Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth enillodd Wobr Arbennig Gwobrau Hybu’r Gymraeg y brifysgol eleni.
Derbyniodd Dr Elizabeth Treasure wobr gan y panel am ei “chefnogaeth allweddol” i’r Gymraeg yn ystod ei chyfnod yn y swydd, fydd yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn.
Cafodd enillwyr Gwobrau Hybu’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo’r mis hwn, wedi iddyn nhw gael eu henwebu gan staff a myfyrwyr.
Derbyniodd pob un o’r enillwyr englyn personol gan yr Athro Mererid Hopwood, Dr Eurig Salisbury o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd neu Dr Hywel Griffiths o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol.
Enillwyr
Dysgwr Disglair – Kate Barber a Dr Martine Garland
Wedi’i geni yn Nottingham a’i magu yn Swydd Henffordd, symudodd Kate Barber i Aberystwyth yn 2021 i astudio cwrs Meistr Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth. Wrth astudio’r cwrs, dechreuodd ddysgu’r Gymraeg gyda Duolingo, cyn cofrestru ar gwrs Lefel Mynediad. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, mae hi’n gweithio fel Cynorthwyydd Desg Gymorth yn llyfrgell y brifysgol, lle mae’r Gymraeg yn hanfodol. Mae hi hefyd yn mwynhau cymdeithasu yn yr iaith yn y gymuned leol.
Yn wreiddiol o Lundain, symudodd Martine Garland i Aberystwyth pan ddaeth yn ddarlithydd yn yr Ysgol Fusnes yn y brifysgol yn 2020. Roedd hi’n teimlo ei bod yn bwysig ei bod hi’n dysgu Cymraeg er mwyn gallu ei siarad yn y gymuned, ac felly aeth ati i ddysgu. Mae hi bellach yn gallu sgwrsio’n hyderus yn y Gymraeg gyda chydweithwyr, myfyrwyr ac aelodau o’r gymuned.
Hyrwyddo’r Gymraeg yn y Gweithle – Abigail Crook
Symudodd Abigail Crook i Aberystwyth yn 2009 i astudio Llyfrgellyddiaeth, cyn dod yn ôl yn 2018 i astudio gradd meistr mewn cyfieithu. Bu’n gweithio gyda’r Ysgol Fusnes yn y Brifysgol am gyfnod, cyn dod yn aelod o dîm Gwasanaethau Gwybodaeth y brifysgol. Yn ei swydd, mae hi’n awyddus i ddefnyddio’r Gymraeg mewn ffyrdd creadigol wrth lunio deunydd marchnata a thestun, i sicrhau fod yr iaith yn glir a dealladwy wrth greu adnoddau gwybodaeth ac wrth ei defnyddio yn ddyddiol gyda defnyddwyr y gwasanaethau ac â chydweithwyr.
Astudio Drwy’r Gymraeg – Ffion King
Mae Ffion King yn fyfyrwraig yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Cafodd ei geni yn Lloegr, ac yn ystod ei phlentyndod bu’n byw ym Mhapua Gini Newydd cyn dychwelyd gyda’r teulu i fyw yng Nghaerloyw yn ddeuddeg mlwydd oed. Yn ystod ymweliad â Chymru, prynodd gopi o’r Mabinogion yng Nghastell Caernarfon a sbardunodd ddiddordeb arbennig mewn llenyddiaeth Geltaidd. Mae hi’n teimlo’n angerddol dros y Gymraeg a dechreuodd ddysgu’r iaith ar ei phen ei hun chwe mis cyn mynychu’r Brifysgol ym mis Medi 2021. Mae’n fyfyrwraig cwiar ac awtistig, ac yn teimlo bod dysgu’r iaith wedi agor drws i’w diwylliant ac wedi creu byd newydd yn y Gymraeg.
Pencampwr y Gymraeg – Cai Phillips
Mae Cai Phillips, gafodd ei fagu ar fferm laeth ym Mlaenycoed, Sir Gaerfyrddin, yn astudio gradd gyfun mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Cyfryngau. Dewisodd Brifysgol Aberystwyth fel ei fod yn gallu astudio drwy’r Gymraeg a chael cyfle i fyw drwy’r Gymraeg. Yn ystod ei gyfnod yn fyfyriwr, mae wedi bod yn weithgar yn hybu ac yn hyrwyddo’r Gymraeg fel Swyddog y Gymraeg ar gyfer Cymdeithas Gerdded ‘Aberhike’ y Brifysgol yn ogystal â chynorthwyo UMCA i gynnal sesiynau sgwrs a phaned ar gyfer myfyrwyr sy’n dysgu’r Gymraeg yn wythnosol. Wedi iddo gwblhau ei gwrs, mae’n awyddus i ddilyn gyrfa mewn newyddiaduriaeth neu wleidyddiaeth.
Gwobr Arbennig y Panel – Yr Athro Elizabeth Treasure
Dechreuodd yr Athro Elizabeth Treasure ar ei rôl yn Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn 2017, ac yn ystod ei chyfnod yno mae hi wedi dysgu’r Gymraeg ac wedi bod yn ysgogi ac annog datblygiad a defnydd o’r Gymraeg. Rhan o hynny oedd datblygu cyrsiau newydd megis Milfeddygaeth a Nyrsio, a buddsoddi yn Neuadd Gymraeg Pantycelyn.
Tystysgrif Cydnabyddiaeth Arbennig
Fe wnaeth y panel gyflwyno Tystysgrif Cydnabyddiaeth Arbennig i’r myfyrwyr Gareth Tuen Griffiths o’r Adran Ffiseg, a Lowri Bebb, o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, ac i’r aelodau staff Chris Stewart (Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu), Colin Nosworthy (Tîm Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus), a Julie Roberts (Adran Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd) am eu hymrwymiad i’r iaith Gymraeg.
‘Ysbrydoliaeth’
Wrth longyfarch yr enillwyr, dywed Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwyr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol, ei bod hi’n “fraint” dathlu eu cyfraniadau.
“Braint arbennig hefyd oedd cydnabod cyflawniadau sylweddol yr Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure, cyn ei hymddeoliad,” meddai.
“Mae cyfraniad yr enillwyr a’r sawl sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth yn y Gwobrau eleni yn dangos y dylanwad cadarnhaol y gall unigolion ei gael i fod yn ysbrydoliaeth i’w cyd-fyfyrwyr a’u cydweithwyr.”