Mae un sy’n byw yn Nhrelái ac a oedd yn dyst i’r anhrefn yno nos Lun (Mai 22) yn credu bod y gymuned wedi “cael eu gadael lawr yn wael” gan yr heddlu.

Yn ôl John Urquhart, wnaeth yr heddlu ddim llwyddo i wneud i bobol yn y gymuned deimlo’n fwy diogel wrth i’r sefyllfa yng Nghaerdydd ddechrau mynd allan o reolaeth a throi’n dreisgar.

Bu farw dau fachgen yn eu harddegau mewn gwrthdrawiad toc wedi 6 o’r gloch, cyn i’r anhrefn ddechrau.

Mae BBC Cymru yn adrodd mai Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, yw’r ddau berson ifanc fu farw, a’r gred yw eu bod nhw ar sgwter trydan ar y pryd.

Roedd sïon yn lledaenu oddeutu deugain munud ar ôl y digwyddiad fod yr heddlu’n rhan o’r gwrthdrawiad, a bu dyfalu ar y cyfryngau cymdeithasol wedyn, meddai John Urquhart.

Mae Heddlu De Cymru yn pwysleisio bod y gwrthdrawiad “eisoes wedi digwydd pan gyrhaeddodd swyddogion”, a dywed Alun Michael, Comisiynydd Heddlu’r De, fod y cysylltiad rhwng y gwrthdrawiad a’r anhrefn yn parhau’n aneglur.

Cafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau, gan gynnwys tân gwyllt, eu taflu at yr heddlu.

‘Sïon yn lledaenu’

Roedd John Urquhart yn ymlacio yn yr ardd gefn gyda chlustffonau ymlaen, ac felly chlywson nhw ddim byd o’r gwrthdrawiad cychwynnol.

Tua ugain munud wedyn, fe wnaethon nhw dynnu eu clustffonau a sylwi ar ddrôn heddlu, a mynd allan i’r stryd.

“Fe wnes i ddechrau cerdded fyny a siarad gyda phobol,” meddai Ysgrifennydd Cyffredinol plaid sosialaidd Harmony Party UK wrth golwg360.

“Roeddwn i wedi synnu ychydig gan nifer yr heddlu yno, dw i wedi cael gwybod ar Twitter heddiw bod hynny’n arferol ar gyfer gwrthdrawiad ffordd.

“Roedd yna bymtheg cerbyd yno o fewn pymtheg i ugain munud, dydy hynny ddim yn teimlo’n ofnadwy o arferol, ac roedd ganddyn nhw gŵn yno ymhen deg i bymtheg munud arall.

“Mae’n siŵr bod tua hanner i draean o heddlu i nifer y dorf.

“Roedd y rhan fwyaf o’r dorf yn passive, doedd yna ddim angen mawr am y math yna o arddangos grym, ac mae’n rhaid bod hynny wedi gwneud pobol yn nerfus, nawr fy mod i’n meddwl am y peth.

“Roedd yr heddlu yno’n sefyll, ddim yn gwneud dim, a thrigolion yn trio darganfod beth oedd yn digwydd a ddim yn cael gwybod dim gan yr heddlu.

“Es i fyny at yr heddlu a thrio rhesymu efo nhw, a dweud bod hon yn sefyllfa eithaf volatile.

“Os nad ydych chi’n rhoi gwybodaeth i bobol, yna maen nhw’n mynd i greu peth eu hunain, a bydd gennych chi sïon fydd yn lledaenu drwy’r dorf.

“Y sïon ar y stryd wnaeth ddechrau’r sïon ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Roedd y si wnaeth gyrraedd y cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn lledaenu ar y stryd ers y deugain munud cyntaf, mi glywais i e gan sawl person, ond doedd y rhan fwyaf o bobol yn yr ardal ddim yn ei gredu ar y pryd.

“Fe wnes i ffeindio allan wedyn bod yna glwstwr o bobol ar ochr arall y cyffordd allan o’n golwg ni, a dw i’n credu eu bod nhw yn ei gredu, a dw i’n credu mai dyna pam roedden nhw’n bod yn dreisgar, oherwydd eu bod nhw’n credu bod yr heddlu wedi lladd y plant a bod yr heddlu wedi troi fyny mewn niferoedd oherwydd roedden nhw’n disgwyl i bobol gicio ffwrdd pan oedden nhw’n ffeindio allan eu bod nhw wedi lladd dau o blant.”

Yn ôl John Urquhart, fe wnaeth y ddwy dorf gymysgu wrth i’r heddlu wthio pobol i un stryd, a dechreuodd y si fod yr heddlu’n rhan o’r gwrthdrawiad ledaenu yno ac yna ar-lein.

