Dydy penderfyniad y Prif Weinidog i alw am saib dyngarol i Gaza ddim yn mynd yn ddigon pell, yn ôl gwleidyddion ac ymgyrchwyr.
Gwnaeth Mark Drakeford ddatganiad i’r BBC ddoe (dydd Llun, Hydref 30) yn dweud ei fod yn cefnogi galwadau Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, am saib dyngarol ar ôl i ddeuddeg o aelodau ei blaid yn y Senedd alw am gadoediad.
Dywed y Prif Weinidog ei fod yn cefnogi galwadau Keir Starmer am saib dyngarol, fel bod cymorth yn gallu cyrraedd y rhai sydd ei angen ar frys.
“Byddai egwyl yn creu amodau a allai arwain at gadoediad ac yna at y camau hollbwysig nesaf i ddarparu llwybr ymarferol at y datrysiad heddychlon mawr ei angen,” meddai Mark Drakeford.
Ond mae arweinydd Plaid Cymru, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, a chyn-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith ymysg y rhai sy’n galw am gadoediad ar unwaith.
‘Dim ond cadoediad all ddechrau unioni’r dioddefaint’
Mae Rhun ap Iorwerth wedi ymuno â Humza Yousaf, Prif Weinidog yr Alban, i alw am gadoediad gan ddweud bod “rhaid i’r gymuned ryngwladol ddangos yr arweinyddiaeth a’r argyhoeddiad moesol sydd eu hangen i atal trais ac i achub bywydau”.
Yn ei lythyr at Humza Yousaf, dywed Rhun ap Iorwerth nad oes esgus dros “y gosb ar y sifiliaid yn Gaza” a’r “colledion bywyd disynnwyr”.
“Rhaid i bob plaid wleidyddol uno i alw am gadoediad ar unwaith fel yr unig ffordd ystyrlon o roi terfyn ar ddioddefaint dynol, gan ganiatáu i sefydliadau dyngarol gyrraedd y rhai mewn angen trwy goridorau cymorth diogel, a galluogi taith ddiogel i’r rhai sy’n dymuno symud allan o Lain Gaza a dychwelyd pan fydd yn ddiogel i wneud hynny,” meddai.
Mae arweinydd y Blaid yn San Steffan hefyd wedi beirniadu penderfyniad Mark Drakeford.
“Edrychwch ar y golygfeydd dirdynnol o Gaza,” meddai Liz Saville Roberts.
“Rhowch eich hun yn eu hesgidiau a gofynnwch pa mor hir mae ’saib’ yn dderbyniol cyn i ladd plant ddechrau eto.
“Dim ond cadoediad all ddechrau unioni’r dioddefaint a ddioddefir gan oedolion a phlant yn Gaza.
“Bydd cosb ar y cyd yn niweidio cenedlaethau’r dyfodol mewn ffyrdd na allwn ddechrau rhagweld.
“Nid yw dial ar y diniwed yn gyfiawnder.”
‘Ble mae dy asgwrn cefn?’
Un arall sydd wedi beirniadu Mark Drakeford yw Mabli Siriol Jones, cyn-Gadeirydd a chadeirydd Grŵp Addysg bresennol Cymdeithas yr Iaith.
Mewn neges ar X (Twitter yn flaenorol), dywed Mali ei fod yn benderfyniad “cywilyddus”.
“Pwynt isel yng ngyrfa Drakeford a datganoli,” meddai.
“Beth yw’r pwynt cael Prif Weinidog ein hun os nad yw e’n gallu galw am gadoediad yn wyneb hil laddiad?
“Mae rhai pethau mewn bywyd yn fwy pwysig na gwleidyddiaeth fewnol y blaid Lafur.
“Ble mae dy galon a dy asgwrn cefn?”
‘Mae cefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru i Balesteina yn glir’
Wrth ymateb i’r newyddion ddoe, roedd Cyngor Mwslemiaid Cymru yn galw ar Mark Drakeford i ymuno â chynrychiolwyr Llafur eraill dros y Deyrnas Unedig – fel Anas Sarwar, arweinydd y blaid yn yr Alban; a Sadiq Khan ac Andy Burnham, meiri Llundain a Birmingham – wrth alw am gadoediad.
“Yng nghyd-destun y trais hwn, mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Rishi Sunak, ynghyd ag arweinydd yr wrthblaid, Syr Keir Starmer, wedi methu galw am gadoediad ac ymyrryd i amddiffyn bywydau Palesteiniaid,” meddai Dr Abdul Azim Ahmed, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Mwslemiaid Cymru.
“Yn anffodus, mae hyn er gwaethaf y lladdfa systemig o Balesteiniaid, gan gynnwys lladd menywod a phlant yn ddiwahân, dadleoli gorfodol, a chosbi torfol drwy rwystro’r cysylltiad trydan, dŵr a chymorth gan Israel.
“Mae cefnogaeth y cyhoedd yng Nghymru i Balesteina yn glir, ac maen nhw’n edrych ar Lywodraeth Cymru i adlewyrchu eu pryderon,” meddai wedyn.”