Bydd Magnox, y cwmni sydd yng ngofal datgomisiynu atomfeydd Trawsfynydd a Wylfa, yn cael ei adnabod fel Gwasanaethau Adferiad Niwclear (NRS) o heddiw (dydd Mawrth, Hydref 31).

Maen nhw’n pwysleisio bod datgomisiynu’r ddau safle mewn modd diogel yn parhau i fod yn flaenoriaeth.

Fodd bynnag, mae’r sefydliad yn awyddus i ddangos eu bod nhw’n un sy’n “rhoi pwyslais ar gyflawni” ac “yn un trawsnewidiol, arloesol ac un sy’n tyfu”.

Yn ôl NRS, mae’r newid enw’n eu helpu i ganolbwyntio ar y dyfodol drwy fuddsoddi yn eu gweithlu, eu hasedau, eu cymunedau a’r dirwedd ger eu safleoedd, fel eu bod nhw’n “gadael gwaddol niwclear cynaliadwy”.

‘Newid mwyaf arwyddocaol ar y safle’

“Bydd NRS yn parhau i ddatgomisiynu safle Trawsfynydd mewn ffordd ddiogel, saff a chynaliadwy,” meddai Angharad Rayner, Cyfarwyddwr y safle yn Nhrawsfynydd.

“Rydym wedi ymrwymo i ymgymryd â datgomisiynu’r adweithydd niwclear sifil cyntaf i lawr i’r ddaear, a hyd yma rydym wedi symud tanwydd o’r safle’n ddiogel, wedi llwyddo i ddraenio’r pyllau, wedi dymchwel llawer o adeiladau confensiynol yn ogystal â lleihau’r prif beryglon yn sylweddol.

“Bydd ein pwyslais yn awr ar barhau â’r gweithgarwch a gynlluniwyd a fydd yn arwain at y newid mwyaf arwyddocaol ar y safle, sy’n cynnwys dymchwel cyfadeiladau’r pyllau, yn ogystal â bwrw ymlaen â’n cynlluniau ar gyfer lleihau uchder adeilad yr adweithydd.”

‘Sylw i’r amgylchedd’

Ychwanega Stuart Law, Cyfarwyddwr y safle yn Wylfa ar Ynys Môn, eu bod nhw wedi bod yn cael gwared ar asbestos o’r safle dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ynghyd â dymchwel llawer o adeiladau.

“Cwblhawyd hyn yn ddiogel gan roi sylw dyladwy i’r amgylchedd gan sicrhau bod modd ailddefnyddio asedau pan yn bosibl,” meddai.

“Byddwn yn awr yn parhau i ganolbwyntio ar leihau’r prif beryglon fel asbestos, a chwblhau cam nesaf y gwaith sy’n cynnwys adolygu seilwaith trydanol y safle, ynysu neuadd y tyrbin, a rheoli ein hasedau presennol wrth inni fwrw ymlaen â’n rhaglen ddatgomisiynu.”