‘Gadael lawr’

Mae John Urquhart yn pwysleisio bod trigolion Trelái yn teimlo mai pobol o’r tu allan i’r ardal oedd yn bennaf gyfrifol am ddechrau tipyn o’r trais.

“Dw i’n meddwl bod pobol o’r tu allan i Drelái wedi dod mewn, achos dechreuodd llawer iawn o geir gyrraedd ar ôl hynny,” medden nhw.

“Roedd preswylwyr yn dechrau dweud bod pobol yn dechrau cyrraedd, ac yn dechrau mynd â’u plant i’r tŷ ac ati achos bod gymaint o geir yn rhuthro fyny ac i lawr y ffyrdd o amgylch y cyffordd fel ei bod hi ddim yn ddiogel wedyn.

“Fe wnaeth yr heddlu ryw fath o anwybyddu hynny, wnaeth ddim helpu achos doedd e ddim yn gwneud i bobol deimlo’n fwy diogel.

“Roedd hi’n sefyllfa mor gymhleth, ac mi ddaeth yr heddlu â’r holl spikiness a dim o’r softness. Roedd angen iddyn nhw wneud y pethau sy’n gwneud i’r gymuned ymddiried ynoch chi.

“Dw i ddim yn meddwl y gellid bod wedi osgoi’r trais yn gyfangwbl, roedd pobol yn flin a thrist, a ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd.

“Fe wnaeth rhai pobol ei weld fel cyfle i ddangos eu dicter tuag at yr heddlu; doedd hynny ddim yn gwbl annisgwyl.

“Ond doedd dim rhaid iddo ddatblygu i fod yn derfysg llawn gyda cheir pobol yn cael eu llosgi yn y stryd.

“Dw i’n siŵr bod yr heddlu wedi cael eu heffeithio ganddo, ond mae e yn rhan o’u swydd nhw i ddod dros hynny a gweithredu a chanolbwyntio ar anghenion y gymuned yn y sefyllfa ac nid ar eu hanghenion eu hunain.

“Dw i yn teimlo bod y gymuned wedi cael ei gadael lawr yn wael.”

Lefelau trais “annerbyniol”

Dywed Mark Travis, Dirprwy Prif Gwnstabl Heddlu’r De, fod eu meddyliau gyda’r ddau fu farw yn y gwrthdrawiad a’r rhai gafodd eu heffeithio gan yr anhrefn.

“Dydy rhain ddim yn olygfeydd rydyn ni’n disgwyl eu gweld yn ein cymunedau, yn enwedig cymuned glos fel Trelái,” meddai.

“Fe wnaethon ni dderbyn nifer fawr o alwadau gan breswylwyr oedd ag ofn yn sgil gweithredoedd y grŵp mawr hwn oedd yn bwriadu troseddu ac achosi anhrefn.

“Roedd lefel y trais tuag at y gwasanaethau brys a’r difrod i eiddo a cheir yn gwbl annerbyniol.”

Mae rhai wedi cael eu harestio eisoes, ac, yn ôl yr heddlu bydd rhagor i ddilyn.

Yn ôl Comisiynydd Heddlu’r De, cafodd tua dwsin o blismyn eu hanafu yn y digwyddiad, a chafodd pump o bobol eu cludo i’r ysbyty.

‘Trychineb ofnadwy’

Wrth siarad ar raglen Dros Ginio ar Radio Cymru, galwodd Heledd Fychan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, am ymchwiliad i’r digwyddiad.

Mae Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru, wedi galw am “gyfnod o lonyddwch”.

Dywed Kevin Brennan, Aelod Seneddol Llafur yr ardal, ei fod yn annog pobol i adael i’r ymchwiliad fynd rhagddo.

“Mae colli dau fywyd ifanc yn Nhrelái yn drychineb ofnadwy, ac mae fy meddyliau a chydymdeimladau dwysaf gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau.

“Bydd yna ymchwiliad manwl i amgylchiadau’r digwyddiad nawr.

“Byddwn yn annog pawb i ganiatáu i hwn fynd rhagddo.

“Does neb eisiau gweld unrhyw un arall yn cael ei frifo.

“Mae Trelái yn gymuned gref sydd wastad wedi dod ynghyd yn ystod adegau anodd.”

Yn ôl Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), dydy’r mater heb gael ei gyfeirio atyn nhw eto.

Dywed y Prif Weinidog Mark Drakeford, sydd hefyd yn Aelod o’r Senedd ar gyfer yr ardal, fod ei “feddyliau gyda phawb sydd wedi’u heffeithio” a’i fod yn “bryderus iawn i glywed am yr adroddiadau”.