hynny fwy na £360,000 i’r pwrs cyhoeddus, yn ôl cais rhyddid gwybodaeth.

Caiff y grant ailsefydlu ar gyfer Aelodau’r Senedd ei lywio gan fwrdd annibynnol sy’n cynhyrchu penderfyniad blynyddol ar gyflog a lwfans aelodau.

‘Diswyddiadau’

Aeth Mick Antoniw, prif swyddog cyfreithiol Llywodraeth Cymru, gerbron pwyllgor llywodraeth leol y Senedd i roi tystiolaeth ar y bil.

“Rydyn ni’n defnyddio’r term taliadau ailsefydlu; a bod yn onest, am wn i o ran fy nghefndir cyfreithiol, dw i’n ei weld bron fel rhyw fath o daliad diswyddo,” meddai.

“A chafodd taliadau diswyddo eu sefydlu er mwyn darparu sicrwydd i bobol oedd yn gweithio pan wnaethon nhw golli eu cyflogaeth.

“Dw i’n credu bod hynny yr un mor berthnasol i’r sawl sy’n derbyn swydd etholedig.”

“Mae’n fater o ddarparu sicrwydd yn nhermau’r ffaith, ar ôl etholiad, y bydd nifer o ymgeiswyr sydd wedi sefyll allan ond sydd bellach yn ddiwaith, i bob pwrpas,” meddai’r Cwnsler Cyffredinol wrth y cyfarfod ddydd Iau (Hydref 26).

Eglurodd Michael Kay, y prif swyddog sy’n gyfrifol am y bil, y byddai’n fater i’r Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru newydd i ddylunio’r cynllun ac i osod taliadau.

“Mae’n rhan o’r arwydd o barch ar gyfer aelodau etholedig,” meddai.

“Felly, yn yr un modd ag y byddai Aelodau Seneddol neu Aelodau’r Senedd yn derbyn taliad ailsefydlu, y bwriad yw parchu natur rôl cynghorydd.”

Mae cynghorwyr yn derbyn lwfans blynyddol o ryw £17,000 ond mae deiliaid rhai swyddi’n derbyn mwy, yn ôl adroddiad.

Er enghraifft, mae arweinwyr cynghorau’n derbyn tâl rhwng £56,000 a £66,000 y flwyddyn.

Cofrestru

Clywodd y pwyllgor bryderon hefyd y gallai’r cynlluniau ar gyfer cofrestru diofyn ar gyfer etholiadau yng Nghymru, ond nid y Deyrnas Unedig, ddrysu etholwyr.

O dan y bil, ni fyddai’n rhaid i drigolion wneud cais i gofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd nac yn etholiadau’r cynghorau.

Ond fydd y diwygiadau arfaethedig ddim yn berthnasol i San Steffan nac etholiadau comisiynwyr yr heddlu.

Fe wnaeth John Griffiths, sy’n cadeirio’r pwyllgor llywodraeth leol, godi pryderon am ddryswch posib ymhlith etholwyr, gan ofyn, “A allen nhw feddwl, oherwydd eu bod nhw wedi’u cofrestru’n ddiofyn ar gyfer etholiadau Cymru, y bydd hynny hefyd yn berthnasol i etholiadau’r Deyrnas Unedig?”

Fe wnaeth Mick Antoniw gydnabod y broblem, ond fe dynnodd e sylw at enghreifftiau eraill o wahaniaethau rhwng etholiadau yng Nghymru a San Steffan, megis pobol 16 a 17 oed yn cael pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiad y Senedd fis Mai 2021.

Yn ôl y Comisiwn Etholiadol, dydy oddeutu 400,000 o bobol yng Nghymru ddim ar y gofrestr etholiadol.

Preifatrwydd

Fe wnaeth Jayne Bryant, Aelod Llafur o’r Senedd dros Orllewin Casnewydd, geisio sicrwydd y bydd preifatrwydd pobol yn cael ei barchu.

“Pa gamau sy’n cael eu cymryd i sicrhau mwy o bobol fregus na fydd dim byd yn cael ei roi ar gofnod heb eu cymeradwyaeth?” gofynnodd.

Eglurodd Mick Antoniw y byddai pobol yn cael eu hysbysu o fewn 45 diwrnod ar ôl cael eu rhoi’n ddiofyn ar y gofrestr.

Dywedodd y bydd pobol yn gallu gwneud eu manylion yn anhysbys, neu ‘optio allan’.

Wrth gael ei holi am ganlyniadau anfwriadol ar gyfer pobol sy’n anllythrennog neu’n siarad Saesneg fel ail iaith, pwysleisiodd y Cwnsler Cyffredinol y byddai cynlluniau’n cael eu peilota.

Byddai’r Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig hefyd yn creu dyletswyddau ynghylch gwella amrywiaeth, yn ogystal â gwahardd cynghorwyr rhag gwasanaethu fel Aelodau’r Senedd.