Bydd disgyblion mewn ysgolion a myfyrwyr addysg bellach o deuluoedd incwm isel yn gallu elwa ar brydau bwyd am ddim dros hanner tymor mis Mai.
Yn sgil cyhoeddiad Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, mae disgwyl i hyd at 4,000 o ddysgwyr elwa ar y cynllun, gan gynnwys 115,000 mewn ysgolion.
Mae prydau bwyd am ddim i blant yn cael ei ariannu drwy’r Cytundeb Cydweithio rhwng y Llywodraeth Lafur a Phlaid Cymru.
Yn 2020, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i roi sicrwydd o brydau ysgol am ddim i deuluoedd cymwys yn ystod gwyliau.
Mae awdurdodau lleol yn penderfynu sut i weinyddu’r prydau, naill ai drwy gynnig cinio neu drwy ddarparu talebau neu daliadau uniongyrchol i deuluoedd, a bydd cynllun tebyg ar waith i fyfyrwyr addysg bellach cymwys.
“Hanfodol” tynnu pwysau oddi ar deuluoedd
Yn ôl Jeremy Miles, mae’n “hanfodol” fod teuluoedd yn cael mwynhau’r gwyliau, a bod Llywodraeth Cymru’n tynnu’r pwysau oddi ar deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi â’r argyfwng costau byw.
“Rwy’n falch ein bod ni wedi gallu ymestyn y gefnogaeth hon ymhellach i ddysgwyr mewn ysgolion a cholegau,” meddai.
“Rwy’ am annog teuluoedd i edrych i weld os oes modd iddyn nhw wneud cais am y cymorth hwn trwy eu Hawdurdod Lleol.”
Dywed Siân Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru, y “bydd caniatáu i ddisgyblion ysgol cymwys gael prydau ysgol am ddim yn ystod hanner tymor mis Mai yn help mawr i lawer wrth i’r argyfwng costau byw barhau i frathu”.
“Rwy’n falch ein bod, drwy weithio gyda’n gilydd, wedi sicrhau bod gan ddysgwyr gefnogaeth pan fydd drysau’r ysgol yn cau ar gyfer gwyliau mis Mai,” meddai.