Bydd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yn ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn.

Roedd hi wedi bwriadu ymddeol fis Medi’r flwyddyn nesaf, ond bydd hi bellach yn rhoi’r gorau iddi ar ddiwedd y flwyddyn yn sgil triniaeth feddygol barhaus.

Cafodd ei phenodi i’r swydd yn 2017, gan arwain ers hynny ar ddatblygiadau academaidd amrywiol megis addysg nyrsio am y tro cyntaf, ac agor unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol Cymru.

Wrth roi cynlluniau ar waith i sicrhau cynaladwyedd ariannol, bu hefyd yn arwain prosiectau i ailwampio rhai o adeiladau eiconig y sefydliad, megis Neuadd Pantycelyn, a phrosiect parhaus yr Hen Goleg sy’n rhoi bywyd newydd i adeilad gwreiddiol y brifysgol ar bromenâd Aberystwyth.

‘Y penderfyniad cywir’

“Fel y gwyddoch, roeddwn wedi bwriadu ymddeol fel eich Is-Ganghellor yn 2024,” meddai’r Athro Elizabeth Treasure mewn neges at staff Prifysgol Aberystwyth.

“Fodd bynnag, rwyf wedi penderfynu ailasesu fy nghynlluniau yn dilyn triniaeth feddygol ddiweddar a pharhaus.

“Rwyf wedi ystyried y penderfyniad hwn yn ddwys dros y misoedd diwethaf gan fy mod wrth fy modd yn cydweithio gyda chi.

“Fodd bynnag, gan fy mod yn agosáu at y dyddiad ymddeol a gynlluniwyd, fe ddes i’r casgliad mai gadael ychydig yn gynt nag a fwriadwyd yn wreiddiol i ganolbwyntio ar fy iechyd oedd y penderfyniad cywir.

“Rwyf felly wedi gofyn i Gadeirydd Cyngor y Brifysgol, Dr Emyr Roberts, ddechrau’r broses o recriwtio Is-Ganghellor newydd yn gynnar, ac fe fyddaf yn gadael fy rôl ym mis Rhagfyr 2023.”

‘Cyfraniad eithriadol’

Mae Dr Emyr Roberts, cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth, wedi talu terynged i “gyfraniad eithriadol” yr Athro Elizabeth Treasure, gan ddweud ei fod yn “gwerthfawrogi’n fawr” ei rhesymau dros ymddeol yn gynt.

“Trwy ei harweinyddiaeth, mae Elizabeth wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r sefydliad hwn ers iddi gyrraedd yn 2017, ac mae wedi trawsnewid y Brifysgol mewn cymaint o ffyrdd a hynny drwy gadw ysbryd unigryw Aberystwyth,” meddai.

“Rydym wedi bod yn ffodus iawn i gael Is-Ganghellor o’i gallu, a gwn y bydd pawb yn y Brifysgol a thu hwnt yn dymuno’n dda iddi.

“Edrychaf ymlaen at gael y cyfle i ddiolch yn llawn i Elizabeth cyn iddi ymddeol ddiwedd y flwyddyn.

“Bydd Cyngor y Brifysgol nawr yn symud ymlaen i recriwtio Is-Ganghellor newydd i adeiladu ar y cynnydd rhagorol a wnaed yn ystod cyfnod Elizabeth, ac ar ein henw da byd-eang am ragoriaeth mewn addysgu ac ymchwil.”