Gall ymgynghoriad ar safleoedd posib i Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Fynwy fynd rhagddo bellach, ar ôl mynd yn ôl ac ymlaen drwy bwyllgorau’r Cyngor.

Fe wnaeth Cabinet Llafur Sir Fynwy gytuno mewn cyfarfod arbennig ddechrau mis Hydref y dylai redeg ymgynghoriad i geisio barn y cyhoedd ar dri safle addas posib, ar gyfer hyd at chwe lle, yn y cynllun datblygu lleol mae’n ei lunio ar hyn o bryd.

Ond roedd oedi cyn dechrau’r ymgynghoriad chwe wythnos, ar ôl i gynghorwyr annibynnol alw’r penderfyniad i mewn, oedd yn golygu y byddai pwyllgor craffu’r Cyngor yn archwilio’r sefyllfa.

Fe wnaeth y pwyllgor hwnnw gyfarfod ddydd Llun diwethaf (Hydref 23), a phenderfynu y dylai’r Cyngor llawn wneud penderfyniad a ddylid derbyn cynllun y Cabinet i ddechrau’r ymgynghoriad neu orchymyn fod yn rhaid ailfeddwl.

Y safleoedd dan sylw oedd cae y tu ôl i Glôs Langley ym Magwyr, Fferm Bradbury yng Nghrug, a Fferm Oak Grove sy’n dod o dan Gaerwent yn hytrach na Chrug pan gafodd y penderfyniad ei ystyried gan y Cyngor llawn, wnaeth gyfarfod ddydd Iau (Hydref 26).

‘Anghywirdeb sylweddol’

Frances Taylor yw cynghorydd annibynnol Magwyr, y mae ei ward yn cynnwys Clôs Langley ac a oedd wedi galw’r penderfyniad i mewn.

Dywedodd wrth y Cyngor llawn fod aelodau’r cyhoedd wedi amlinellu “anghywirdeb sylweddol” yn y pwyllgor craffu, gan atgoffa cynghorwyr fod pedwar safle allan o’r pump ar y rhestr fer wreiddiol wedi cael eu rhoi o’r neilltu yn y cyfamser.

Dywedodd John Crook, cynghorydd Llafur Dwyrain Magwyr ac Undy, wrth y Cyngor llawn fod “y gwendidau’n gorbwyso’r cryfderau o dipyn” o ran safle Clôs Langley.

“Dw i’n cwestiynu a ydy’r Teithwyr Sipsiwn eisiau meddiannu’r safle?” meddai.

“Alla i ddim cefnogi’r safle wrth fynd ymlaen i ymgynghoriad, ac yn gofyn i’r Aelod Cabinet edrych arno’n ofalus iawn cyn gynted ag y gall.”

Ymgynghoriad cyhoeddus

“Wnaeth y Cabinet ddim cymeradwyo’r safleoedd hyn” meddai Paul Griffiths, cynghorydd Cas-gwent ac aelod o’r Cabinet.

“Does dim gofyn i’r Cyngor gymeradwyo’r safleoedd hyn.

“Mae gofyn i chi roi sêl bendith i ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus fydd yn galluogi pobol i ymgysylltu yn y broses o wneud penderfyniad.”

Dywedodd y byddai’r ymgynghoriad hefyd yn cynnwys sgwrs â’r gymuned Sipsiwn a Theithwyr a’r sefydliadau sy’n eu cynrychioli nhw.

Dywedodd y gallai’r tri safle ddarparu hyd at ddeunaw o lefydd ond mai unarddeg yw’r angen lleol, yn ôl asesiad presennol.

“Mae’n bosib mai un safle yn unig fydd ei angen arnom,” meddai.

“Byddwn i’n teimlo’n nerfus yn mynd i ymgynghoriad a bod angen dau safle, a dweud, ‘Dyma ddau safle, beth ydych chi’n ei feddwl?”

Daeth eglurder hefyd yn y cyfarfod y byddai profion ar gyfer halogi tir posib, a llygredd sŵn ac aer yn cael eu cynnal yn ystod y cyfnod ymgynghori, ac mai £26,000 i £28,000 yw’r gost dybiedig ar gyfer y tri safle.

Roedd addasrwydd y safleoedd, yn enwedig Clôs Langley drws nesaf i’r M4, wedi cael ei gwestiynu gan y cyhoedd a chynghorwyr o ganlyniad i broblemau llygredd posib.

Roedd y pwyllgor craffu wedi codi pryderon am gostau wrth gyfeirio’r penderfyniad i’r Cyngor llawn, gan ddweud wrth y Cyngor y gall fod yn rhaid gwario hyd at £14,000 y safle.

Ond dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths fod “economïau graddfa” yn golygu, er y gallai archwilio Clôs Langley gostio £14,000 na fyddai’r bil terfynol dair gwaith y £14,000 hwnnw.

Cafodd penderfyniad gwreiddiol y Cabinet ei dderbyn o 22 pleidlais i 21, gyda’r weinyddiaeth Lafur/Plaid Werdd a’r cadeirydd Meirion Howells, sy’n eistedd yn y Grŵp Plaid Werdd Annibynnol, yn pleidleisio o blaid derbyn, tra bod y cynghorydd Llafur John Crook wedi pleidleisio gyda’r Ceidwadwyr ac aelodau annibynnol oedd eisiau cyfeirio’r penderfyniad yn ôl i’r Aelod Cabinet.