Meirion Davies, sydd â chefndir yn y byd darlledu a chyhoeddi, fydd Cyfarwyddwr nesaf Castell Aberteifi.

Bydd y brodor o Flaenffos ger Crymych yn dechrau ar y swydd ym mis Rhagfyr, gan olynu Jonathan Davies.

Castell Aberteifi oedd cartref Eisteddfod Aberteifi 1176, yr eisteddfod gyntaf y gwyddom amdani, dan nawdd yr Arglwydd Rhys.

Mae’r castell wedi bod ar agor i’r cyhoedd ers 2015 ar ôl gwerth £12m o waith adfer, gafodd ei arwain gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno a’r tîm yn y Castell, ac i ddatblygu ar y gwaith arbennig sydd eisoes wedi ei gyflawni yno,” meddai Meirion Davies.

“Fel un o’r ardal, sy’n cofio’r cyfnod pan oedd y lleoliad yn rhywle caeedig, mae’n hyfryd gweld y Castell a’i holl atyniadau yn goron ar Aberteifi, ac yn cynorthwyo i groesawu’r byd i’r dref.”

‘Cefnogaeth ddiwyro’r gymuned’

Dywed Jonathan Thomas ei fod yn falch fod Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan wedi penodi Meirion Davies i’w olynu, a’i fod yn “benodiad hynod gyffrous i’r castell”.

“Dymunaf yn dda iddo yntau ac i bawb sy’n ymwneud â’r Castell i’r dyfodol ac edrychaf ymlaen at weld beth ddaw nesaf,” meddai.

“Diolch i staff, gwirfoddolwyr ac Ymddiriedolwyr y Castell am eu cefnogaeth dros y tair blynedd a hanner ddiwethaf sydd wedi caniatáu i ni gymryd camau breision i ddatblygu’r Castell ymhellach.

“Yn olaf, diolch yn fawr iawn i’r gymuned leol am eu cefnogaeth ddiwyro i’r Castell trwy gydol fy amser – castell pobl Aberteifi yw hwn a does dim byd wedi fy mhlesio’n fwy na gweld y gymuned leol yn mwynhau’r lle unigryw hwn.”

‘Arweinwyr brwdfrydig’

Ychwanega Non Davies, cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolaeth, eu bod nhw’n falch o groesawu Meirion Davies fel Cyfarwyddwr hefyd.

“Yn ystod ei hanes hir mae’r Castell wedi bod yn ffodus o gael nifer o arweinwyr brwdfrydig  a thalentog – o Arglwyddi i Geidwaid i staff a gwirfoddolwyr,” meddai.

“Er ein bod yn hynod drist o orfod ffarwelio a Jonathan wrth iddo ymgymryd â swydd newydd, dymunwn yn dda iddo yn ei yrfa gan ddiolch iddo am ei ymrwymiad a’i gyfraniad arbennig i hanes y Castell.

“Llywiodd Jonathan y Castell yn fedrus drwy gyfnod digynsail gyda dyfodiad Covid-19 a’r her o orfod cynnal y safle o dan reoliadau a chanllawiau llym.

“Yn ystod ei gyfnod fel Cyfarwyddwr cyflwynodd nifer o fentrau newydd gan gynnwys adnewyddu’r Pafiliwn, creu arddangosfeydd rhyngweithiol newydd i blant, sefydlu Ystafell Ddianc arloesol ac unigryw a threfnu a chynnal rhaglen barhaus o ddigwyddiadau cymunedol.

“Wrth i ni ddechrau pennod newydd yn hanes y Castell dan arweiniad Meirion, edrychwn ymlaen at ddatblygiadau cyffrous pellach, yn arbennig yng nghyswllt y gymuned, diwylliant a threftadaeth.”